Beth ddigwyddodd i’r syniad o 'daith bwyd'?

Rhai blynyddoedd yn ôl cawsom ein cynghori i brynu cynnyrch ffres wedi'i dyfu yn y DU i osgoi'r 'daith bwyd' a gysylltir gyda mewnforio ffrwythau a llysiau mewn awyrennau oherwydd pryderon am sut yr oedd hyn yn cyfrannu at ryddhau allyriadau CO2.  Ond mae'n ymddangos bod y pryderon hyn yn llawer rhy syml. Er mwyn gwneud gwir asesiad o 'ôl-troed' bwydydd mae'n rhaid archwilio pob agwedd ar y gweithgareddau cysylltiedig, o hau'r hadau i dyfu'r cynnyrch. 

Ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor i fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol bwyd a dyfir yn lleol a thramor, oedd yr asesiad trwyadl cyntaf erioed o gylch bywyd y gadwyn cynhyrchu cnydau yn ei chyfanrwydd yn cynnwys ffermio, cludiant, storio a choginio.

Gan weithio gyda Phrifysgol Surrey, daeth ymchwil gan y tîm yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor i'r casgliad bod mewnbwn amaethyddol yn gorbwyso'r ystyriaethau cludiant. Nid oedd perthynas syml rhwng pellter y cludiant ag effeithiau amgylcheddol cyffredinol cylch bywyd masnachol y cnydau. 

Pan rannwyd y canlyniadau gyda’r diwydiant, sylweddolwyd bod cludiant neu 'daith bwyd' yn ddim ond canran fechan o'r CO2 oedd yn gysylltiedig ag unrhyw gnwd a bu hyn yn rhan allweddol o symud y prif gyfrifoldeb o'r prynwr i'r darparwr.   

Roedd y darlun a ddaeth i'r amlwg yn un cymhleth iawn o fewnbynnau ac allbynnau yn gysylltiedig â phopeth fel y math o bridd lle tyfir y cnwd, a lle a sut y caiff ei storio a'i becynnu i'w werthu i'r cwsmer.  Mae’n wir dweud bod y darlun ymhell o fod yn un cyflawn - gyda'r diddordeb presennol yn canolbwyntio ar y CO2 a ryddheir o wahanol fathau o bridd.

Er bod cludo llysiau rhwng cyfandiroedd yn cyfrannu'n sylweddol at allyriad nwyon tŷ gwydr, gwelwyd bod tyfu llysiau mewn tai gwydr yn y DU drwy'r gaeaf yn llai effeithlon o ran ynni na'u cludo o Sbaen lle roeddent yn tyfu yn yr awyr agored.

“Roedd pawb yn canolbwyntio ar daith bwyd, ond roedd hynny'n ddadansoddiad llawer rhy syml," meddai Ed Moorhouse o G’s Fresh, y cwmni cynhyrchu a dosbarthu ffrwythau a llysiau mwyaf yn y DU.

"Roedd y dadansoddiad a wnaed gan Fangor yn dangos yn glir mewn ffordd wrthrychol bod y ddamcaniaeth taith bwyd yn ddiffygiol. Roedd rhai o bellteroedd y gadwyn gyflenwi yn cael llai o effaith ar ôl-troed carbon y cynnyrch terfynol na'r amodau tyfu a ddefnyddiwyd.

Mae gan wyddonwyr, tyfwyr ac archfarchnadoedd yn awr lawer mwy o ddiddordeb mewn rhoi sylw i ôl-troed carbon y broses gyfan o dyfu, cyflenwi a gwerthu ein bwyd. 

Mae'r ymchwil wedi ysgogi rhai o brif gwmnïau'r DU i wneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y maent yn gweithio er mwyn lleihau eu hallyriadau CO2. 

Mae nifer o gwmnïau hefyd yn cyllido ymchwil parhaus yn y maes hwn.

Mae G’s Fresh yn un o'r cwmnïau sydd wedi ymddiddori yn yr ymchwil, gan wneud newidiadau sylweddol a chomisiynu rhagor o waith.

