Huw Edwards: Duw a'r Ginshop: hanes cynnar capeli Cymraeg Llundain

Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Lleoliad:
Darlithfa 5 Pontio
Amser:
Dydd Gwener 24 Tachwedd 2017, 18:00–19:00

Nos Wener, 24 Tachwedd, 6pm

Darlithfa 5 Pontio 

AM DDIM ond bydd angen tocyn: https://tocynnau.pontio.co.uk/online/17Ginshop neu 01248 382828

Prif sylfaenydd y capel Cymraeg cyntaf yn Llundain oedd Edward Jones, cyn-filwr a thafarnwr. Yn y ddarlith hon bydd Huw Edwards yn olrhain hanes cynnar y capeli Cymraeg yn Llundain, ac yn esbonio eu pwysigrwydd o ran hanes a diwylliant Cymry Llundain.

Huw Edwards yw un o ddarlledwyr a chyfathrebwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, yn gyfarwydd i'r genedl am ei waith ar BBC News at Ten a’i ddarllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys. Mae hwn yn gyfle arbennig i’w glywed yn siarad am ei waith ymchwil diweddar, gan gynnwys rhan ohono a gafodd ei wneud yn archifau Prifysgol Bangor.

Traddodir y ddarlith hon yn y Gymraeg. Bydd nifer cyfyngedig o glustffonau cyfieithu ar y pryd ar gael.  Os byddwch angen un, archebwch yr offer drwy'r Swyddfa Docynnau (01248 382828) wrth i chi archebu eich tocyn am ddim.

Bydd llefydd parcio ar gael ger Prif Adeilad y Celfyddydau ar Ffordd y Coleg, a thu ôl i adeilad Thoday ar Ffordd Deiniol, ac yn y meysydd parcio cyhoeddus a restrir ar wefan Pontio.

Archebwch eich tocyn am ddim ddigon ymlaen llaw rhag i chi gael eich siomi!