Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Seminar Ymchwil yr Ysgol Addysg

Lleoliad:
Lab IV, Adeilad Trefenai, Safle’r Normal
Amser:
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016, 13:00–14:30

Dr Stuart Beattie, SSHES, Prifysgol Bangor – "Archwilio gwahaniaethau unigol mewn gwytnwch: Sut i leihau, rheoli, a thrwsio"

Bywgraffiad

Mae Dr Stuart Beattie yn ddarlithydd/ymchwilydd mewn Seicoleg Perfformiad yn y Sefydliad Seicoleg Perfformio Elît (IPEP) o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.  Mae un o'i feysydd ymchwil yn canolbwyntio ar ba seiliau damcaniaethol a all gyfrif am ymddygiad gwydn.     

Crynodeb byr

Bydd y seminar ymchwil hwn yn canolbwyntio ar dri maes sy'n bwysig i ddeall gwytnwch.  Yn gyntaf, byddwn yn edrych ar sut mae pryder yn dylanwadu ar ganfod bygythiadau (mewn ffyrdd da a drwg) ac archwilio gwerthusiadau i her a bygythiad.  Yn ail, cyflwynir model o wahaniaethau unigol mewn gwytnwch.  Yn olaf, byddwn yn archwilio'r cylch gwytnwch a fydd yn canolbwyntio ar leihau bygythiad (h.y. canfod bygythiad yn fuan), rheoli bygythiad (h.y. ymdopi ar y pryd), a thrwsio (h.y. bownsio'n ôl ar ôl gofidiau).  Terfynir y sesiwn gyda nifer o negeseuon i'w hystyried adref o ran gweithredu gwytnwch yn eich bywyd eich hun.

Croeso cynnes i bawb ddod i’r seminar.