Astudiaeth newydd yn dangos bod llygredd golau o'r arfordir yn tarfu ar greaduriaid yn y môr

Llygredd golau sy’n nodweddiadol o’r hyn ellir ei weld o amgylch ein harfordir: Credyd llun: Ben PowellLlygredd golau sy’n nodweddiadol o’r hyn ellir ei weld o amgylch ein harfordir: Credyd llun: Ben PowellGall golau artiffisial yn y nos newid ecosystemau morol, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn  Biology Letters. Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai llygredd golau o gymunedau arfordirol, llongau ac adeileddau yn y môr newid cyfansoddiad cymunedau creaduriaid di-asgwrn-cefn yn y môr.

Defnyddiodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Exeter rafft yn Afon Menai i fonitro sut mae golau artiffisial yn y nos yn effeithio ar allu creaduriaid di-asgwrn-cefn y môr i ymgartrefu mewn cynefinoedd newydd. Mae golau yn ysgogiad pwysig sy'n arwain  larfau creaduriaid di-asgwrn-cefn y môr wrth iddynt chwilio am gynefinoedd addas i ymgartrefu, tyfu ac atgenhedlu. Gwnaed y gwaith ymarferol gan fyfyriwr MSc o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Bangor, Matt Coleman, gan ddefnyddio rafft yn perthyn i'r ysgol sy'n arnofio ar Afon Menai.  

Canfu'r ymchwilwyr fod golau artiffisial yn rhwystro a hefyd yn annog nifer o rywogaethau sy'n gyffredin i arfordiroedd Prydain i greu cytrefi. Mae'r rhain yn cynnwys y chwistrell môr a'r diwblyngyren drumiog. Yn aml cyfeirir at y rhywogaethau hyn fel anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy'n baeddu oherwydd eu bod yn glynu wrth adeileddau a godwyd gan bobl ac weithiau'n achosi problemau mewn marinas, iardiau llongau a safleoedd acwafeithrin. 

Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai golau artiffisial - a ddefnyddir fwyfwy ar yr arfordir - annog mwy o faeddu annymunol mewn marinas a iardiau llongau, ond gallai hefyd newid dosbarthiad y rhywogaethau hyn yn yr amgylchedd ehangach lle gallant ddarparu gwasanaethau pwysig i ecosystemau. 

Enghraifft o’r math o organebau sy’n cael eu heffeithio gan lygredd olau.Casgliad sy'n nodweddiadol o organebau a all fod  wedi cael eu heffeithio gan lygredd golau.Mae larfau cwrel, er enghraifft, yn defnyddio golau i adnabod y cynefinoedd gorau i ymsefydlu ac i dyfu'n strwythurau aeddfed sy'n creu creigresi. Gan fod dyfroedd trofannol yn tueddu i fod yn gliriach na dyfroedd yn y Deyrnas Unedig maent yn caniatau i olau artiffisial dreiddio'n ddyfnach a tharfu ar ystod ehangach o organebau. 

Bu cyn fyfyriwr PhD o Fangor, Dr Tom Davies sydd bellach yn gweithio yn Sefydliad yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Prifysgol Exeter, yn dadansoddi'r data. Dywedodd: "Gwyddom fod golau artiffisial yn y nos yn newid ymddygiad llawer o anifeiliaid morol ond dyma'r astudiaeth gyntaf sy'n dangos y gall darfu ar ddatblygiad cymunedau ecolegol yn y môr. Mae angen gwneud ymchwil bellach ar fyrder i asesu pa lefel golau y gellir ei hystyried yn lefel 'ddiogel' fel y gellir rhoi deddfwriaeth yn ei lle i leihau llygredd golau yn y dyfodol o du datblygiadau presennol a datblygiadau newydd.

Meddai Dr Stuart Jenkins o Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor: "Dyma gam cyntaf pwysig tuag at ddatblygu dealltwriaeth o'r ffordd y gall golau artiffisial effeithio ar gymunedau yn y mor ger arfordiroedd. Dangosodd ein hymchwil fod lefelau golau artiffisial, a geir yn gyffredin mewn ardaloedd trefol a datblygiadau ar yr arfordir, yn gallu cael effeithiau pwysig ar ddatblygiad cymunedau sy'n byw ar arwynebau caled mewn dŵr bas."

Ychwanegodd Dr Katherine Griffith, hefyd o Ysgol Gwyddorau'r Eigion: "Gyda datblygiadau trefol ar gynnydd, bydd llawer o ardaloedd arfordirol o gwmpas y byd yn dechrau ddioddef effeithiau llygredd golau artiffisial. Felly mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud ymchwil bellach ar sut y gall golau artiffisial darfu ar gymunedau morol er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn."

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015