Taith Hanes Hudolus

Lleoliad:
Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL572DG
Amser:
Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2019, 10:00–17:00
Cyflwynydd:
Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Cyswllt:
Dr Karen Pollock
Mwy o wybodaeth:
REGISTER

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfle ichi fynd ar daith hanes hudolus o amgylch Ynys Môn. Bydd staff Hanes ac Archaeoleg yn mynd â chi i amrywiaeth o safleoedd, gan olrhain datblygiad yr Ynys arbennig hon. O'r tomenni claddu cyn-hanesyddol i bontydd Thomas Telford, mae gan Ynys Môn stori unigryw i'w hadrodd.

Pryd: 10am-5pm, 23 Mawrth 2019
Gadael/dychwelyd: Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG
Ffi: Mae'r daith am ddim. Croeso i bawb 

Oes gennych chi ddiddordeb? Yna gadewch yr 21ain ganrif am ddiwrnod ac ymunwch â ni i ddarganfod dirgelion gorffennol hynafol a hanesyddol Ynys Môn.

Cofrestrwch i ddod

Dogfennau cysylltiedig: