Mark Steel: Every Little Thing's Gonna Be Alright

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 24 Chwefror 2018, 20:00

Mark Steel:

Every Little Thing’s Gonna Be Alright

Nos Sadwrn 24 Chwefror, 8pm
Theatr Bryn Terfel
£15

Yr adeg yma y llynedd, roedd yn annhebygol iawn y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; roedd gennym wrthwynebiad sylweddol i’r Llywodraeth Dorïaidd; ffŵl oedd Donald Trump a fyddai’n siŵr o golli i Hilary Clinton ac roedd Mark yn byw bywyd priodasol dedwydd. Blwyddyn yn ddiweddarach ac mae popeth yn sh*t! Ond peidiwch â phoeni oherwydd creda Mark, Every Little Thing’s Gonna Be Alright.

Datguddiodd sioe Mark Who Do I Think I Am, a werthodd allan, bod ei dad naturiol yn bencampwr byd backgammon. Erbyn hyn, yn seren sioe Radio 4 Mark Steel’s in Town, yn golofnydd papur newydd y flwyddyn, mae Mark yn ôl gyda sioe newydd, sy’n siŵr o wneud y byd yn fwy gwallgof nag ydyw’n barod.

Mae Mark wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl cyfres o Mark Steel’s In Town ar BBC Radio 4 (gyda chyfres newydd allan yn fuan) ac wedi bod ar daith byw o amgylch Prydain. Cyflwynodd Mark Mark Steel Lectures ar BBC2 a enwebwyd am BAFTA, mae’n wyneb cyson ar Have I Got News For You ar BBC1 a Newquiz ar Radio 4. Ymddangosodd hefyd ar QI a Room 101 ar BBC2. Mae Mark wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, gan gynnwys: Reasons To Be Cheerful a What’s Going On ac mae’n ysgrifennu colofn wythnosol i The Independent, colofn a ennillodd wobr Colofnydd y Flwyddyn yn y Press Awards yn 2015 iddo.

Canllaw oed: 14+ (peth iaith gref a themau oedolion)