Newyddion y Brifysgol: Hydref 2018

Degfed blwyddyn Cyrsiau Preswyl Ysgol y Gymraeg yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn

Cyrsiau Cymraeg Iaith Gyntaf (19-21 Tachwedd 2018) ac Ail Iaith (21-23 Tachwedd 2018)

Mae cyrsiau preswyl Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, wedi hen ennill eu plwyf ymhlith disgyblion ac athrawon. Bellach yn eu degfed blwyddyn, maent yn gyfle blynyddol i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf ddod ynghyd i gael gwledd o drafodaethau ar y meysydd a’r materion sy’n berthnasol i’w cyrsiau Cymraeg Safon U/UG.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Family habit of inheriting volunteer roles could help small charities

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones, Myfyrwraig Phd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn r#mce_temp_url#hannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben

Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben.

Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018

Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth

Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno.

Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN. 

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018

Prifysgol Bangor yn derbyn dwy wobr Athena SWAN

Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn i gyhoeddi y bu cais diweddar am wobr Efydd Athena SWAN ar lefel sefydliad yn llwyddiannus. Roedd cais yr Ysgol Gwyddorau Eigion am wobr Efydd ar lefel adrannol hefyd yn llwyddiannus. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2018

Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.

Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Myfyrwyr Bangor yn cynrychioli projectau Ymwneud â'r Gymuned yn Nhŷ'r Cyffredin

Rhoddwyd cyflwyniad gan grŵp o gynrychiolwyr Prifysgol Bangor i'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ieithoedd Modern yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan yn ddiweddar. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr, gydag aelodau seneddol eraill a chynrychiolwyr Tŷ'r Arglwyddi, y Cyngor Prydeinig, y Comisiwn Ewropeaidd, Goethe Institut, Sefydliad Confucius a sefydliadau a phrifysgolion eraill ledled y DU yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018

Cynaeafu data amgylcheddol gydag ap

Mae economi  Cambodia ymysg yr economïau sydd yn datblygu gyflymaf yn y byd. Mae’r wlad yn symud o economi wledig i un ddiwydiannol a dinesig  yn gyflym iawn, ond mae’r llywodraeth hefyd, yn ei hawydd i ddatblygu, yn awyddus i fod yn gynaliadwy ac i beidio â cholli adnoddau naturiol gwerthfawr.

Bydd ymchwil newydd gan wyddonwyr amgylcheddol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Efrog Newydd (UDA) a chorff anllywodraethol yn  Cambodia, Keosothea Nou (Cymdeithas Datblygu Cymunedol, Cambodia) yn rhoi golwg gyffredinol ar adnoddau amgylcheddol y wlad, a sut y cânt eu defnyddio gan unigolion gwahanol.  Bydd y wybodaeth yn helpu’r llywodraeth i ddatblygu polisïau cynaliadwy i’r wlad rymus hon. Mae hwn yn un o 13 project newydd a gyllidir drwy gais ESRC Transformative Research.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

Edible crabs won't cope with the effects of climate change on seawater – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nia Whiteley o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

More in depth data is required to reveal the true global footprint of fishing

Dyma erthygl yn Saesneg gan Mike Kaiser, Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorai Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018

Newid Cymru - Canolfan ymchwil genedlaethol yn dathlu deng mlynedd

The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods (WISERD) is celebrating ten years of influencing policy and debate.

A collaboration of five Welsh universities (Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea), WISERD has carried out a decade of pioneering research, providing important insights into the social and economic challenges facing Wales.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018

We tracked coral feeding habits from space to find out which reefs could be more resilient

 

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Gareth Williams o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018

Emotions: how humans regulate them and why some people can't

Dyma erthygl yn Saesneg gan Leannae Rowlands, Myfyrwraig PhD mewn Niwrowyddonioaeth yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2018

Gall gwyddonwyr nawr ragweld arferion bwydo cwrel o'r gofod

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cwrel trofannol  sy'n byw mewn dyfroedd mwy cynhyrchiol yn manteisio ar y cynnydd mewn bwyd sydd ar gael ac y gellir rhagweld yr arferion bwydo hyn o loerennau sy'n troi o gwmpas ein planed.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2018

Ffiseg Gwantwm a Chwedlau Cymraeg yn Harvard

Yn ddiweddar, rhoddodd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg y brif ddarlith yn yr 'Harvard Celtic Colloquium'. Dyma gynhadledd flynyddol fyd-enwog sy'n tynnu ynghyd ysgolheigion Celtaidd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018

Prifysgol Bangor yn cynnal Dosbarthiadau Meistr Cerdd yn Tsieina

Bydd Iwan Llewelyn Jones, academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, yn ymweld â Tsieina yn ddiweddarach y mis hwn i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr  i fyfyrwyr cerddoriaeth yn Beijing, Shanghai a Guangzhou.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018

Dathlu llwyddiannau deiliaid diweddaraf y Dystysgrif Sgiliau Iaith

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Shwmae Su’mae yma ym Mhrifysgol Mangor, cynhelir digwyddiad i ddathlu gwaith myfyrwyr Cangen Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfle i roi sylw i rai o’r myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo i ennill y Dystysgrif Sgiliau Iaith eleni. Bydd rhai o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio ym Mangor yno hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018

