Athro o Ysgol y Gymraeg yn Lansio Dwy Gyfrol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Am hanner dydd brynhawn Llun, 1 Awst, ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, bydd yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg yn lansio dwy gyfrol newydd sbon.
Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) yw’r gyfrol greadigol gyntaf iddo ei chyhoeddi ers Tafarn Tawelwch yn 2003. Mae’n cynnwys deunydd a ysgrifennwyd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, a’r cyfan yn seiliedig ar ystod o brofiadau a digwyddiadau. A’r themâu’n pendilio rhwng y personol a’r gwleidyddol a’r emosiynau’n llon am yn ail â lleddf, mae’r lleoliadau hefyd yn amrywiol – o Fae Caerdydd i Ground Zero, o Grafton Street i Barc Menai, o Belsen i Pont Aven. Ac o safbwynt ffurf, mae’r gyfrol hefyd yn arwyddo datblygiad newydd yn hanes y Prifardd Gerwyn Wiliams a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r Cyffiniau yn 1994.
Yr ail gyfrol a gaiff ei lansio yw Ysgrifau Beirniadol XXX (Gwasg Gee) a olygwyd gan Gerwyn Wiliams. Un o’r cyfraniadau mwyaf amserol i’r gyfrol ddiweddaraf yw cyfweliad rhwng Alex Salmond a Dr Jason Walford Davies a hynny’n benodol am ddylanwad barddoniaeth R.S. Thomas ar Brif Weinidog yr Alban. Mae Guto Dafydd, sydd newydd raddio o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, yn holi’r nofelydd a’r dramodydd Wiliam Owen Roberts am ei waith. Yr emynyddes Ann Griffiths a’i darllenwyr sy’n mynd â sylw Dr Robin Chapman, tra ceir tair ysgrif yn trafod ymatebion creadigol i Refferendwm 1979 gan Dr Simon Brooks, Yr Athro Peredur Lynch a Dr Pwyll ap Siôn.
Yn 1965 y lansiwyd y gyfres Ysgrifau Beirniadol gyntaf a hynny dan olygyddiaeth y diweddar Athro J.E. Caerwyn Williams. Yn arwydd o’r ffaith fod y gyfres yn dathlu ei phen blwydd yn ddeg ar hugain eleni, mae’r gyfrol bresennol yn cynnwys llyfryddiaeth lawn o’r gyfres gyfan a baratowyd gan Hedd ap Emlyn.
Yr Athro Peredur Lynch a fydd yn llywio’r cyfarfod a bydd yr Athro a’r Prif Lenor Jerry Hunter yn holi Gerwyn Wiliams am ei gyfrol greadigol ddiweddaraf.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2011