Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Marchnad Nadolig Myfyrwyr

Cefnogi Myfyrwyr a Phrynu'n Lleol!

Lleoliad:
PJ Hall, Prif Adeilad y Celfyddydau
Amser:
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016, 12:00–17:00
Cyswllt:
B-Fentrus
Mwy o wybodaeth:
Digwyddiad ar Facebook

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'n dod yn nes bois! Os nad ydych chi wedi'i nodi yn eich dyddiadur eisoes, cynhelir y Farchnad Nadolig Myfyrwyr ar ddydd Gwener, 4 Rhagfyr, o 12-5pm yn Neuadd PJ. Mae’n gyfle gwych i brynu amrywiaeth o nwyddau i lenwi hosanau, yn cynnwys cacennau, gemwaith, crefftau a llawer mwy.

- Dwsinau o stondinau dan ofal cyd-fyfyrwyr, yn gwerthu amrywiaeth o gelf a chrefftau, bwydydd, gemwaith, planhigion, cardiau, addurniadau a llawer o anrhegion eraill.

- Amrywiaeth o gerddoriaeth fyw gydol y prynhawn.

- Bwyd poeth a gwin cynnes ar werth gan wasanaeth arlwyo'r Brifysgol, 'Bwyd@Bangor.' 

- Bydd canran o'r elw'n mynd i amrywiaeth o elusennau lleol a chenedlaethol. 

Dewch draw i gefnogi ein stondinwyr, cael pethau i lenwi hosan yn gynnar, a phrynu'n lleol!

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Linc i'r ddigwyddiad ar Facebook: https://www.facebook.com/events/1799877260268155/