Cyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd 2014

Roedd un o ddarllenwyr newyddion amlycaf Prydain, canwr opera a chwaraewr rygbi rhyngwladol ymysg y rhai  a dderbyniodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn ystod y seremonïau graddio eleni (12-18 Gorffennaf).

Cyflwynwyd deuddeg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyd mewn gwahanol seremonïau yn ystod yr wythnos. 

Dyma’r rhai a dderbyniwyd yn Gymrodyr er Anrhydedd

Yr Athro Andrew McNeillie.Yr Athro Andrew McNeillie.Andrew McNeillie
Athro Emeritws Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg; cyn Olygydd Llenyddol yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen; sefydlodd y Clutag Press, gan gynhyrchu gwaith beirdd fel Seamus Heaney a Geoffrey Hill; fe'i ganed a'i fagu ym Mae Colwyn a Llandudno.   Fe’i cyflwynwyd  am Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan yr Athro Tom Corns, Ysgol y Saesneg, am wasanaeth i fyd cyhoeddi .

Dywedodd yr Athro McNeillie:
“Mae’n achlysur teimladwy i mi a’r peth olaf y byddwn wedi ei ddychmygu yn ystod fy llencyndod yn Hen Golwyn. Mae dod i Gymru i dderbyn yr anrhydedd yma’n   golygu llawer i mi. Rwyf wedi ysgrifennu’n helaeth am fy mhlentyndod yng Nghymru ac mae’r un mor bwysig i mi ag i unrhyw un sy’n enedigol o Gymru. Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig i mi.”

Huw Edwards
Y newyddiadurwr a darlledwr, Huw Edwards.Y newyddiadurwr a darlledwr, Huw Edwards.Am ei wasanaeth i newyddiaduraeth a darlledu cyflwynwyd Huw Edwards, y darllenwr newyddion a chyflwynydd gyda'r BBC,  am Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Dr Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Meddai Huw Edwards am yr achlysur:
“Mae derbyn anrhydedd bob amser yn bleser ond mae derbyn anrhydedd yng Nghymru yn fwy o bleser fyth ac yn arbennig gan  Brifysgol Bangor, sydd wedi bod yn hybu’r  diwylliant Cymraeg  a Chymreig am ddegawdau lawer. Mae’n fraint i mi gael bod yma a dwi’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am gynnig yr anrhydedd  imi ac fe fyddai’n falch iawn ohono bob amser.”

 

Dei Tomos  
Un arall a dderbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i Y darlledwr gyda Radio Cymru, Dei Tomos.Y darlledwr gyda Radio Cymru, Dei Tomos.ddarlledu yn Gymraeg oedd  Dei Tomos, sydd wedi cyflwyno bwletinau boreol i  ffermwyr ar BBC Radio Cymru ers dros bum mlynedd ar hugain. Fe’i cyflwynwyd  gan Ms Marian Wyn Jones, aelod o Gyngor y Brifysgol. Mae Dei Tomos hefyd yn gyn-fyfyriwr o'r Coleg Normal.

Wrth sôn am yr Anrhydedd dywedodd Dei Tomos:
“Yn naturiol mae’n anrhydedd. Mae hon yn gydnabyddiaeth o waith rhywun am nifer fawr o flynyddoedd ac yn gydnabyddiaeth,  efallai , fod rhywun yn teimlo ei  fod wedi gwneud rhywbeth gwerth chweil efo’i yrfa. Gan fy mod yn fab i chwarelwr, mae rhywun yn cofio hefyd fel y sefydlwyd y Coleg yma gan y chwarelwyr a’u ceiniogau prin ac mae hynny hefyd yn rhywbeth sy’n bwysig.”

David ac Alison Lea-Wilson
Mae’r pâr priod yn adnabyddus yn lleol fel sefydlwyr Sw Môr Môn a Halen Môn. Maent yn entrepreneuriaid sydd â chysylltiad maith â'r Brifysgol ac wedi dweud bod Prifysgol Bangor wedi bod yn elfen allweddol yn eu llwyddiant. Cawsant  eu cyd-gyflwyno am Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i fusnes yng ngogledd Cymru gan yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil a Menter.