Meddai Ed Moorhouse:

"Roedd y gwaith ymchwil ôl-troed dechreuol gan Brifysgol Bangor yn taflu llawer o oleuni ar y prif fannau problemus yn y gadwn gynhyrchu gan ddarparu fframwaith i ni roi ystyriaeth ddifrifol ynglŷn â sut i ymdrin â holl faes ôl-troed nwyon tŷ gwydr ein cadwyn cynhyrchu a chyflenwi.

"Roedd ymchwil Bangor yn dda iawn, nid rhywbeth ar gefn pecyn o sigarennau ydoedd, ond roedd yn darparu rhifau go iawn. Hwn oedd y catalydd i fynd â'r busnes rhagddo ac ennyn diddordeb mewn meysydd unigol."

Un o'r newidiadau a wnaed gan y cwmni oedd symud cynhyrchu nionod salad i Senegal, gyda'r cnwd yn cael ei gludo mewn llong yn hytrach na'i dyfu ym Mecsico a'r Aifft a'u hedfan oddi yno.  Llwyddodd hyn i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr bron i 8000 kg CO2 y dunnell o'r cynnyrch - gostyngiad o dros 90%.

Roedd hyn o ganlyniad i waith pellach (gan Fangor) yn edrych ar y gadwyn gyflenwi a chymharu, yn benodol, eu gario mewn awyren o Fecsico, ar hyd y ffyrdd o Sbaen, cario mewn llongau o Senegal a chymysgedd o mewn awyren ac mewn llong o'r Aifft. Gwelwyd mai'r dull gorau oedd cario'r cynnyrch o Senegal mewn llong.

Dywedodd Moorhouse: "Rhoddodd y wybodaeth hon y sail a'r hyder i symud ymlaen gyda'n cynllunio strategol. Roedd yn sail wybodaeth i'n proses o feddwl a chynllunio ein strategaeth cyflenwi at y dyfodol ac mae wedi rhoi'r hyder i ni fuddsoddi yn Senegal fel yr ateb gorau yn y tymor hir o ran effeithlonrwydd ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

"Mae cael y ddealltwriaeth hon wedi ein rhoi mewn sefyllfa ariannol gryfach ac mae'n sail i'n cynllun i leihau nwyon tŷ gwydr. Ein targed yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 30% erbyn 2020 a  thrwy gydweithio gyda Bangor rydym eisoes ymhell o flaen ein targedau ac mae chwe blynedd i fynd eto. Wrth edrych yn ôl, rydym yn sylweddoli nad oeddem yn ddigon uchelgeisiol." 

Nid yw'n fater o roi ystyriaeth i nwyon tŷ gwydr yn unig. Dywed Moorehouse bod y gwaith wedi eu galluogi i leihau eu defnydd o ynni a dod yn fwy effeithlon o ran ynni - rhywbeth y mae'n credu a fydd yn adnodd mwy costus yn y dyfodol.

Eglurodd Paul Cross o Brifysgol Bangor: "Yn anffodus nid oes unrhyw egwyddor arweiniol syml i'r defnyddiwr. Bydd tomatos a dyfir yn yr awyr agored yn Sbaen wedi cael llai o fewnbynnau na rhai a dyfir yn y DU, er enghraifft, er iddynt gael eu cludo." 

Ond mae'r cynhyrchwyr a'r dosbarthwyr wedi mynd ati'n ddewr, yn sylweddoli bod buddion sylweddol i'r cwmnïau wrth fynd i'r afael â'r mewnbynnau bywyd cyfan - gan fod ffocws hefyd ar effeithlonrwydd a lleihau gwastraff gyda lleihad cyffredinol o 15% yn y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Ymunodd Waitrose â'r broses hefyd gan weithio gyda G's Fresh a chomisiynu gwaith, a hyd yma, maent wedi mesur ôl-troed carbon 50 o gadwyni cyflenwi cynnyrch ffres. Ers 2008, mae Waitrose wedi cyllido ymchwil a arweiniodd at leihau ôl-troed carbon Waitrose a'i gyflenwyr, gan rannu canfyddiadau'r ymchwil gyda'i holl gadwyn cyflenwi.

Roedd yr ymchwil wedi dilysu newidiadau mawr ganddynt, fel newid nwy'r oergelloedd a ddefnyddiwyd i oeri cynnyrch. 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2014