Lladron a Llanc - Gŵyl Cymru-Tsieina

Lleoliad:
Stiwdio, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2018, 19:00–20:00

Lladron a Llanc

gan Hao Jingfang, addaswyd gan Steffan Donnelly


Mae dau adeiladwr yn ceisio gwneud da lle bo drwg yn y gymdeithas drwy dorri mewn i gartref swyddog llygredig. Mae gan y ddau syniadau gwahanol am beth yw cyfiawnder.

Première rhyngwladol addasiad newydd Steffan Donnelly o ddrama Tsieinïaidd gyfoes Hao Jingfang, Lladron a Llanc – sioe gomedi-trasig sydd â pherthnasedd byd-eang a ddengys anghydraddoldeb a chyfiawnder o fewn y gymdeithas fodern. Hao Jingfang yw'r ferch Asiaidd gyntaf i ennill Gwobr Hugo yn 2016 am ei nofela Folding Beijing, (ac roedd Stephen King yn cystadlu yn ei herbyn!), ac mae hi'n bysur wneud enw iddi ei hun fel awdur Tsieinïaidd o bwys.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol. 

Drama: Cymraeg, gydag is-deitlau Saesneg a Mandarin. 1 awr.

Canllaw oed: 14+

Sadwrn 17 Chwefror
7-8pm
Stiwdio, Pontio
£5 (Tocyn Gweld Mwy)

Rhan o ŵyl Cymru-Tsieina