Alison a David Lea-WilsonAlison a David Lea-Wilson.Dyma oedd gan David Lea-Wilson i’w ddweud wrth dderbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd:
"Rydym yn teimlo’n  wylaidd  gan ein bod wedi byw a gweithio yma am dri deg pump o flynyddoedd ac rydym wedi  gwir werthfawrogi'r  hyn mae'r Brifysgol wedi ei wneud i ni. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â thair ysgol wahanol yn y Brifysgol; Busnes ac Economeg lle graddiais, ond hefyd  yr Ysgol Gwyddorau Eigion, pan ddechreuom y Sw Môr ac yna yn fwy diweddar, yr Ysgol Gemeg, lle   cefais gyngor allweddol bwysig ar gyfer dechrau Halen Môn.   Yn wir, mae derbyn yr Anrhydedd fel petai rhywun yn dweud; rydych wedi cyflawni rhywbeth.  Mae wedi bod yn gydweithio llwyddiannus rhwng prifysgol a busnes bach lleol neu ddau ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

Ychwanegodd Alison Lea-Wilson: "Rwy'n synnu ein bod wedi ein hanrhydeddu fel hyn. Daethom  i Fangor yn fyfyrwyr tlawd yn 1976 ac rydym wedi mwynhau adnoddau ac amgylchedd Cymru ers hynny. Rydym yn caru ei phobl, ei hamgylchedd a'i diwylliant. Mae wedi rhoi llawer i ni, ac rydym wedi ceisio rhoi rhywbeth yn ôl, drwy  gychwyn ein busnesau yma, ond yn sicr, ni fyddem byth wedi llwyddo heb gefnogaeth y gymuned.”

Yr Athro Ed Hill
Yr Athro Ed Hill.Yr Athro Ed Hill.Mae’r Athro Ed Hill yn Gyfarwyddwr Gweithredol y National Oceanographic Centre, Prifysgol Southampton ac yn gyn-fyfyriwr ôl-radd a chyn- aelod staff ym Mangor.   Cafodd ei gyflwyno am Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i wyddorau eigioneg gan yr Athro John Simpson, Ysgol Gwyddorau Eigion.

Wrth  dderbyn yr Anrhydedd dywedodd yr Athro Ed Hill:
“Rwyf wrth fy modd, ac mae’n fraint derbyn  Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor, prifysgol y mae gen i berthynas hir â hi, yn gyntaf fel myfyriwr ôl-radd ac yna fel aelod staff. Mae gan Fangor  enw da ym maes  gwyddorau môr ac mae’n adnabyddus ledled y byd am yr ymchwil wych ac ansawdd da ei graddedigion.”

Yr Athro Donal T Manahan
Athro Gwyddorau Biolegol yn University of Southern California yw’r Athro Donal T Manahan. Mae’n arbenigwr ym maes ffisioleg amgylcheddol anifeiliaid môr a'r ffordd y maent yn ymaddasu i'w hamgylchedd. Mae wedi gweithredu fel prif wyddonydd ar dros 20 o deithiau gwyddonol i'r Antarctig - ac mae mynydd wedi'i enwi ar ei ôl yno.  Enillodd PhD o Fangor  ac fe’i cyflwynwyd am Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i wyddoniaeth gan yr Athro Chris Richardson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion,  ac un a fu’n gyd-fyfyriwr ôl-radd â’r Athro Manahan.

Yr Athro Donal Manahan.Yr Athro Donal Manahan.Meddai’r Athro Manahan:
“Mae  derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd mawr i mi. Chwaraeodd y Brifysgol hon ran  allweddol yn fy mywyd a’m haddysg ac rwy’n credu mai yma y dechreuodd fy ngyrfa mewn sawl ffordd.  Felly mae dychwelyd yma i gael fy nghydnabod am fy ngwaith dros yr ugain  neu ddeg mlynedd ar hugain diwethaf yn anrhydedd eithriadol, ac rwy’n falch o gael bod yma.”

Pan ofynnwyd i’r Athro Manahan pa eiriau o gyngor oedd ganddo i’r graddedigion newydd, hyn oedd ganddo i’w ddweud: “Mae fy nghyngor iddynt heddiw’n bur syml. Rwyf am eu hatgoffa bod eu haddysg, yn yr unfed ganrif ar hugain, yr un mor bwysig iddynt ag unrhyw beth arall sydd ganddynt, a hefyd y dylent ganolbwyntio ar un neu ddau o bethau allweddol; sef, meddwl yn lleol, ehangu eu gorwelion, ond peidio byth ag anghofio lle y dechreuodd pethau iddynt yma ym Mhrifysgol Bangor.”

Beti George 
A hithau’n newyddiadurwraig a darlledwraig ar deledu Cymraeg am 30 mlynedd,  derbyniodd Beti George Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i ddarlledu yn y Gymraeg. Fe’i  cyflwynwyd  gan y Fonesig Wigley, aelod o Gyngor y Brifysgol.

