Newyddion y Brifysgol: Hydref 2019

Botswana is humanity's ancestral home, claims major study – well, actually …

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019

Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

‘Climate change: hope from despair?’ – darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg

Newid hinsawdd fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 20 Tachwedd. Y siaradwr yw Kevin Anderson, Athro Ynni a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019

Gwella cynhyrchiant Hyrddod a mynd i'r afael â throseddau

Mae Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn yn mynd i'r afael â throseddau gwledig, drwy ddefnyddio dyfais IoT (y Rhyngrwyd Pethau) sydd wedi cael ei datblygu’n arbennig. Gan ddod â thechnoleg IoT ac arloesedd ynghyd, mae dyfais sydd yr un maint â bocs matsis wedi cael ei chreu sy’n gallu helpu i fynd i'r afael â dwyn defaid, cŵn yn poeni defaid, ac mae hyd yn oed yn gallu tracio patrymau paru hyrddod.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019

Lab-grown mini brains: we can't dismiss the possibility that they could one day outsmart us

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’

Sefydlwyd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.  Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae’r cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y lôn!

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Cyllid gwerth £4 miliwn yn rhoi hwb ar gyfer ymchwil i 5G yng Nghymru

Mae Cymru ar fin dod yn un o arweinwyr y byd ym maes technoleg 5G, ar ôl i Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol gael ei chyhoeddi, a fydd yn derbyn cyllid gwerth £4 miliwn gan yr UE.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol yn gwneud ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwella Prosesu Signalau Digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, gan wella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernïaeth rhwydwaith yn gweithio'n sylweddol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Gallai Cymru arbed biliynau o bunnau'r flwyddyn trwy fuddsoddi mewn gweithlu iachach

Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth o'r dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth

Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Researchers invent device that generates light from the cold night sky – here's what it means for millions living off grid

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Cyfrifiaduref a Pheirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2019

Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae 2019

Gyda’r Diwrnod Shwmae Su’mae bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15).

Nod Diwrnod Shwmae Su’mae yw hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a’n myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o’r Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei

Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau.

Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Airbus, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd

Gwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Bangor a'i phartner cyflenwi, Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019

Myfyriwr Bangor yn cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019.

Bydd Cai Fôn Davies, 19, o Fangor sy’n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes, yn cystadlu Nos Wener, Hydref 11eg yn Neuadd Goffa’r Barri.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad?

Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro er budd elusen Mind

Ar ôl blwyddyn o ddod i adnabod ei gilydd ac ymarfer, fe wnaeth grŵp o 32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyrraedd copa mynydd Kilimanjaro gyda'i gilydd ychydig ar ôl codiad haul ar y 9ed o Fedi.

Roedd y daith lafurus hon i fyny mynydd uchaf Affrica, sydd 5,895 metr uwch lefel y môr, er budd yr elusen iechyd meddwl Mind ac mae'r tîm hyd yma wedi codi bron i £100,000.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.  Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.

Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.  Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.

Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Prifysgol Bangor yn ennill dwy wobr Athena SWAN - y tro cyntaf i Ysgol Busnes Bangor

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod dau gais diweddar i Athena SWAN gan Ysgol Busnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg wedi bod yn llwyddiannus. Ysgol Busnes Bangor yw'r Ysgol gyntaf o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes i ennill gwobr. Mae gan yr Ysgol Seicoleg wobr Efydd ers 2016 ac fe lwyddodd i adennill y wobr honno.Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol a'r Ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a'r myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol

Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig hŷn o Landudno, wedi rhyddhau record er budd PANS PANDAS UK, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd.

Mae'r gân Warriors gan Aly ar gael ar iTunes a Google Play am $1.29 neu oddeutu £1 o dan label PANS PANDAS UK.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd.

Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop

Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans

Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy’n rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm.

Bydd rhaglen nos Lun yn sôn am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y môr am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau.

Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae’r llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor

Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau IaithCanolfan Bedwyr.  Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019