Camelot Arthur – ydy’r chwilio wedi dod i ben o’r diwedd?

Blaendalen un o'r llyfrau yng nghasgliad llyfrau prin sy'n ymwneud â chwedlau Arthuraidd sydd yn Llyfrgell Prifysgol BangorBlaendalen un o'r llyfrau yng nghasgliad llyfrau prin sy'n ymwneud â chwedlau Arthuraidd sydd yn Llyfrgell Prifysgol BangorMae'r ymdrech i ddod o hyd i Camelot y Brenin Arthur wedi peri penbleth ac wedi ennyn chwilfrydedd ysgolheigion a selogion ers mil o flynyddoedd. Bellach, mae'n bosib bod y chwilio ar ben o’r diwedd.

Mae Peter Field, Athro Emeritws mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, wedi datgelu'r hyn y mae'n credu yw safle Camelot Arthur- ac mae’r troi allan i fod yn hen gaer Rufeinig fach yn Slack, ar gyrrion Huddersfield, Gorllewin Swydd Efrog. (Diweddarwyd 20.12.16)

Yn y cyfnod Rhufeinig, enw’r gaer oedd Camulodunum, sef Caer y duw Camul".  Dros y blynyddoedd, mae prosesau ieithyddol  wedi cwtogi Camulodunum i Camelot. 

Er bron yn angof ac yn ansylweddol heddiw, ac er ei fod wedi ei adael  ac yn adfeiliedig yn y cyfnod perthnasol, tua A.D. 500, dadlau’r Athro Field  y byddai’r safle yn Slack yn cael ei hystyried fel cadarnle strategol.

Yn y cyfnod, roedd yr Eingl-sacsonaidd wedi meddiannu llawer o’r arfordir i’r dwyrain a de Prydain, ond roedd y Brythoniaid oes yn siarad iaith Geltaidd yn teyrnasu yn y gogledd a’r gorllewin.  Caer oedd y cyrchfan amlwg i’r Brythoniaid a oedd am ymwrthod,  a’r man yr oedd angen ei warchod os nad oeddent am golli’r arfordir dwyreiniol  u gyd oedd Efrog.

Mae Slack  ar y ffordd Rufeinig rhwng caer ac Efrog, a dim llai strategol o’r herwydd.

Mae'r Athro Field yn arbenigwr byd-enwog ar lenyddiaeth Arthuraidd ac meddai:

‘Os oedd yna Frenin Arthur go iawn, byddai wedi byw tua AD500, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot i’w weld mewn cerdd Ffrangeg o ranbarth Champagne yn Ffrainc o 1180.

Nid oes dim sôn am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hynny, a elwir yn Oesoedd Tywyll yn Saesneg , pan oedd y wlad yn rhyfela, a fawr ddim wedi ei gofnodi. Yn y bwlch hwn, roedd pobl yn trosglwyddo gwybodaeth, a llawer ohoni’n mynd ar goll wrth ei throsglwyddo. Gallai  pobl fod wedi creu ffeithiau dychmygol neu ddim ond wedi cymysgu gwybodaeth hysbys.

Mae chwedlau Arthur wedi diddanu dalrlenwyr i lawr yr oesoedd- dyma lun gan yr artist poblogaidd Sir Arthur Rackham- eto o un o lyfrau yng nghasgliad y Brifysgol.Mae chwedlau Arthur wedi diddanu darllenwyr i lawr yr oesoedd- dyma lun gan yr artist poblogaidd Sir Arthur Rackham- eto o un o lyfrau yng nghasgliad y Brifysgol.Gyda'r wybodaeth orau sydd ar gael, a’r dyfaliadau gorau y gellid eu gwneud, y gred ers talwm yw y  gallai Camelot fod wedi ei leoli mewn lleoedd fel Caerllion, yn Ne Cymru, Winchester neu Gastell Cadbury.”

Ond mae dod o hyd i wir safle Camelot wedi bod yn dasg rwystredig ac anodd. Mae’r pwnc wedi bod yn destun diddordeb ysol i’r Athro Field, a ddaeth i Brifysgol Bangor yn 1964 ac  a ymddeolodd yn 2004, ac mae wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn ymchwilio i safle Camelot.

“Rwyf wrth fy modd yn gwneud hyn," meddai’r Athro Field, "ond lwc mul oedd hi fy mod i’n edrych ar rai mapiau, ac yn sydyn  iawn dyma’r holl ddarnau’n disgyn i’w lle”. “Rwy'n credu efallai fy mod wedi datrys dirgelwch 1400 oed.!”

Mae'r cyhoeddiad am yr Athro Field yn amserol, gan ei fod yn digwydd wrth i Gymru ymbaratoi i ddathlu 'Blwyddyn Chwedlau'. Yn ystod 2017, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu ei diwylliant a'i threftadaeth gyfoethog.

Roedd y ddarlith yn nodi agoriad swyddogol Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr a cheir rhagor o wybodaeth am y Ganolfan yma http://colclough.bangor.ac.uk/index.php.cy

Diweddariad: Ymddengys bod dau le o'r enw Slack wedi bodoli yn Swydd Efrog, tua deg milltir ar wahân. Defnyddiodd yr Athro Field mynegai daearyddol oedd â chyfeiriad at ddim ond un Slack, yr un ger Hebden Bridge. Lleolwyd y gaer Rufeinig y mae’r Athro Field yn cyfeirio ato ger neu o dan M62 a chwrs golff ger Huddersfield. Mae gweddill ei ddamcaniaethau yn sefyll.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016