Cadw proffil isel wrth hedfan dros gopaon y byd.

Gwŷdd yr India yn hedfan.: llun: Nyambayar BatbayarGwŷdd yr India yn hedfan.: llun: Nyambayar BatbayarMae Gwyddau’r India (Anser indicus) ymysg hedwyr gorau’r byd adar. Yn ogystal â bod yn hardd yr olwg, maent wedi dod i amlygrwydd fel adar sy’n hedfan yn ddidrafferth dros gopaon uchaf y byd yn yr Himalaya wrth iddynt ymfudo o un cynefin i’r llall. Byddai rhywun yn tybio bod yr ymfudo hwn yn galetach fyth wrth ystyried bod lefelau ocsigen ar yr uchder hwn lai na hanner yr hyn a geir ar lefel y môr. Mae’n rhaid i bobl sy’n dringo i’r fath uchder gymryd egwyl bob cam neu ddau i ddod dros yr ymdrech mewn aer mor denau, ond gall Gwyddau’r India hedfan am filltiroedd maith uwchlaw’r copaon, gan glochdar wrth fynd.

“Doedd yr hanesion hyn ddim yn taro deuddeg,” meddai Dr Charles Bishop o'r Ysgol Gwyddorai Biolegol,  a arweiniodd ymchwil ar ymfudiad yr adar. “Mae adar yn defnyddio llawer o ocsigen wrth hedfan a byddai angen mwy byth yn yr awyr uwchben yr Himalaya nag a ddefnyddir ar lefel y môr, ond wrth gwrs mae llai o ocsigen ar gael mor uchel i fyny. Pam na fyddent yn dilyn y dyffrynnoedd sydd yn rhedeg rhwng y copaon uchaf?” Yn wir, mae’r paradocs hwn wedi bod yn benbleth i fiolegwyr am dros 30 o flynyddoedd.

Gwyddau a'u cywion: Nyambayar BatbayarGwyddau a'u cywion: Nyambayar BatbayarMae astudiaeth a gyhoeddir yr wythnos hon (31 Hydref 2012) yn mynd i’r afael â’r broblem yma gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor, ynghyd â thîm rhyngwladol, wedi cydweithio i gofnodi lleoliadau GPS (Global Positioning System) 42 o’r gwyddau fel yr oeddynt yn ymfudo.

“Mae’n cael ei dderbyn yn gyffredinol, na wnaiff anifeiliaid wastraffu dim mwy o egni nag sydd raid”, meddai Dr Lucy Hawkes, prif awdur yr astudiaeth. “Felly byddem yn rhagdybio y byddai’r gwyddau’n dewis hedfan mor isel â phosib dros lwyfandir Tibet, ac y dylent wneud defnydd o unrhyw wyntoedd o’r tu cefn iddynt er mwyn rhoi hwb i’w cyflymder.” A dyna bron yn union a ddarganfu’r astudiaeth. Dewisodd y gwyddau hedfan yn weddol agos at ffurf donnog y tir, ond ar y cyfan, roeddent yn dal ati i hedfan, beth bynnag oedd cyfeiriad y gwynt.

Er y golyga hyn fod yr adegau lle mae’r aderyn yn hedfan yn uchel iawn yn llawer prinnach nag oedd pobol yn tybio, mae’r adar mawr hyn yn aml yn hedfan rhwng 4,500 a 5,500 metr uwchlaw lefel y môr, a chafwyd enghreifftiau ohonynt yn hedfan cyn uched â 6,540m a 7,290 m, camp anhygoel sydd yn dal i sefyll fel un o ryfeddodau’r byd naturiol.

llun: Nyambayar Batbayarllun: Nyambayar BatbayarCyflawnwyd y gwaith gyda chefnogaeth ariannol gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) a’r Sefydliad Max Plank dros Adareg. Partneriaid y project oedd Prifysgol Birmingham, Cymdeithas Naturiaethwyr Bombay, Academi Gwyddorau Tsieina, Academi Gwyddorau Mongolia, Prifysgol McMaster, Gwarchodfa Natur Llyn Qinghai, Rhaglen Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, Prifysgol British Columbia, Prifysgol Tasmania a Phrifysgol Exeter.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2012