Cristnogion cynnar o Iwerddon a’r Alban yn wladychwyr cyntaf Ynys yr Iâ

Ogof artiffisial tri-siambr o Seljalandshellar. Ffotograff yn edrych tua’r gogledd-orllewin.: Tynnwyd   gan a © Kristján Ahronson.Ogof artiffisial tri-siambr o Seljalandshellar. Ffotograff yn edrych tua’r gogledd-orllewin.: Tynnwyd gan a © Kristján Ahronson.Datgelir mewn gwaith archeolegol sydd newydd ei gyhoeddi nad Llychlynwyr o Sgandinafia oedd trigolion cyntaf Ynys yr Iâ ond, yn hytrach, ymfudwyr o Iwerddon neu lannau gorllewinol yr Alban.

Mae pobl Ynys yr Iâ wedi ymddiddori ers amser maith yn yr ymfudwyr cynnar a sefydlodd eu cenedl - un o'r ynysoedd ieuengaf yn y byd i gael ei gwladychu - ac mae eu llyfrau hanes a'u chwedlau ar hyd y canrifoedd wedi datgan mai Llychlynwyr oedd preswylwyr cyntaf yr ynys.

Fodd bynnag, mae darganfyddiadau archeolegol newydd mewn ogofâu artiffisial yn Seljaland yn ne Ynys yr Iâ yn dangos bod yna weithgaredd dynol ar yr ynys bron i ganrif cyn yr anheddau Llychlynnaidd cynharaf.  Mae'r ogofâu hyn, a gloddiwyd gan bobl yn Seljaland, yn safleoedd dramatig, gyda nifer fawr o groesau i'w gweld o hyd ar eu muriau.

Er nad ydynt yn ddarganfyddiad newydd ynddynt eu hunain, ychydig o sylw academaidd a gafodd ogofâu artiffisial Ynys yr Iâ am ddegawdau. Fodd bynnag, maent wedi denu sylw cynyddol yn ystod y blynyddoedd diweddar, gydag ogofâu Seljaland yn awr yn cael eu hastudio fel rhan o ymchwiliadau archeolegol systematig i hanes cynnar Ynys yr Iâ.

Yn ei lyfr diweddaraf, Into the Ocean: Vikings, Irish, and Environmental Change in Iceland and the North (University of Toronto Press; http://www.utppublishing.com/Into-the-Ocean-Vikings-Irish-and-Environmental-Change-in-Iceland-and-the-North.html ), mae'r archeolegydd Dr Kristján Ahronson o Brifysgol Bangor yn herio'r hanes a dderbyniwyd yn gyffredin, gan ddatgelu bod y croesau a welir y tu mewn i ogofâu Seljaland (a mannau eraill yn ne Ynys yr Iâ) yn debyg iawn o ran eu harddull i rai a geir ar ymylon gogleddol a gorllewinol Prydain ac Iwerddon.        

Meddai Dr Kristján Ahronson:  "Mae hanes y 'seintiau' Celtaidd cynnar a'u gwaith yn lledaenu Cristnogaeth ar hyd yr arfordir gorllewinol wrth iddynt chwilio am fannau neilltuedig i ymsefydlu ynddynt yn ddigon cyfarwydd.  Yr hyn mae fy ngwaith i wedi'i wneud yw dangos y gallent fod wedi teithio lawer pellach, cyn belled ag Ynys yr Iâ, wrth geisio mannau gwyllt ac anghyfannedd i sefydlu eu cymunedau crefyddol.  Yn sicr, byddai presenoldeb cymunedau o'r fath yn Ynys yr Iâ - cyn i Lychlynwyr Oes y Ficingiaid gyrraedd yno - yn egluro ein darganfyddiadau yn Seljaland.

