Newyddion y Brifysgol: Ionawr 2019

Gwobr gyrfa cynnar o bwys yn cael ei ddyfarnu i fymyrwraig PhD

Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yw'r ferch gyntaf i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith rhagorol ym maes gwaddodeg môr.

Enillodd Megan Baker WOBR YMCHWIL RICHARD W. FAAS yr International Association of Sedimentologists a gwobr ariannol o €2000. Dyfernir gwobr Faas bob dwy flynedd i ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa.  Dyma hefyd y tro cyntaf i'r wobr hon gael ei rhoi i fyfyriwr PhD.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2019

Estyn cymhellion ariannol i ddenu athrawon newydd

Mae staff yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i flwyddyn academaidd 2019-20.

Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019

Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio

Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.

Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019

Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio

Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.

Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019

Myfyriwr PhD Seicoleg yn dawnsio ei PhD mewn cystadleuaeth ryngwladol

Mae myfyriwr PhD Seicoleg ym Mrifysgol Bangor, Kohinoor Darda, wedi cofrestru ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol sy'n rhoi cyfle iddi egluro maes ymchwil ei PhD.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd

Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019

Tiwtor ysbrydoledig o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr tiwtor cenedlaethol

Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy’n atgoffa myfyrwyr i ffonio eu teuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol.

Mae’r darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Siân Pierce, sy’n cael ei rhyfeddu’n barhaus gan bobl, wedi ennill Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! ar ôl gwylio miloedd o’i myfyrwyr yn graddio dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd.

Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiannau tiwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos brwdfrydedd ac ymroddiad neilltuol i annog, cefnogi ac addysgu oedolion eraill i anelu at nod a thrawsnewid eu bywydau, boed yn eu cymuned neu yn y gweithle.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2019

Why people with anxiety and other mood disorders struggle to manage their emotions

Dyma erthygl yn Saesneg gan  Leanne Rowlands, Myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2019

Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile

Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar  Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019

Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru

Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru.

Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2019

Dull gwell o adrodd am ymchwil a fydd yn gwella gofal cleifion

Gallai cleifion gael gofal a chanlyniadau gwell yn sgil canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil a ddatblygwyd o astudiaeth a gyfrannodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ati.

Mae arbenigwyr wedi datblygu dull sy'n hwyluso’r broses o adrodd am ganfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol megis gwybodaeth a gasglwyd o gyfweliadau â chleifion a grwpiau ffocws.

Mae'r astudiaeth wedi arwain at lunio’r canllawiau cyntaf wedi’u teilwra ar gyfer adrodd ar y  fethodoleg hon, a elwir yn feta-ethnograffeg. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ymchwilwyr a phenaethiaid gofal iechyd yng nghanfyddiadau astudiaethau ansoddol ac, yn y pen draw, yn helpu i wella gofal cleifion a gwasanaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019

Exercise can fast-track your workplace well-being - here's how

Dyma erthygl yn Saesneg gan  Myfyrwraig ymchwil PhD Rhi Willmot o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019

Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd  yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019

How our unconscious visual biases change the way we perceive objects

Dyma erthygl yn Saesneg gan Beverley Pickard-Jones Ymchwilydd PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversationar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019

Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia

New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018.

This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Diwrnod Fenwm Prifysgol Bangor yn denu rhai o brif arbenigwyr y maes

Fe wnaeth pobl o bob cwr o'r byd sy'n ymddiddori ym maes tocsinau deithio i Ogledd Cymru i ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Ymunodd academyddion blaenllaw, arbenigwyr rhyngwladol a seren deledu â dros gant o bobl ar gyfer y gynhadledd Diwrnod Fenwm unigryw ym Mangor i drafod tocsicoleg a rhywogaethau gwenwynig.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Why foraging for free is food for the soul

Dyma erthygl yn Saesneg gan Elisabeth S. Morris-Webb  Ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

“Am wasanaeth wrth fynd i’r afael â thlodi tramor ac am wasanaeth i addysg yn Derby”

Mae Dr Daljit Singh Virk, Cymrawd Ymchwil Uwch gyda Phrifysgol Bangor wedi ei ddewis i dderbyn anrhydedd yr OBE.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod effaith cyfraniad gwyddonol Dr Virk fel genetegydd a bridiwr planhigion yn ogystal â’i gyfraniad blaenllaw wrth sefydlu Ysgol Gynradd Akaal yn Derby yn 2015, ysgol sy’n dilyn crefydd Sikh a sefydlwyd fel ysgol rydd o dan y Ddeddf Academïau.

Mae Dr Virk wedi bod wrth wraidd un o brojectau Prifysgol Bangor sydd wedi cael yr effaith fwyaf ac sydd wedi cyfrannu at wella diogelwch bwyd a bywoliaeth miloedd o gartrefi mewn rhai o wledydd tlotaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2019

Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)

Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd 'Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes', llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019

Gwella bridio pysgod trofannol o ganlyniad i gydweithio newydd

O ganlyniad i gydweithio newydd, bydd technegau arloesol yn galluogi rhai o’r prif acwaria sydd hefyd yn gyrchfannau twristiaeth fridio eu pysgod trofannol eu hunain.

Mae larfae nifer o rywogaethau pysgod mor fach fel na ellir ei gweld gyda’r llygad, ac mae eu bwyd hyd yn oed fwy meicrosgopig ei natur. Mae hyn yn ei gwneud yn her i’w bridio mewn tanc.

Ond mae  arbenigwyr dŵr amaethu (aquaculture) ym Mhrifysgol Bangor yn credu  y gallent helpu’r diwydiant acwaria i ddatblygu technegau i fagu eu pysgod riffiau cwrel eu hunain o larfae y maent wedi ei gasglu o’u acwaria.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2019

Lynette Roberts: Welsh poet who fused touch and sight into sound

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Zoë Skoulding o'r Ysgol Ieithioedd Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2019