Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Tai Chi- Dydd Gwener

Lleoliad:
Stiwdio Ddawns, Sefydliad Confucius
Amser:
Dydd Gwener 31 Ionawr 2020, 14:00–15:00
(A phob wythnos tan ddydd Gwener 19 Mehefin 2020)
Cyflwynydd:
Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor
Cyswllt:
01248 388555

TAI CHI 

AM DDIM

Hoffech chi

· Wella cydbwysedd, osgo, cryfder a hyblygrwydd eich corff?

· Liniaru straen a gorbryder?

· Wella eich cof, eich gallu i ganolbwyntio a chyflawni sawl gorchwyl yr un pryd?

Mae Tai Chi yn un o’r rhaglenni hirhoedledd a gwrth-heneiddio gorau y gallwch chi eu dilyn i wella’r corff a’r meddwl.

Ymunwch â ni, 14:00 - 15:00, bob dydd Gwener, gan ddechrau 17 Ionawr 2020 (* ac eithrio penwythnosau Gŵyl Banc)

Stiwdio Ddawns, Sefydliad Conficius, 9fed Llawr Adeilad Alun Roberts, Prifysgol Bangor.

Croeso cynnes i bob lefel a phrofiad.