Darluniau o groesau A1 - C19 (o Seljalandshellar) a KV (o Kverkarhellir). Mae'r 'A' 'B' neu 'C ' cychwynnol, yn dangos  ym mha siambrau ogof Seljalandshellar y mae’r groes wedi ei leoli ynddi.: Darluniwyd gan Ian G Scott (© Kristjan Ahronson).Darluniau o groesau A1 - C19 (o Seljalandshellar) a KV (o Kverkarhellir). Mae'r 'A' 'B' neu 'C ' cychwynnol, yn dangos ym mha siambrau ogof Seljalandshellar y mae’r groes wedi ei leoli ynddi.: Darluniwyd gan Ian G Scott (© Kristjan Ahronson).Mae'r ogofâu yn Seljaland ymysg tua 200 o safleoedd ogofâu artiffisial sydd i'w cael yn ne Ynys yr Iâ.  Yn ein gwaith yn Seljaland fe wnaethom gofnodi dros 100 o groesau syml a 24 o enghreifftiau o rai wedi eu cerfio'n fwy cywrain.  Mae'r croesau hyn yn hynod debyg o ran eu harddull i gerflunwaith o'r oesoedd canol cynnar a geir yng Ngorllewin Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban, megis yr hyn a geir ym mynachlog ganoloesol gynnar bwysig Iona yn Argyll, yn ogystal â lleoliadau mwy anghysbell cymunedau Cristnogol cynnar yn yr Alban, megis Ogof Sant Molaise ar Holy Island (oddi ar Arran) a mannau gerwin yng ngogledd yr Iwerydd fel ynys fechan North Rona (i'r gogledd o Lewis a thir mawr yr Alban).  Mae ogofâu Seljaland yn rhyfeddol ynddynt eu hunain oherwydd nifer fawr y cerfluniau o groesau a geir yno a'r ffaith eu bod wedi cael eu cloddio o'r graig, ac maent yn rhan bwysig o'r anheddiad cynharaf a ddarganfuwyd hyd yma yn hanes Ynys yr Iâ." 

Mae Ahronson yn tynnu sylw at ddarganfyddiadau pellach sy'n ategu'r dadansoddiad o'i ddamcaniaethau.  Mae wedi medru rhoi dyddiad manwl i un o'r ogofâu artiffisial hyn drwy gael hyd i wastraff a ddaeth o ganlyniad i'r gwaith o gloddio'r ogof o'r graig.  Llwyddodd i bennu dyddiad i'r gwastraff adeiladu hwn drwy ei gysylltu â haenau o weddillion lludw folcanig. Mae timau o ymchwilwyr rhyngwladol wedi llwyddo i ddyddio'r haenau lludw hyn yn hynod fanwl ac maent yn gyfrwng pwerus i bennu dyddiadau i rai sy'n astudio canrifoedd cyntaf bodolaeth pobl ar Ynys yr Iâ. 

Mae gan Ahronson ddiddordeb hefyd yn y ffordd y gwnaeth pobl ymdopi â'r amgylcheddau gwyllt y daethant ar eu traws yn Ynys yr Iâ yn yr oesoedd canol cynnar, gyda'i choetiroedd arfordirol. Mae wedi datblygu dulliau archeolegol a palaeoecolegol newydd i ddatgelu arwyneb haenau o ludw folcanig fel 'negyddion ffotograffig' o arwyneb y tir pan syrthiodd y lludw, gyda thyllau wedi'u cadw yn y lludw lle gwnaeth coed neu lystyfiant ei atal rhag ymgasglu.  Mae'r gwaith palaeoecolegol hwn yn dangos rhai o'r effeithiau a gafodd yr ymfudwyr cynnar ar eu hamgylcheddau ac mae'n ein helpu i ddeall yn well y prosesau a ddefnyddiodd pobl i glirio a rheoli'r coetiroedd hynny a chyfrannu at greu'r tirlun bugeiliol (gyda'i briddoedd ansefydlog) a welir heddiw yn Ynys yr Iâ.  Unwaith eto, gellir pennu dyddiadau manwl i'r gweithgareddau dynol hyn ac mae darganfyddiadau Ahronson yn cyd-daro â thrywydd  ymchwiliadau eraill.

Meddai David Griffiths o Adran Archaeoleg Prifysgol Rhydychen am y thesis a gynigir yn llyfr Ahronson: 

"Mae hwn yn llyfr pwysig a manwl, wedi'i seilio ar ysgolheictod, gwaith maes a chofnodi cadarn.  Bydd yn aildanio'r ddadl ynghylch y gwladychu cynharaf yn Ynys yr Iâ."

A dyma oedd sylwadau Richard North o'r Adran Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain:  

"Cyflwynir deunydd archeolegol Ahronson drwy ddisgrifiadau a ffotograffau manwl iawn ac ni ellir osgoi pwysigrwydd ei ddamcaniaeth bod cymuned o Gristnogion Gaelaidd o Iwerddon neu arfordiroedd gorllewinol Prydain wedi ymsefydlu ar arfordir deheuol Ynys yr Iâ tua'r flwyddyn 800."

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "Viking beaters: Scots and Irish may have settled Iceland a century before Norsemen"  wedi ei gyhoeddi ar The Conversation gan Kristjan Ahronson. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2015