Arbenigwyr blaenllaw yn rhannu’r ymchwil ddiweddaraf i Ymwybyddiaeth Ofalgar

Yr wythnos hon, bydd ymchwilwyr penigamp i ymwybyddiaeth ofalgar yn dod ynghyd i gyflwyno ac ystyried ymchwil arloesol yn y maes newydd hwn.

Wedi’i drefnu gan arbenigwyr yn Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar o fewn Prifysgol Bangor, bydd y digwyddiad yn trafod sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddod â buddion i unigolion ac i gymdeithas. 

Profwyd eisoes fod ymwybyddiaeth ofalgar yn lleihau iselder mynych, gan gynnig gobaith gwirioneddol i’r miliynau o bobl yn y DU sy’n dioddef gan iselder.

Meddai Dr Rebecca Crane o Brifysgol Bangor: “Amcangyfrifir bod iselder a phryder yn costio £17 biliwn, neu 1.5% o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, i economi’r DU. Mae targedu gwariant cyhoeddus ar raglenni a all wella bywydau pobl yn bwysig ohono’i hun, ac â’r posibilrwydd o arbed costau trwy leihau’r gofynion ar wasanaethau cyhoeddus.”

“Mae rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn cael eu cyflwyno i helpu pobl sy’n profi amrywiaeth o sefyllfaoedd heriol, megis byw gyda phoen neu gyflwr corfforol tymor-hir, neu ymdopi â chaethiwed i sylweddau. Datblygwyd rhaglenni ac ymchwilio iddynt, i’w defnyddio mewn ysgolion, gweithleoedd, ar gyfer pobl â chanser ac yn ystod beichiogrwydd.”

Mae’r ymchwil ddiweddaraf a gyflwynir yn cynnwys canfyddiadau o astudiaethau a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor sy’n dangos fel y gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar esgor ar newidiadau buddiol yng ngweithrediad ymenyddol disgyblion cynradd a myfyrwyr chweched dosbarth, fel ei gilydd. Wrth grynhoi rhai o’r canlyniadau, medd Dr Dusana Dorjee, “Yn ôl ein canfyddiadau cychwynnol, os cymharwn ni blant a hyfforddwyd mewn ymwybyddiaeth ofalgar â rhai na chawsant yr hyfforddiant, gwelwn wahaniaeth yn y modd y maent yn sylwi ar bethau cadarnhaol o’u cwmpas ac yn eu gallu i ymdopi.”

Ychwanegodd Dr Rebecca Crane, “Mae bywyd modern yn rhuthro ymlaen a phobl dan lawer o bwysau. Ar lefel cymdeithas, mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi sgiliau i bobl fel y gallant reoli eu meddyliau eu hunain yn fedrus a bod ganddynt y grym i wneud hynny.”

Dal megis dechrau y mae ymchwil i ymwybyddiaeth ofalgar a rhaglenni seiliedig ar hynny, ond mae’r maes yn cynnig addewid rhyfeddol ar gyfer maes newydd sbon o ymholiad. Mewn dadansoddiad diweddar o 209 o astudiaethau ar ymwybyddiaeth ofalgar a oedd wedi’u hadolygu gan gydweithwyr gyda chyfanswm o 12,145 o gyfranogwyr, casglwyd bod ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar yn dangos effeithiau eang ac arwyddocaol wrth drin pryder ac iselder, a bod y cynnydd wedi’i gynnal mewn asesiadau dilynol.

Y ffordd orau i ddisgrifio ymwybyddiaeth ofalgar yw fel amrediad o raglenni hyfforddi cymhwysol mewn myfyrdod sy’n anelu at adeiladu medrau rhoi sylw a hunan-reoli, ac mae’n rhan o ddull cyffredinol o adeiladu adnoddau personol unigolion, yn ogystal â’u hiechyd corfforol a meddyliol. 

Fel y dywedodd yr Athro Willem Kuyken o Brifysgol Rhydychen, “Rydym eisoes wedi profi buddion ymwybyddiaeth ofalgar yng nghyswllt iselder mynych. Mae ymchwil bresennol i ymwybyddiaeth ofalgar yn rhoi sylw i feysydd eraill o ddiddordeb yn y gymdeithas sydd ohoni, yn cynnwys cyflyrau iechyd corfforol tymor-hir, gwytnwch ymysg plant a phobl ifanc, ac ysgolion a gweithleoedd iach. Yn ystod yr 50 mlynedd nesaf, bydd gwyddoniaeth o ansawdd uchel yn ateb cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag ymwybyddiaeth ofalgar a’i swyddogaeth bosibl yn y gymdeithas sydd ohoni.”

Gan egluro ymwybyddiaeth ofalgar ymhellach, meddai’r Athro Mark Williams o Rydychen,

“Un ffordd o ddeall ymwybyddiaeth ofalgar yw meddwl am ei wrthwyneb, sef –‘diffyg ymwybyddiaeth’ – yr adegau hynny nad ydym yn wirioneddol ymwybodol o’r hyn a welwn o un eiliad i’r nesaf. Rydym i gyd yn ddifeddwl neu ar awtobeilot weithiau, ond i lawr ohonom, mae hyn yn gyflwr cyson. Mae hyn yn golygu nad yw bywyd mor foddhaus ag y gallai fod ac, yn achos y rheiny sy’n dueddol o gael problemau emosiynol, gall hel meddyliau a phryderu feddiannu’r meddwl mewn modd niweidiol. Mae modd datblygu’r gallu i fod yn ofalgar ymwybodol. Mae hyn yn rhyddhau’r meddwl o batrymau arferol, synfyfyriol sy’n arwain at boendod, iselder a chwythu plwc, ac yn galluogi rhywun i wynebu sialensiau newydd mewn modd mwy greddfol a chreadigol.”   

Trefnir y Gynhadledd gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Chanolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caer-wysg, Project Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion a Breathworks, ac mae’n darparu fforwm ar gyfer gosod ein hymchwil bresennol ac yn trafod sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddatblygu er budd cymdeithas yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2015