Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Meilyr Jones

A gwestai arbennig - Casi

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2016, 20:00–22:30
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Y Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

Theatr Bryn Terfel
Nos Sadwrn, 10 Rhagfyr
£10


Mae’n bleser gan Pontio gyflwyno Meilyr Jones a hynny yn Theatr Bryn Terfel am y tro cyntaf.

Yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf o bop baróc gwerinol o’r enw 2013 – a gafodd ei ryddhau eleni - daw cyn-ganwr y band Race Horses i Fangor yn dilyn haf o berfformio mewn gwyliau ar draws Prydain fel rhan o’i ail daith.

Mae 2013 yn gyfoeth o ddylanwadau a gweadau cerddorol. Mae yna fflachiadau o faróc, sain recorder a harpsicord, recordiad o chwaraewr acordion Japaneaidd y daeth ar ei draws yn Rhufain, recordiadau o garioci ar ffôn, sain hyfryd a ddilynir gan chwa o Rebel Rebel David Bowie a recordiad organ mewn eglwys ym Mryste.

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth oedd yn teimlo’n iawn i mi ac yn mynegi fy niddordebau, sef cerddoriaeth glasurol a roc a rôl, a ffilmiau, a natur a charioci a phethau di-chwaeth,” meddai Jones. “Ac roeddwn i eisiau cyfleu’r teimlad hwnnw yn Rhufain, y gymysgedd o gelfyddyd uchel-ael a phethau isel-ael.”

Yn ymuno â Meilyr fel gwestai arbennig fydd Casi. Yn wreiddiol o ogledd Cymru ac erbyn hyn yn byw yn Llundain, mae llais hypnotig ac alawon heintus Casi wedi golygu iddi ennill ei phlwyf fel un o’r artistiaid mwyaf cyffrous sy’n dod o Gymru ar hyn o bryd.

Gig Sefyll
Canllaw oed: 16+