Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Shappi Khorsandi Mistress and Misfit

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 28 Ebrill 2018, 20:00–22:00

Off the Kerb yn cyflwyno

Shappi Khorsandi Mistress and Misfit


Mae Shappi'n cyflwyno arwres anghofiedig Lloegr, Emma Hamilton. Am lawer gormod o amser mae wedi cael ei hadnabod yn unig fel 'meistres Nelson' a thipyn o hwran. (Dach chi'n cael UN job mewn puteindy, a dyna'ch enw da'n fwd!) Doedd rhyddid merched ddim yn bod yn y cyfnod Sioraidd, ac roedd rhaid i Emma symud mynyddoedd i godi ei hun o 'forwyn cegin' i 'Lady Hamilton'. Oedd, mi roedd hi'n dawnsio'n noeth ar fyrddau'n achlysurol i fynd ymlaen yn y byd, ond pwy sydd ddim wedi gwneud hynny ynte? Fel cyd-ddawnswraig noeth ar fyrddau, mae Shappi wedi cael ei chyfareddu gan Emma, er nad oes arni hi byth eisiau gwallt digon mawr i fod yn gartref i lygod.

Yn seren Live At The Apollo, Michael McIntyre’s Comedy Roadshow, Friday Night with Jonathan Ross, Have I Got News for You a Q.I , mae Shappi ar daith gyda'i sioe newydd sy'n denu cynulleidfaoedd mawr.

Mae'n tanio jôcs fel bwledi ac yn ddiymdrech ddoniol wrth iddi drin a thrafod pob pwnc gyda ffraethineb hynod finiog. Eto'i gyd, mae ei dull cyflwyno direidus a'i phersonoliaeth swynol yn meddalu'r cyfan.

Mae Shappi Khorsandi hefyd yn awdur y gyfrol hynod boblogaidd A Beginners Guide to Acting English, a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf wych Nina is not OK gan Ebury yn 2016. Yn ddiweddar hefyd etholwyd Shappi yn llywydd Cymdeithas Ddyneiddiol Prydain.

14+ (Canllaw i rieni) Mae'n debygol y ceir rhegi a chynnwys addas i oedolion

Nos Sadwrn 28 Ebrill

8pm

Theatr Bryn Terfel

£15/£13 gostyngiadau