Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Coffáu 70 mlynedd ers Trychineb Awyren Fomio Bethesda

Fe darodd y Lincoln o dan y grib ar ochr dde'r ffotograff. Uwchben y tai ar y chwith mae lleoliad y Gwaith Dŵr yn fras.Fe wrthdarodd y Lincoln y cribyn ar ochr dde o'r ffotograff. Lleolir y Gwaith Dŵr uwchben y tai ar y chwith.Yn oriau mân 15 Mawrth 1950 cwympodd awyren fomio Avro Lincoln o RAF Scampton, Swydd Lincoln uwchben Bethesda. Ni fu i'r un o'r criw, rhwng 22 a 32 oed, oroesi.

Eleni, 80 mlynedd ers Brwydr Prydain, mae Dr Hazel Pierce, Aelod Cyswllt Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor, wedi edrych i mewn i'r ddamwain hon i gofio'r chwe gŵr a gollodd eu bywydau, ac i gydnabod ymdrechion pobl leol a gynorthwyodd yn yr ymgais i'w hachub y noson honno.

'Dynion ifanc oedd pob un o'r criw, rhai gyda theuluoedd ifanc a oedd eisoes wedi gwasanaethu eu gwlad gydag anrhydedd, ac wedi goroesi peryglon ofnadwy yn ystod y rhyfel,' eglura Hazel. 'Mae'n anodd derbyn eu bod wedi colli eu bywydau yn ystod adeg heddwch ar daith hyfforddi arferol.'

Ar ôl cael ei ddargyfeirio i RAF Fali oherwydd tywydd gwael, aeth y Lincoln am y cyfeiriad hwnnw gyda radio diffygiol a oedd yn golygu bod angen cyfathrebu ag ef ar ddau amledd. Fe’i gwelwyd ac fe’i clywyd yn yr awyr, ond ddeng munud yn ddiweddarach fe ddeffrodd Mr Owen Brown-Williams, Beili Dŵr yng Nghronfa Ddŵr Corfforaeth Bangor, Gerlan a’i wraig Agnes, i ruo peiriannau awyren.  Wrth edrych drwy'r ffenestr, gwelsant oleuadau llywio awyren fawr.  Roedd yr awyren fomio enfawr gyda rhychwant adenydd o 120 troedfedd ar gwrs sefydlog, a heb ddangos unrhyw arwydd o fod mewn trafferthion ond, yn ôl Owen, 'roedd yn edrych fel petai'n rhy isel mewn ardal mor fynyddig.'

Arweinydd Sgwadron Peilot Shore. Dyfarnwyd iddo hefyd yr AFC (Air Flying Cross) : Trwy garedigrwydd Mark Shore.Arweinydd Sgwadron Peilot Shore. Dyfarnwyd iddo hefyd yr AFC (Air Flying Cross) : Trwy garedigrwydd Mark Shore.Yn anffodus, roedd barn Owen yn gywir, a dim ond munudau i ffwrdd yr oedd dinistr yr awyren fawr a'i chwe chriw. 'Clywsom ffrwydrad o fewn cyfnod byr iawn a neidiodd haen o dân i awyr y nos ym mhen pellaf Cwm Pen Llafar'. Hefyd yn dyst i'r ffrwydrad ofnadwy roedd ffermwyr mynydd a'i disgrifiodd fel 'pelen o dân yn y dyffryn gyda darnau'n llosgi yn gwasgaru i bob cyfeiriad.'

Ffoniodd Agnes Brown-Williams orsaf yr heddlu ym Methesda ar unwaith a gosod golau yn ffenestr ei hystafell wely i ddangos y ffordd i unrhyw un a oedd wedi goroesi. Roedd Gorsaf yr RAF yn Fali yn dal i geisio cysylltu â'r awyren, a chafodd sioc o dderbyn y newyddion anghredadwy, ac anfonwyd Tîm Achub Mynydd yr RAF allan i chwilio.

