Haydn & Mozart with Rachel Podger

Lleoliad:
Neuadd Prichard-Jones Hall
Amser:
Dydd Gwener 16 Mawrth 2018, 19:30

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Haydn a Mozart gyda Rachel Podger


Haydn Symffoni Rhif 8 yn G fwyaf "Le Soir"
Mozart Concerto Ffidil Rhif 1 yn B-feddalnod fwyaf
Mozart Adagio yn E fwyaf i ffidil a cherddorfa
Haydn Sinfonia Concertante yn B-feddalnod fwyaf i ffidil, sielo, obo a basŵn

Mae Rachel Podger yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mangor fel unawdydd a chyfarwyddwr. Mae'n arwain y gerddorfa ar daith drwy beth o'i hoff weithiau o'r cyfnod baróc diweddar a chlasurol cynnar, yn cynnwys perfformiad o goncerto cyntaf Mozart i'r ffidil, a'i Adagio yn E swynol ac emosiynol. Yn ogystal, bydd cerddorion o'r gerddorfa'n ymuno â Rachel i berfformio Sinfonia Concertante ysgafn Haydn.

Nos Wener 16 Mawrth

7.30pm

Neuadd Prichard-Jones

£15/£13.50/£5 myfyrwyr a dan 18

Tocyn Teulu: £15/£20