Bywyd dirgel yr abwydyn du – mae galw am 'wyddonwyr amatur' i helpu i daflu goleuni ar fywyd rhywiol y rhywogaeth arfordirol bwysig hon.

Bydd unrhyw un sy'n mynd am dro ar lanw isel ar draeth tywod yn gyfarwydd â thwmpathau bychan troellog yr abwyd du. Bydd unrhyw un sy'n mynd am dro ar lanw isel ar draeth tywod yn gyfarwydd â thwmpathau bychan troellog yr abwyd du. Mae cariad yn yr aer ar hyd ein harfordiroedd yr hydref hwn ac mae Prifysgol Bangor yn gofyn i bobl yng ngogledd Cymru gadw llygad allan am arwyddion o angerdd yn y boblogaeth abwyd du.

Mae'r abwydyn du - Arenicola marina - yn ffynhonnell hanfodol o fwyd i adar hirgoes a physgod, ac mae'r rhywogaeth yn chwarae rhan bwysig mewn pysgodfeydd fel ffynhonnell abwyd.

Ond gan eu bod yn treulio eu bywydau wedi eu claddu’n ddwfn yn y gwaddod, prin yw’r cyfleoedd i ddod o hyd i'r cymar delfrydol. Yn lle hynny, mae'r gwrywod yn rhyddhau sberm sy'n ymgasglu mewn 'pyllau' ar wyneb y tywod. Pan fydd y llanw yn dod i mewn, mae’r sberm yn cael ei olchi i lawr i'r tyllau lle mae'r menywod ac yn ffrwythloni'r ei hwyau.

Mae angen amodau amgylcheddol penodol iawn i sbarduno rhyddhau'r sberm a'r wy ar yr un pryd ac ychydig iawn a wyddys am y broses.

Nawr mae gwyddonwyr yn galw ar aelodau'r cyhoedd i ymuno â'r prosiect fel 'dinasyddion-wyddonwyr' a helpu i lenwi'r bylchau yn ein gwybodaeth.

Enw’r project yw 'Spermwatch', ac mae’n rhan o broject cadwraeth ehangach o'r enw Capturing our Coast, partneriaeth rhwng prifysgolion, cyrff cadwraeth a chyrff ymchwil gan gynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Newcastle, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac Earthwatch. Mae Capturing our Coast yn rhaglen tair blynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Yn ôl Prif Ymchwilydd Capturing our Coast, yr Athro Stuart Jenkins o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor “Bydd unrhyw un sy'n mynd am dro ar lanw isel ar draeth tywod yn gyfarwydd â thwmpathau bychan troellog yr abwyd du. Mae'r prosiect hwn yn caniatáu i ni, drwy ennyn diddordeb cannoedd o wyddonwyr amatur, gael gwell dealltwriaeth o'u prosesau atgenhedlu o amgylch y DU. Ni fyddai arsylwadau ar yr un pryd dros ardal ddaearyddol eang yn bosibl drwy unrhyw ddull arall.”

Mae'r abwydyn du i'w gael mewn sawl lleoliad ar hyd ein glannau. ( Porth Trwyn Ynys Môn)Mae'r abwydyn du i'w gael mewn sawl lleoliad ar hyd ein glannau. ( Porth Trwyn Ynys Môn)Dywedodd Dr Jacqui Pocklington, Cydlynydd y Prosiect o Brifysgol Newcastle: "Mae hon yn ffordd wych i bobl gymryd rhan mewn ymchwil wyddonol sy'n helpu i warchod rhywogaethau morol yn uniongyrchol. Heb gymorth y cyhoedd, byddai'n cymryd blynyddoedd i gasglu’r math o wybodaeth sydd ei hangen felly mae pob darn o ddata y mae’r cyhoedd yn ei gasglu yn hanfodol bwysig.  

Dywedodd Megan Evans, Sefydliad Earthwatch: “Mae projectau fel Capturing our Coast yn bwysig, gan fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i warchod yr amgylchedd morol, a dylai pawb gael cyfle i gyfrannu.

Mae'r astudiaeth yn dechrau gyda digwyddiad lansio ar draeth Llanfairfechan ar 1 Hydref (rhwng 3pm a 6pm) ac mae pum cyfnod penodol dros y misoedd nesaf lle gofynnir i bobl gasglu data. Dylai gymryd tua 45 munud a byddai’n ddelfrydol fel rhan o dro ar y traeth - y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho llyfr cyfarwyddyd o http://www.capturingourcoast.co.uk/spermwatch a dechrau cofnodi.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2016