Sut i Gychwyn Ymgyrch Cyllido Torfol Llwyddiannus

Menter ac Arloesi (E006)

Lleoliad:
Darlithfa 3, Prif Adeilad y Celfyddydau
Amser:
Dydd Mercher 20 Mawrth 2019, 14:00–16:00
Cyflwynydd:
Jon Hughes, Providero
Cyswllt:
B-Fentrus
01248 388356
Mwy o wybodaeth:
Bwciwch ar-lein (bydd angen i chi mewngofnodi gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a cyfrinair Prifysgol Bangor).

Ydych chi’n unigolyn neu aelod o grŵp sydd eisiau codi arian am syniad, menter gymdeithasol, project, cymdeithas neu elusen? Neu efallai eich bod yn edrych i godi arian at fusnes newydd?

Dewch i wrando ar stori ddifyr Jon Hughes, perchennog llwyddiannus o Dŷ Te a Choffi a Model Rôl Syniadau Mawr Cymru, ar sut y cododd o arian trwy ddefnyddio Kickstarter i symud o werthu coffi mewn fan i fod yn berchen ar ddau gaffi yn Llandudno.

Cewch fewnwelediad gwerthfawr ar sut y daeth breuddwydion Jon yn realiti, a chewch eich ysbrydoli ar sut i lansio’ch ymgyrch cyllido torfol i’ch syniad neu fusnes.

 

Gall cyfranogwyr ennill 5XP tuag at eu Cyfrif Cyflogadwyedd.