Wrth baratoi ar gyfer y Seremoni, dywedodd Beti George:
Y darlledwraig, Beti George.Y newyddiadurwraig a darlledwraig, Beti George.“Dwi’n gwybod ei fod yn ystrydeb i ddweud ei  bod hi’n fraint, ond mae yn fraint, mae yn  fraint aruthrol a dweud y gwir.  Fyddwn i byth wedi breuddwydio y byddwn yn cael fy nerbyn yn   Gymrawd o Brifysgol Bangor. Wrth gwrs i mi, roedd Bangor yn golygu ‘y gelyn’ yn yr Eisteddfod Ryng-golegol - a dyma fi yn Gymrawd!  Allai ddim credu’r peth a dweud y gwir.”

Dyma oedd ei chyngor i raddedigion y Brifysgol:
“Y cyngor fyddwn i’n ei roi iddyn nhw ydi gwerthfawrogi'r hyn maen nhw wedi ei gael yma a sylweddoli pa mor freintiedig  ydyn nhw mewn gwirionedd,  eu bod wedi cael eu haddysg mewn prifysgol fel Prifysgol Bangor. Erbyn hyn mae’r Brifysgol yn adnabyddus ledled  y byd ac o’m safbwynt i yn ddiweddar, eu gwaith ym maes dementia ydy’r peth sydd wedi’n nharo i’n bersonol, a’r gwaith ardderchog maen nhw’n  ei wneud yn y gymuned. Dwi’n meddwl fod y cysylltiad yna, i mi’n bersonol, yn werthfawr iawn.  I’r myfyrwyr yn eu gwahanol bynciau, gwerthfawrogi eu bod wedi cael gradd o Brifysgol Bangor.”

Rhys Meirion
Yn ganwr opera Cymraeg sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol, ganed Rhys Meirion a'i fagu yn Nhremadog. Gweithiodd fel athro cyn penderfynu mynd i astudio i'r Guildhall School of Music, Llundain; gyda'r English National Opera (2001-04) bu'n canu'r rhan fwyaf o'r prif ddarnau i denoriaid. Bu'n canu yn ystod seremoni gosod Carreg Sylfaen Pontio yn Ionawr 2013.  Roedd newydd gwblhau ei drydedd daith gerdded elusennol ar hyd Cymru ddyddiau  cyn dod i’r Brifysgol i  dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth. Fe’i cyflwynwyd am y Gymrodoriaeth gan Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth. 

Dyma oedd gan Rhys Meirion i’w ddweud cyn derbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd:
Rhys Meirion.Rhys Meirion“Mae’n anrhydedd wrth gwrs derbyn Cymrodoriaeth fel hyn yn enwedig gan un o brifysgolion amlycaf Cymru, yma ym Mangor. Mae’n deimlad braf iawn bod rhywun yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydych yn ei wneud.  Mae’n rhoi hwb mawr i rywun fynd gam ymhellach a dal ati. Mae’n braf cael rhywun i guro’ch cefn weithiau.

“Roedd y Brifysgol wedi cynnig i mi ddod ar ddydd Llun yn wreiddiol ond  ro’n i’n meddwl ella y byddai’n anodd cerdded ar y llwyfan wedi’r daith  Cerddwn Ymlaen.   Dwi’n falch mod i wedi cael rhyw ddau ddiwrnod i ddod dros y daith, ond mae’r traed yn gwella ac rwyf wedi cael 10 niwrnod anhygoel efo criw o bobol arbennig iawn.

“Fy ngair o gyngor i’r rhai sy’n graddio heddiw ydy fod bywyd i gyd yn llawn o gyfleon, dwi’n teimlo. Dwi wedi cael y cyfle i ganu a pherfformio. Mae’n bwysig manteisio ar gyfleoedd pan maen nhw’n dod i’ch rhan.  Bydd cyfleoedd yn dod i ran y myfyrwyr sy’n graddio heddiw ac mae’n bwysig eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a mynd amdani.”

Yr Athro Robert Owen Jones OBE  
Cyn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r Yr Athro Robert Owen Jones OBE. Graddiodd o Fangor a dechreuodd ei yrfa academaidd yn y Brifysgol  gan dreulio naw mlynedd yn yr Adran Ieithyddiaeth. Dyfarnwyd OBE iddo yn 2012 am hyrwyddo ac adfywio'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.  Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i hybu’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia  ac fe’i cyflwynwyd am y Gymrodoriaeth gan yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg.

