Coron yr Eisteddfod i Alumnus Prifysgol Bangor

Datganiad gan yr Eisteddfod

Guto Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.  

Daeth y bardd ifanc o Bwllheli i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 29 o geisiadau.

Cyflwynir y Goron gan y gymdeithas dai, Grwp Cynefin, am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y pwnc Cilfachau.  Y beirniaid yw Manon Rhys, Ceri Wyn Jones a Cen Williams.  Rhoddir y wobr ariannol gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.

Mae’n amlwg i’r beirniaid gael modd i fyw yn pori drwy’r pryddestau eleni, ac meddai Ceri Wyn Jones wrth draddodi’r feirniaidaeth ar ran ei gyd-feirniaid, “Ro’dd hon yn gystadleueth gref, ac ma’n drueni mowr na cha’ i gyfle pnawn ‘ma i sôn am fwy na phedwar o’r beirdd, sef Fersiwn Arall, OS, Saer nef, a’r Priddyn Coch. Ma’n deg dweud bod y canlynol hefyd yn ei sŵn hi, sef Mab â’i gerddi am golli’i dad a Non â’i gerddi i Lydaw, a bod un neu ddou arall wedi bod yn curo wrth y drws hefyd. Da chi, prynwch gyfrol y cyfansoddiade ddydd Gwener i glywed mwy o hynt a helynt y gystadleueth bryfoclyd hon.

Mae’r pedwar yn cael eu canmol ym meirniadaeth Ceri, gyda’r beirniaid yn amlwg wedi gorfod trafod ac ail-drafod cyn dod i benderfyniad.  Ac wrth droi at waith Saer nef, dywed Ceri, “Ma brwsh Saer nef yn fwy bras nag un OS. Bron nad yw e’n ymwrthod ag arddull hunan-ymwybodol farddonol rhag iddo fe beidio â dweud ei ddweud: mae’n arddull fwy sgyrsiol uniongyrchol, weithie’n ddigon ffwrdd-â-hi ac amrwd, weithie’n dwyllodrus o goeth, ond y cwbwl yn swnio mor naturiol, hyd yn o’d yr iaith lafar lai na safonol ar brydie, a hyd yn o’d sigl cyfoes rhai o’i gerddi mydr-ac-odl.

“Ma’r llais gwahanol hwn yn ein herio, ein pryfocio, a’n hysgwyd. Mae’n hala ni i wherthin ac i dagu. Ac os nad yw wastad yn ddifrifol, y mae ynte, fel OS, yn fardd o ddifri.

“Pwy sy’n mynd â hi, felly?

“Ma’ Manon Rhys am i’r goron fynd i OS, gyda Non, Fersiwn Arall a Mab ar ei sodle.  Ma’ Cen Williams am iddi fynd i Saer nef, gyda’r Priddyn Coch ac OS ar ei sodle.  Ma’ Ceri Wyn Jones am iddi fynd i Saer nef ac OS, ond o drwch y blewyn teneua yn hanes blew tene eriôd, Saer nef sy’ ar y bla’n, OS yn ail, a’r Priddyn Coch a Fersiwn Arall ar eu sodle nhw ‘fyd.

“Am gerddi sy’n ein difyrru, ein hanesmwytho a’n cyffroi, felly, ma’r Goron leni yn mynd i Saer nef, ac ma’r tri ohonon ni yn ei longyfarch yn fawr.”

Daw Guto’n wreiddiol o Drefor. Mae’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’r plant, Casi a Nedw. 

Bu’n cystadlu’n frwd mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017. 

Mae wedi darllen ei waith mewn degau o festrïoedd, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a’r we. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth (Ni Bia’r Awyr) a dwy nofel (Stad ac Ymbelydredd, a enillodd Wobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2017). 

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Ef yw trysorydd Eisteddfod Gadeiriol y Ffôr, ac mae’n mwynhau rhedeg, mynd am dro, a charafanio. 

Mae’r Goron wedi’i dylunio a’i chreu gan y gemydd cyfoes Angela Evans o Gaernarfon. Bu creu Coron yn freuddwyd i Angela erioed, ac eleni, cafodd gyfle i wireddu’i breuddwyd drwy greu Coron gywrain, hardd.

Mae tair elfen allweddol yn rhan o gynllun y Goron, gyda’r tair haen o amlinellau metel yn creu delwedd gyffrous a modern sy’n gysylltiedig ag egwyddorion sylfaenol cymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Yn yr haen gyntaf gwelir siapiau o dai arddulliannol, ond maen nhw, wrth gwrs, yn fwy na thai – dyma gartrefi i unigolion a theuluoedd yr ardal. Meddai Angela, “Mae ein diwylliant yn cael ei gynnal drwy ein cymunedau: yn y cartrefi hyn y mae ein pobl, ein hiaith a’n diwylliant yn ffynnu. Dyma sail y Goron, y rhan dalaf a’r cryfaf.”

Yn ail haen y Goron ceir trionglau – siâp sydd â chryfder naturiol – fel toeau i’r tai, yn cefnogi strwythurau yn erbyn pwysau ochrol, ac yn cynrychioli cynaliadwyedd yr ardal. Ac i goroni pob pinacl mae pêl gopr, un o nodweddion amlwg gwaith Angela fel gemydd proffesiynol. Tarddodd y copr hwn o hen fwynfeydd copr y Gogarth, Llandudno, ac fe gyflwynwyd ciwb 2cm o gopr llachar pur i’r Eisteddfod er mwyn ei ddefnyddio yng ngwneuthuriad y Goron.

Sir Conwy, y dyffryn gwledig a’r arfordir poblog yw ysbrydoliaeth y drydedd haen. Dŵr yw’r llewyrch sy’n llifo drwy’r ardaloedd o’r mynyddoedd i lawr y dyffryn ac i’r môr drwy Afon Conwy: daw â’i faeth fel cynhwysydd hanfodol i greu cymuned, amgylchedd a thirwedd llewyrchus, ac i sicrhau cynefin cadarn i ddyn ac anifail. Felly, llif y dŵr a welir yn yr haen olaf, yn fwa meddal llyfn i gyfleu symudiad y llif. Ac ar ei hyd, mae dafnau o ddŵr disglair wedi’u creu o garreg topas glas – lliw arwyddocaol gan ei fod yn efelychu lliwiau brand Grŵp Cynefin ei hun.

Nod Cyfrin Gorsedd y Beirdd sydd i’w weld ar flaen y Goron, o dan brif siâp triongl to’r tŷ, sydd wedi’i osod yno i’w amddiffyn. Ar waelod y goron, ysgathrwyd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ar gyrion Llanrwst tan 10 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2019