PLSPs ac Addasiadau Rhesymol
Sut i sicrhau bod eich myfyrwyr yn derbyn yr hyn mae ganddynt hawl iddo o ran addysgu a dysgu
- Lleoliad:
- Cledwyn 3
- Amser:
- Dydd Mercher 21 Mawrth 2018, 14:00–16:30
- Cyflwynydd:
- Carolyn Donaldson-Hughes & Jane Jones
- Cyswllt:
- CELT
Arweinir gan:
Carolyn Donaldson-Hughes, Pennaeth y Gwasanaeth Anabledd, Dr Jane Jones, Rheolwr Tîm Dyslecsia
Amcanion:
Mae gan fyfyrwyr amrywiaeth o anghenion dysgu ac mae gan staff addysgu gyfrifoldebau i sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael eu cyflawni. Amcanion y gweithdy hwn yw rhoi sylw i'r rhwystrau a wynebir gan fyfyrwyr anabl a'r strategaethau y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau y gall myfyrwyr anabl gymryd rhan lawn yn yr amgylchedd dysgu ac y gallant ddangos yr hyn y maent wedi ei ddysgu.
Caiff y rhai fydd yn bresennol gyfle i:
- Ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau tuag at fyfyrwyr anabl dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gyda phwyslais neilltuol yn cael ei roi ar y cysyniad o addasiad rhesymol.
- Ystyried astudiaethau achos a rhannu arfer da.
- Ddod yn gyfarwydd â'r broses Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) a'u rhan hwy ynddi.
- Adfyfyrio'n feirniadol a dadansoddi eu safbwynt eu hunain a safbwynt pobl eraill ynglŷn â dysgu cynhwysol gyda phwyslais ar fyfyrwyr anabl.
Pwy ddylai ddod:
Pawb sydd eisiau dysgu mwy am y broses PLSP a gwella eu dulliau o addysgu cynhwysol.