Rheoli Projectau: Rheoli’r PhD

Lleoliad:
Venue details are sent via calendar after booking
Amser:
Dydd Gwener 23 Mawrth 2018, 09:00–16:30
Cyflwynydd:
Doctoral School
Cyswllt:
Doctoral School
01248 382357

Y cwestiynau i'w gofyn a'r pethau pwysicaf yr ydych chi angen eu gwybod.Yn eich gyrfa ymchwil, mae'n debyg y byddwch yn gorfod trefnu, dadansoddi a chyflwyno llawer iawn o wybodaeth.  Hefyd byddwch yn gorfod rheoli eich amser, gosod nodau ac adolygu cynnydd - ac mae'n debyg y byddwch yn gorfod gweithio gydag eraill i'w hannog i wneud yr un fath.  Yn aml gosodir y set sgiliau hon o dan bennawd "Rheoli Projectau" ac mae amrywiaeth eang o gyflogwyr yn chwilio amdani.Erbyn diwedd y sesiwn, dylai'r rhai sy'n bresennol allu:

• Deall meini prawf rheoli projectau'n llwyddiannus ac ystyried hefyd pam mae rhai projectau'n methu 

• Deall, gwerthuso a gweithredu gwahanol ddulliau i helpu cynllunio ymchwil a chyfathrebu'r cynllun hwnnw

 • Gwerthfawrogi pwysigrwydd dadansoddi budd-ddeiliaid a risg 

Pa un a yw eich PhD yn seiliedig ar dîm rhyngwladol a chasglu data, neu ar syniad a ddatblygir gennych chi eich hun, bydd y cwrs hwn yn ffordd fuddiol a gwerthfawr o dreulio diwrnod.

Bwcio lle