Croesawu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda rhaglen gyffroes o gelfyddydau Tsieineaidd

Yr Athro Liying Zhang yn creu llusern Tsieineaidd Yr Athro Liying Zhang yn creu llusern Tsieineaidd Gall trigolion a myfyrwyr Bangor baratoi at groesawu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd mewn ffordd unigryw eleni. Cynhelir  rhaglen lawn o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd i’w paratoi at gyfnod dathlu’r flwyddyn newydd  Tsieineaidd rhwng 10-21 Chwefror.

Mae dydd Sadwrn, 2 Chwefror yn ddiwrnod na ddylid ei golli. Yn ystod y prynhawn, bydd perfformiadau wedi’u trefnu gan  Sefydliad Confucius y Brifysgol  yn cynnwys  crefft ymladd, dawnsio gwerin  a chanu gwerin. Gwneir pob un o'r perfformiadau gan artistiaid proffesiynol Tsieineaidd o Ysgol y Celfyddydau Prifysgol Normal Harbin yn Tsieina.

Cynhelir y perfformiadau yn Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor  am 4.00. Bydd mynediad am ddim a chroeso i bawb. Meddai Dr Wei Shi, cyfarwyddwr y Sefydliad Confucius, "Mae'r flwyddyn newydd Tsieineaidd yn o’r uchafbwyntiau yng nghalendr pobl Tsieineaidd. Mae'n dechrau ar 10 Chwefror ac yn para tan 21 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae pobl Tsieineaidd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a dathliadau, yn cynnwys gwneud twmplenni a chynnau tân gwyllt. Rydym am gynnal ein gweithgareddau cyn y flwyddyn newydd  er mwyn i bobl gael gwybod am y dathliad ymlaen llaw."

Clymau 'lwc dda' tsieineaiddClymau 'lwc dda' tsieineaiddBydd y Sefydliad Confucius yn ymweld â nifer o ysgolion yr ardal ac yn cynnal gweithgareddau gyda'r disgyblion i ddynodi’r flwyddyn newydd. Cynhelir digwyddiadau hefyd ym Mangor yn ystod cyfnod y flwyddyn newydd a fydd yn cynnwys gweithdy gwneud llusernau.

Mae llusernau yn rhan bwysig o’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gan ein bod yn eu defnyddio i addurno ein cartrefi ar gyfer y dathliadau," esboniodd Dr Wei Shi.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013