Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Llafn o Wawl

Côr Glanaethwy

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Sul 18 Rhagfyr 2016, 19:30–21:30
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28
Theatr Bryn Terfel

Nos Sul, 18 Rhagfyr, 7.30pm
£12/£10

Noson arbennig i ddadorchuddio cerflun o Wilbert Lloyd Roberts a lansio CD diweddaraf Côr Glanaethwy.

Dau ddigwyddiad y bu disgwyl mawr amdanynt, dyna fydd yr arlwy yn Pontio heno. Mae dros flwyddyn bellach ers i Gôr Glanaethwy adael eu marc ar y rhaglen ‘Britain’s Got Talent’ a heno fe fyddan nhw’n lansio eu CD ddiweddaraf, yn cynnwys rhai o’r caneuon a berfformiwyd ganddynt yn y gyfres. Ond mae dipyn mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i Bwyllgor Apêl Cerflun Wilbert Lloyd Roberts gael ei sefydlu. ‘Wilbert’ oedd y cyfarwyddwr a gyfrannodd at osod sylfeini’r theatr yng Nghymru ac mae'n berygl na fyddai yna Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi debyg i’r hyn a welwn yma ym Mangor heddiw oni bai am ei weledigaeth ef.

Heno, i goffáu ei gyfraniad amhrisiadwy, fe fyddwn yn dadorchuddio cerflun Nick Elphick ohono yma yn Pontio. Wedi’r Nadolig fe fydd Côr Glanaethwy yn teithio ar draws yr Iwerydd i berfformio yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Felly dewch draw i ddymuno’n dda iddynt cyn eu hantur fawr ac i fod yn un o’r rhai cyntaf i weld y cerflun unigryw yma yn Pontio.

Llenor tu hwnt
i’r llenni; - fe
roddodd wefr ei
freuddwyd inni; Llafn
o wawl, a’n llwyfan
ni a lanwyd â’i oleuni.
John Gwilym Jones