Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Stondin Wib Cyflogadwyedd

Lleoliad:
Pontio - Man Dysgu Cymdeithasol
Amser:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2018, 12:00–13:00
Cyflwynydd:
Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Cyswllt:
Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
01248 382071

Mae Gyrfaoedd yn galw! Bydd y Tîm Gyrfaoedd yn ymweld â safleoedd gwahanol trwy gydol y tymor hwn i gynnig Clinigau Cyflogadwyedd. Mae'r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i fod mewn lleoliadau cyfleus i chi allu galw heibio i sgwrsio am eich ymholiadau cyflogadwyedd a gyrfaoedd. Gallwch ddod â'ch CV i mewn i gael ei wirio, cael cymorth i lenwi ffurflenni cais ac ysgrifennu llythyrau eglurhaol, gofyn unrhyw gwestiynau am gyfweliadau a chynllunio gyrfa, cael cyngor am sut i chwilio am swyddi, neu gael awgrymiadau ar gyfer sicrhau lleoliadau profiad gwaith neu wirfoddoli. Nid oes angen neilltuo lle, dim ond galw heibio unrhyw bryd rhwng yr amseroedd a nodir ynghyd a'r lleoliad a nodir.