Mai 2019

SuLlMaMeIGSa
1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031

40 Years of Alien

Lleoliad:
Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Iau 23 Mai 2019 – Dydd Gwener 24 Mai 2019
Cyflwynydd:
Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau
Cyswllt:
Dr Gregory Frame

40 Years of Alien

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, 23 - 24 Mai 2019

 alien40.bangor.ac.uk 

Mae Alien wedi gadael ei ôl ar ddiwylliant poblogaidd. Crewyd y ffilm yn bennaf i wneud yn fawr o boblogrwydd ffilmiau ffuglen wyddonol ddiwedd y 1970au ac ennill arian, cyfarwyddwyd gan rywun oedd yn adnabyddus am wneud hysbysebion (Ridley Scott) a chwaraewyd y prif cymeriad gan actores anadnabyddus (Sigourney Weaver), ac aeth yn bell y tu hwnt i'w ddiben gwreiddiol gan ofni ac aflonyddu ar gynulleidfaoedd o'r munud cafodd ei rhyddhau. Mae ei lwyddiant wedi arwain at dair ffilm ddilynol, dwy ffilm yn adrodd yr hanes cyn y ffilm gyntaf,  masnachfraint 'mashup', cyfres o lyfrau comig, nofelau graffeg, nofelau a gemau ac mae gan y ffilm nifer enfawr o gefnogwyr selog. Ers deugain mlynedd, mae Alien (a'i epil) wedi bod yn destun dadleuon a thrafodaethau bywiog ymhlith beirniaid ac academyddion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a safbwyntiau methodolegol.

Trefnir y gynhadledd gan y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor, a'i bwriad yw dod ag ysgolheigion o gefndiroedd disgyblaethol amrywiol at ei gilydd i drafod Alien ddeugain mlynedd ers ei ryddhau, trafod ei etifeddiaeth ac ystyried ei safle mewn diwylliant gweledol.