Datrys y cyswllt rhwng iaith ac ystyr

Mae ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn trafod y cyswllt rhwng iaith ac ystyr mewn llyfr newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Cambridge University Press.

Yn The Crucible of Language, mae’r Athro Vyv Evans yn cyflwyno’r canfyddiadau diweddaraf i esbonio’r hyn yr ydym yn ei wybod, a’r hyn yr ydym yn ei wneud, wrth gyfathrebu gan ddefnyddio iaith. Mae’n dangos sut y mae ystyr ieithyddol yn codi, o ble y daw, a’r modd y mae iaith yn ein galluogi i gyfleu ystyriaethau a all ein cyffwrdd hyd ddagrau, ein blino hyd syrffed, neu ein gwirioni’n lân.

Fel hyn yr eglurodd Vyv Evans, Athro Ieithyddiaeth yn Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg y Brifysgol, y cefndir i’w waith:

“Am ran helaeth o ail hanner yr ugeinfed ganrif, cymerwyd yn ganiataol gan y rhai oedd yn astudio iaith mewn modd gwyddonol, mai’r gystrawen - sef ein gallu i saernïo brawddegau gramadegol cymhleth -  oedd nodwedd sylfaenol iaith ddynol.  Canlyniad anffodus hyn oedd y diffyg sylw a roddwyd i astudio ystyr, a wthiwyd i ymylon y drafodaeth.  Ac eto, yn ein profiad bob dydd, wrth i ni weithredu ac ymateb i lu o sefyllfaoedd sydd yn llenwi ein bywydau beunyddiol, yr hyn sy’n hanfodol yw gwerth cyfathrebol iaith  - y ffordd rydym yn ei defnyddio i gyfleu gwahanol bethau. Mewn bywyd pob dydd, mae sut yr ydym yn defnyddio iaith ac i ba bwrpas o’r pwysigrwydd mwyaf; gall ystyr ieithyddol fod yn fater o fyw a marw. Ac eto, yn eironig, tan yn ddiweddar, fe wnaeth yr astudiaeth wyddonol o iaith  wthio ei swyddogaeth ganolog – sef y ffordd  rydym yn defnyddio iaith i gyfleu syniadau, gwneud ceisiadau, gofyn ffafr, cyfleu dicter, cariad, siom ac yn y blaen – i ymylon eithaf dadansoddi  gwyddonol.”

Yr hyn a wna’r Athro Evans yn ei lyfr yw dod â’r darganfyddiadau diweddaraf am iaith a’r ymennydd at ei gilydd ar gyfer y darllenydd cyffredinol. Mae’n dangos sut mae iaith yn ein galluogi i  gyfleu syniadau cymhleth.

Un enghraifft y mae’r Athro Evans yn ei defnyddio i ddarlunio hyn yw’r modd yr ydym yn  defnyddio ymadroddion  diriaethol i drafod syniadau haniaethol yn ymwneud â lle  ac amser.  Er enghraifft, rydym yn dweud bod y ‘Nadolig  jest rownd y gornel’. Rydym yn gwybod nad lle daearyddol ydi’r Nadolig; er hynny rydym yn defnyddio’r syniad o le i’n  helpu i ddeall syniad bod yr ŵyl yn agos iawn atom o ran amser. Rydym hefyd yn defnyddio iaith mewn ffordd ddiddorol yn ein dychymyg wrth ddod â dau syniad  digyswllt at ei gilydd i wneud jôcs, fel “Beth wyt ti’n galw plismon o Lanberis? Copa’r Wyddfa!”, a “Pryd fydd ffarmwr fwyaf gofalus o’i foch? Wel, pan fydd o’n siafio siŵr iawn!”

Fel yr esbonia’r Athro Evans: “Mewn sawl ffordd, gellid dweud bod ystyr yn un o’r ffiniau olaf i’w chroesi o ran mapio’r ymennydd dynol. Fy nadl ganolog yw bod iaith a’r ymennydd yn cyd-fodoli i greu ystyr. Ni yn unig ymysg rhywogaethau sydd wedi datblygu system rheolaeth weithredol sy’n ein galluogi i ailddefnyddio cysyniadau’r ymennydd i gyfathrebu syniadau, ac i geisio dylanwadu ar feddyliau a chyflyrau meddyliol eraill.

Yn benodol, rwy’n honni bod cysyniadau yn y meddwl a chynrychiolaethau mewn iaith, yn wahanol o ran ansawdd, gan gyflawni swyddogaethau gwahanol ond cyflenwol wrth ein galluogi i ail ddefnyddio cysyniadau yn yr ymennydd i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith.  Y rhyngweithio hwn rhwng yr ymennydd ac iaith sydd yn ein galluogi i gyfleu ystyr yn y broses gyfathrebu.  

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015