Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr

Prof Zoë SkouldingAthro Zoë Skoulding

Mae’r Athro a’r bardd, Zoë Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water.

Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.

Mae Zoë Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor eisoes wedi cyhoeddi sawl casgliad o farddoniaeth a gweithiau eraill. Mae hi’n ymddiddori ym marddoniaeth lle, ecoleg a chyfieithu.

Mae ei gwaith wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ted Hughes, a roddir am waith barddonol newydd, rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2009, a chafodd wobr y Cholmondeley Society of Authors yn 2018.

O glywed y newyddion dywedodd yr Athro Skoulding:

“Rwyf wrth fy modd derbyn y Wobr am Footnotes to Water, ac yn gwerthfawrogi’r holl waith y mae Llenyddiaeth Cymru’n ei wneud i roi amlygrwydd i lenyddiaeth fel rhan o fywyd cyhoeddus Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd pob un o’r awduron a roddwyd ar y rhestrau byr yn y ddwy iaith yn cael darllenwyr newydd yr haf hwn. Rwy’n falch iawn hefyd o fod yn rhan o gymuned mor gref o ysgrifenwyr ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau eleni.”

Dywed:
"Dechreuodd Footnotes to Water oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu gan orffennol Bangor a manylion amdani na ŵyr llawer amdanynt, megis Afon Adda sy’n llifo o’r golwg o dan y ddinas. Sgwrs yw’r gyfrol gyda’r llefydd rwy’n eu caru ac am y llefydd hynny, ac felly rwyf wrth fy modd bod y gyfrol wedi denu’r fath sylw."

Enillydd arall oedd Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth , am ei nofel Babel.

Roedd Alys Conran, darlithydd ysgrifennu creadigol hefyd ar y rhestr fer gyda’i hail nofel, Dignity. Yn 2017, enillodd Alys Conran Brif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn am ei nofel gyntaf, Pigeon.

Mae’r tri ohonynt yn cyfrannu at ddysgu ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol.

Hoffai’r Brifysgol hefyd longyfarch Caryl Bryn, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, y daeth ei  chyfrol, Hwn ydi’r Llais, Tybad? yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020