Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Noson Agored y Gyfraith

Lleoliad:
Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Llun 11 Mehefin 2018, 17:30–20:00

Ydych chi'n meddwl am newid gyrfa? 

Ystyried dychwelyd i astudio? 

Nid yw oedran yn rhwystr: gwnewch i'ch profiad a'ch sgiliau weithio i chi!

Mae’r Gyfraithyn un o'r cyrsiau mwyaf traddodiadol ac uchel ei barch y gallwch astudio mewn prifysgol. Gall arwain at nifer o lwybrau gyrfa, yn fwyaf nodedig yn y sector cyfreithiol - ond gall hefyd agor drysau i yrfaoedd mewn busnes, rheoli, llywodraeth leol, cyfrifeg, cyrff ymgynghorol, treth, bancio, yswiriant, dysgu a llawer mwy.

Dewch i ddysgu am yrfa yn y gyfraith ac am ein gwahanol gyrsiau gradd Cymhwyso yn y Gyfraith, gan gynnwys cwrs dwy flynedd Trosi at y Gyfraith ar gyfer graddedigion disgyblaethau eraill.

Hyd yn oed os nad ydych wedi cael gradd yn barod, neu os oes gennych gymwysterau ansafonol, mae croeso i chi ddod draw i ddysgu mwy am eich cymhwystra i wneud cais i astudio'r Gyfraith.

Bydd gwybodaeth ariannol a chyngor gan ein Tîm Cymorth Ariannol hefyd ar gael. 

5.30 – 8.00pm (lluniaeth a chofrestru am 5.30pm, dechrau am 6pm)

Am fanylion pellach ac i gofrestru ar gyfer yr achlysur, anfonwch e-bost at: mary.evans@bangor.ac.uk neu cysylltwch dros y ffôn ar 01248 388 082.