Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Rob Beckett

Mouth of the South

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Iau 1 Rhagfyr 2016, 20:00–22:00
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Y Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

DATGANIAD GAN PONTIO: AILDREFNU DYDDIAD GIG ROB BECKETT YN PONTIO, BANGOR
Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi y bydd gig Rob Beckett ‘Mouth of the South’ oedd i gael ei gynnal yn Pontio, Nos Iau Rhagfyr 1af yn cael ei aildrefnu. Oherwydd ymrwymiadau ffilmio annisgwyl nid yw’n bosib i Rob ymuno â ni ym Mangor ar y 1af o Ragfyr bellach ac fe fydd y gig yn cael ei gynnal Nos Iau, 12fed Ionawr. Bydd eich tocynnau yn cael eu trosglwyddo i’r un seddi ar y dyddiad newydd a’ch tocynnau newydd yn cael eu hanfon yn fuan iawn. Os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus, gallwn drefnu ad-daliad drwy ein Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28 . Edrychwn ymlaen at groesawu Rob Beckett yn y Flwyddyn Newydd ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

 

Theatr Bryn Terfel
Nos Iau 1 Rhagfyr 8pm
Tocynnau: £15

Mae Beckett nôl gyda sioe newydd sbon ac mae'n taclo materion pwysig fel Kit Kats a ‘flatbread’! Mae’n un o sêr Live At The Apollo a Would I Lie To You? ar BBC1, 8 Out Of 10 Cats a Cats Does Countdown ar Channel 4, Mock The Week BBC2, Play To The Whistle ITV a Celebrity Juice ITV2. Mae Rob hefyd cyflwyno Dave’s podcast, The Magic Sponge, ochr yn ochr â Jimmy Bullard ac Ian Smith, yn ogystal â chyflwyno sioe boblogaidd Absolute Radio, Rock n Roll Football.

"There are hints that his eyes are set firmly on arenas that are as big as his mouth of his” – Metro
 
'Relentlessly smiley, perpetually grinning Londoner whose unshowy, unpretentious but thoroughly funny shtick has every chance of winning him a big audience…’ – Guardian
 
"Lights up the stage with his magnetic personality (not to mention the dazzle from his teeth)" - Mail on Sunday

Oedran: 14+