Prifysgol Bangor yn agor canolfan ymchwil biotechnoleg newydd

Ym mhresenoldeb gwyddonwyr ymchwil o bob rhan o Ewrop, cynrychiolwyr y diwydiant a swyddogion o Lywodraeth Cymru, agorwyd canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Bydd y ganolfan yn darganfod ensymau newydd sydd â'r potensial i drawsnewid effeithlonrwydd diwydiannau sy’n ymwneud â biotechnoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018

Cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae

Derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae, sef diwrnod sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Cymrodoriaeth rhyngwladol o bwys i ymchwilydd addawol lleol

Mae ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth Fyd-eang Marie Sklodowska Curie, a gyllidir drwy Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’r Gymrodoriaeth, sydd yn hyrwyddo symud rhyngwladol a chyfnewid gwybodaeth, yn galluogi Dr Karina Marsden o Fethesda i dreulio dwy flynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia, cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer blwyddyn olaf ei phroject ymchwil. Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth yn dilyn cais ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor a Melbourne.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Gwobr arall i Lety Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Mae Neuaddau Preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ennill ‘Best Student Halls’ gan ffynhonnell gwybodaeth o bwys i ddarpar fyfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018

Are electric fences really the best way to solve human-elephant land conflicts?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Liudmila Osipova, myfyrwraig doethurol ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi ei gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018

Wythnos Am Wastraff #WAW18

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.

Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws BywNeuaddau PreswylTai Myfyrwyr, Arlwyo, y Swyddfa RyngwladolCyngor GwyneddSefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff(CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau

Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018

Ymchwil Prifysgol Bangor yn llywio polisi cenedlaethol ac yn rhoi sylfaen dystiolaeth i Gynllun Gweithredu Addysg Wledig cyntaf Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams (heddiw) wedi lansio Cynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd Llywodraeth Cymru sy’n cyflwyno nifer o fentrau a mesurau ar gyfer gwella addysg a phrofiadau yn ysgolion gwledig Cymru.

Mae’r cynllun gweithredu’n rhan greiddiol o’r diwygiadau gweddnewidiol sydd wedi eu hamlinellu yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, sy’n nodi beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r gyfundrefn ysgolion erbyn 2021. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion am weithgareddau a fydd yn troi polisïau’n ymarfer yn ein hysgolion. Mae’r cynllun gweithredu’n defnyddio tystiolaeth ac argymhellion o adroddiad ymchwil dan arweiniad Gwilym Siôn ap Gruffudd o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor. Comisiynwyd yr adroddiad: Rethinking Educational Attainment and Poverty- in Rural Wales (REAP) gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol ERW a GwE trwy broses dendro gystadleuol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018

Mae data cydraniad uchel yn cynnig y lluniau manylaf erioed o ôl troed pysgota treillio ledled y byd

Daw tua chwarter o fwyd môr y byd sy'n cael ei ddal yn y cefnfor o dreillio'r gwaelod, dull sy'n golygu tynnu rhwyd ​​ar hyd gwely'r môr ar silffoedd a llethrau cyfandirol i ddal berdys, penfras, pysgod creigiog, lledod chwithig a mathau eraill o bysgod a physgod cregyn sy'n byw ar waelod y môr. Mae'r dechneg yn effeithio ar ecosystemau gwely'r môr, mae'r rhwydi'n gallu lladd neu darfu ar fywyd a chynefinoedd morol eraill yn anfwriadol.

Mae dadansoddiad newydd sy'n defnyddio data cydraniad uchel ar gyfer 24 o ranbarthau'r môr yn Affrica, Ewrop, Gogledd a De America ac Awstralasia yn dangos mai dim ond 14 y cant o lawr cyffredinol y môr sy'n fasach na 1,000 metr (3,280 troedfedd) sy'n cael ei dreillio. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2018

Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018

Tansanïa i fabwysiadu polisïau newydd i ddiogelu stociau pysgod

Mae Gweinyddiaeth Da Byw a Physgodfeydd Tansanïa yn bwriadu mabwysiadu argymhellion ar gyfer cadw'r amrywiaeth genetig unigryw o tilapia ar gyfer diogelwch bwyd.

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Sefydliad Earlham yn Norwich ac yn Tanzania Fisheries Research Institute (Tafiri), a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018

Pedwar myfyriwr Prifysgol Bangor yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bu pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymgymryd â her flynyddol Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018

Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth

Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Universities must look at local employment markets when building their graduates' skills

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Teresa Crew o’r YsgolHanes, Athroniaeth a gwyddorau Cymdeithasol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd

Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018

Why we should give prejudiced students a voice in the classroom

Dyma erthygl yn Saesneg gan Corinna Patterson o'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2018

Gwobr Fulbright yn gwireddu ymchwil Telyn Deires

Mae myfyrwraig o’r Unol Daleithiau newydd gychwyn ar radd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi iddi dderbyn Gwobr Fulbright uchel ei bri.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2018