Meddai’r Athro Robert Owen Jones am y profiad:
Yr Athro Robert Owen Jones.Yr Athro Robert Owen Jones.“Dwi’n teimlo’n wylaidd iawn a dweud y gwir, ac yn teimlo’n sobor o ddiolchgar gan i mi fod yn   fyfyriwr yma. Yma wnes i ddysgu’n sgiliau. Y sgiliau yna fu’n help i mi wneud y gwaith dwi wedi  ei wneud gydol fy oes. Y Coleg yma roddodd y cyfle i mi fynd i Batagonia am y tro cyntaf yn ’71 a’r Coleg yma roddodd flwyddyn sabothol i mi yn 73-4 i wneud y gwaith mawr efo’r Gymraeg yno. Felly mae 'nyled i yn aruthrol i Goleg Bangor (Coleg oedd hi’r amser hynny wrth gwrs) a dwi’n teimlo na fyddai  fy ngyrfa wedi bod yr oedd hi oni bai am y cyfleoedd a’r sgiliau a ddysgais i yma.  Oherwydd hynny dwi wrth fy modd heddiw fod y Coleg  lle cefais fy nysgu yn cydnabod yr hyn rydw i wedi ei wneud yn ystod fy ngyrfa.

“Fy nghyngor i raddedigion newydd yw i osod nodau iddyn nhw eu hunain a cheisio ymgyrraedd at y nodau yna. Maen nhw wedi cael y sgiliau -  wedyn ewch ati i’w defnyddio  nhw: dyna’r cyngor fyddwn i’n ei roi i bob un.”

Yr Athro Jean White
Mae’r  Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru er 2010, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r agenda iechyd a phroffesiynol yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac  mae wedi bod yn gefnogwr rhagorol i waith Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Mae’n  Athro ar Ymweliad yng Nghaerdydd ac wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Abertawe.  Cafodd ei chyflwyno am Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i  addysg nyrsio gan yr Athro Jo Rycroft Malone, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol.

Meddai’r Athro White:
Yr Athro Jean White.Yr Athro Jean White.“Rwyf wedi gwirioni efo’r modd y mae’r Brifysgol wych hon yn ysgogi a chreu myfyrwyr o ansawdd uchel a gweithwyr iechyd proffesiynol o ansawdd uchel sy'n mynd i fynd allan i'r byd i roi gofal o ansawdd.  Rwy’n teimlo bod y Brifysgol wedi meithrin gwir ymdeimlad o werthoedd yn y myfyrwyr a bydd hyn yn sicr o fudd i'r cyhoedd wrth iddynt fynd yn eu blaenau i wasanaethu fel gweithwyr iechyd proffesiynol."

Ychwanegodd yr Athro  White:
"Hoffwn ddymuno’r gorau  i’r myfyrwyr sy'n graddio wrth iddynt symud ymlaen i fyd gwaith. Maent yn cymryd y cam cyntaf holl bwysig i fywyd proffesiynol yr wyf yn sicr wedi elwa ohono yn ystod fy ngyrfa ac rwyf yn gobeithio ac yn disgwyl pethau mawr ganddynt. Maent  wedi cael dechrau gwych yn y Brifysgol hon, felly rwyf yn disgwyl iddynt wneud pethau gwych yn eu gyrfaoedd proffesiynol."


George North 
Mae George North yn adnabyddus iawn  fel chwaraewr rygbi dros Gymru a'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig. Fe'i magwyd ar Ynys Môn ac aeth i Ysgol Bodedern;  ef yw’r chwaraewr ifancaf erioed i sgorio cais yn ystod ei gêm gyntaf dros Gymru.  Cafodd ei gyflwyno i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i chwaraeon gan yr Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer.

Y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Geogre North.Y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Geogre North.Dyma oedd gan George North i’w ddweud:
“Yn gyntaf  hoffwn ddiolch am yr anrhydedd ac mae’n fraint enfawr ei derbyn.  Mae yna restr faith o  bobol nodedig sydd wedi derbyn yr anrhydedd o’m blaen i ac mae’n bleser gen i fod yma heddiw.”

Roedd ganddo gyngor i chwaraewyr ifanc hefyd; “ Rhaid i chi ddal ati i fwynhau eich rygbi, a phan fyddwch yn ei fwynhau byddwch yn gwthio eich hun yn galetach ac yn ymarfer yn hirach. Felly, daliwch ati, peidiwch ag ildio, oherwydd efallai mai dim ond un cyfle gewch chi.”

Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor:

"Mae gwreiddiau Prifysgol Bangor yn ddwfn yn ei chymuned ac rydym yn hynod falch o'r cyfle i gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y mae'r bobl yma wedi'u gwneud yn eu gwahanol feysydd.  Maent wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i fywyd Cymru, neu mae ganddynt gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor."

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2014