Newyddion y Brifysgol
- Newyddion y Brifysgol diweddaraf
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Newyddion y Brifysgol A–Y
Newyddion y Brifysgol: Rhagfyr 2012
Bwrsariaethau Cymraeg cyntaf Ysgol Seicoleg yn arwain at swyddi lleol
A hithau’r Brifysgol gyntaf i gyflwyno cymhwyster MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn 2003, mae myfyrwraig sy'n astudio'r Cwrs Meistr ABA yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi dod y fyfyrwraig cwrs Meistr gyntaf yn yr Ysgol y gyflwyno’i thraethawd ymchwil Meistr yn y Gymraeg. Mae Dadansoddi Ymddygiad Cynhwysol yn canolbwyntio ar ddefnyddio egwyddorion dysgu sylfaenol i ddatblygu newid ymddygiad er y gwell ar gyfer unigolion, grwpiau o bobol, a cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012
Oes Aur Canu Pop Cymraeg
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa’r flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf. Mae Hannah Way, sy’n byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio ‘Oes Aur’ pop Cymraeg ar ran yr Amgueddfa. Mae hi’n ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012
Deall Siopwyr - a all gwên neu arogl effeithio ar beth rydych yn ei brynu?
Dros y chwe mis diwethaf, mae Ysgol Seicoleg Bangor wedi bod yn gweithio gydag un o grwpiau ymchwil amlycaf y byd ym maes siopa, Shopping Behaviour Explained (SBXL), i ganfod sut mae pobl yn siopa. Mae hyn yn rhan o'r rhaglen Wales Strategic Insight Programme(SIP).
Felly, y tro nesaf y byddwch yn siopa a sylwi ar wên hyfryd ar becynnau, neu efallai glywed arogl deniadol yn yr aer, efallai'n wir y byddwch yn dod ar draws dulliau gwerthu sydd wedi'u seilio ar ymchwil a ddechreuwyd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2012
Stevie yn hwylio'r Iwerydd
Mae aelod o staff Prifysgol Bangor wedi hwylio'n llwyddiannus dros yr Iwerydd yn ddiweddar i godi arian ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Biwmares.
Cymerodd Stevie Scanlan, Rheolwr Marchnata yng Ngholeg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Prifysgol Bangor, fis o wyliau di-dâl yn ddiweddar i gyflawni'r her unwaith mewn oes hon gyda'i brawd a'i thad.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2012
Cyfansoddiad sy’n ymdrin â dyslecsia’n cael sylw ar Radio 4
Bydd gwaith cerdd a fideo newydd a ysgogwyd gan ddyslecsia, a'r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyflwr yn derbyn sylw ar raglen ‘All in the Mind’ Radio 4, sy’n ymchwilio’r rhwystredigaethau a’r potensial o fewn ein hymennydd. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu nos Fawrth 18 Rhagfyr am 9.00 yn ac eto am 3.30 brynhawn Mercher 19 Rhagfyr. Bydd hefyd ar gael ar lein wedi’r darllediad gyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012
Dysgu am galigraffeg
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012
Myfyriwr yn cyfrannu at gynhyrchu ffilm ar gyfer teledu ac ar gyfer y Brifysgol
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi cychwyn cwmni cyfryngau ei hun, eisoes wedi gweithio ar ffilm i’r BBC, cael ffilm ganddo wedi’i darlledu ar S4C ac wedi’i gomisiynu i gynhyrchu fideos byr i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012
Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod â’r wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern
Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB), sydd yn gweithio ar broject gwyddonol arloesol ar newid hinsawdd, wedi bod yn ymweld â Phrifysgol Bangor i weithio yn y labordai, fel rhan o’u project: Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew.
Mae gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor wedi bod yn arwain y project o dan Grant Partneriaeth gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU. Maent wedi bod yn gweithio efo’r disgyblion ers mis Medi. Mae’r project wedi bod yn cyflwyno i’r disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid môr mewn rhan o’r byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2012
Sefydliad Confucius yn dod a dysgu iaith Tsieinëeg i Fangor
Mae’r iaith Tsieinëeg ymysg y pum iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu, yn ôl erthygl yn Newyddlen Sefydliad Confucius yma.
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau iaith Tseineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012