Cabaret Pontio: Talisk + Gwilym Morus-Baird

Location:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Time:
Friday 22 November 2019, 20:00–22:00

Yn eu pum mlynedd, mae’r band o’r Alban, Talisk, wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys Band Gwerin y Flwyddyn 2017 yng ngwobrau BBC Alba Scots Trad Music a BBC Radio 2 Folk Award, am eu sain sy’n llawn egni ond wedi’i blethu’n gelfydd.

Mae Mohsen Amini – enillydd Cerddor y Flwyddyn 2018 yn y BBC Radio 2 Folk Awards, Hayley Keenan a Graeme Armstrong yn cyfuno’r concertina, ffidil a’r gitâr er mwyn cynhyrchu sain aml-haenog a swynol sydd wedi swyno cynulleidfaoedd o’r Unol Daliaethau i Awstralia, a thrwy Brydain.

Drwy nifer o ymddangosiadau mewn gwyliau blaengar ym mhedwar ban byd – o Ŵyl Gwerin Caergrawnt i Tønder Denmarc, WOMAD y DU a Las Palmas, Gŵyl Gwerin Philadelphia, Celtic Colours, Gŵyl Wyddelig Milwaukee a phump ymddangosiad yn Celtic Connections Glasgow – mae’r tri wedi derbyn y ganmoliaeth uchaf gan gyfryngau gwerin a cherddoriaeth byd ac wedi meithrin dilyniant selog.