Cyrhaeddodd aelodau o'r Frigâd Dân y gwaith dŵr a rhannu'n ddau grŵp; un yn cael ei arwain gan Mr Owen Brown-Williams a'r llall gan Mr John Ogwen Thomas o Fferm Tyddyn Du, Gerlan.  Yn y dyddiau cyn timau gwirfoddol Achub Mynydd, dynion fel y rhain a fyddai'n mynd allan i helpu gan eu bod yn meddu ar wybodaeth leol fanwl, a byddent yn gallu nodi'r llwybr mwyaf diogel a chyflym i safle'r ddamwain.

Cychwynnodd y grwpiau achub am Gwm Pen Llafar dros dir corsiog, llawn cerrig mawrion, mewn tywyllwch llwyr, gyda gwyntoedd cryfion a chawodydd trwm o law.  Wrth iddynt ymlwybro dros bedair milltir o rostir parhaodd yr awyren i losgi, ond gallai'r grwpiau weld fflerau'n cael eu goleuo a roddodd obaith iddynt y gallai rhai fod wedi goroesi.

Ar ôl cyrraedd safle'r ddamwain, chwalwyd y gobaith a roddwyd gan y fflerau yn llwyr. Ni allai neb fod wedi goroesi gwrthdrawiad o'r fath, a oedd prin ychydig gannoedd o droedfeddi o dan y grib rhwng Carnedd Llewelyn a Charnedd Dafydd.  Cafwyd hyd i bedwar corff bron yn syth yn y malurion a oedd yn mudlosgi, tra bu’n rhaid chwilio am y ddau arall.

Roedd Godfrey, neu Leo fel yr oedd ei frawd John yn ei alw,  yn ffotograffydd swyddogol i'w uned ar un adeg yn ystod ei wasanaeth.: Trwy garedigrwydd Mick CundyRoedd Godfrey, neu Leo fel yr oedd ei frawd John yn ei alw, yn ffotograffydd swyddogol i'w uned ar un adeg yn ystod ei wasanaeth.: Trwy garedigrwydd Mick CundyEsbonia Mr Chris Lloyd o dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: 'agwedd na chafodd ei hystyried yn y 1950au yw'r effaith ysgytiol y gallai digwyddiad fel hwn ei chael ar yr achubwyr.' Dywed Mr Lloyd: 'heddiw mae ymwybyddiaeth ac arbenigedd cwnsela i gynorthwyo achubwyr i ymdopi â phrofiad o'r fath.' 

Yn y cwest ym Methesda cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain, a nododd y crwner fod 'sut y canfu'r peilot ei hun yn y bryniau yn benbleth, ac y byddai'n amlwg yn parhau'n benbleth.'

Diolchodd hefyd i bawb a oedd wedi mynd allan i helpu'r rhai a oedd yn yr awyren.  Ategwyd ei ddiolchiadau gan yr Arweinydd Sgwadron Hewitson o’r Fali, a nododd ei fod wedi ymdrin â damweiniau awyrennau yn yr ardal yn ystod y rhyfel, a 'gymaint y gwerthfawrogwyd y cymorth a roddwyd bob amser a'r caredigrwydd a ddangoswyd gan bobl ardal Bethesda i bersonél yr RAF a fu'n rhan o ymdrechion achub mewn damweiniau.'

Roedd yr awyren fomio enfawr wedi cwympo ar gyrion ardal sy'n cael ei hadnabod fel mynwent i awyrennau oherwydd y nifer a oedd wedi cael damweiniau yno yn ystod y rhyfel. 70 mlynedd yn ôl ar 15 Mawrth 1950, er mawr dristwch, hawliodd chwe bywyd arall.

I gael mwy o wybodaeth am y ddamwain a'r chwe chriw a gollodd eu bywydau yn y man anghysbell hwnnw, ewch i:  Cyfeiriad gwefan Colclough

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2020