Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Dirgelion y dwfn - arolwg y brifysgol o wely'r môr yn tynnu sylw at longddrylliad hanesyddol

Dave Mills (chwith) hanesydd morwrol lleol a'r Athro Mike Roberts o Brifysgol Bangor ar long ymchwil Prifysgol Bangor y Prince MadogDave Mills (chwith) hanesydd morwrol lleol a'r Athro Mike Roberts o Brifysgol Bangor ar long ymchwil Prifysgol Bangor y Prince MadogMae gorffwysfa olaf cwch ymosod cyflym a adeiladwyd yn Ynys Môn ac a welwyd mewn ffilm o Brydain ym 1951 wedi ei chanfod yn defnyddio sonar fel rhan o arolwg newydd gan arbenigwyr o Brifysgol Bangor.

Roedd yr MTB - motor torpedo boat - 539 yn chwyldroadol yn ei amser. Cafodd ei y cwch arfog hwn adeiladu ar lan y Fenai 75 mlynedd yn ôl gyda’r bwriad o wibio hyd wyneb y môr ar gyflymder o bron i 50mya, wedi'i yrru gan dair injan betrol V-12 Packard enfawr gyda marchnerth o 1500.

Cwch bygythiol iawn oedd hwn, yn 75 troedfedd o hyd ac yn cynnwys tiwbiau torpedo dwbl ar bob ochr ac arae o ynnau peiriant trwm. Dyma’r cwch cyntaf o eiddo’r Llynges i gael ei wneud yn llwyr o alwminiwm.

Cafodd y cwch ran fer mewn ffilm hyd yn oed, yn chwarae rhan un o gychod ymosod yr Almaen yn y ffilm Appointment with Venus, gyda David Niven a Glynis Johns yn serennu.

Ond roedd yr alwminiwm ysgafn a thenau hwnnw - cynnyrch y diwydiant adeiladu awyrennau adeg y rhyfel - hefyd yn golygu bod y cwch yn agored i niwed a phan oedd wrthi’n cael ei dynnu ym Môr Iwerddon cafodd ei ddal yn y gwynt a daeth un o'r peiriannau anferth yn rhydd a malu twll dinistriol yng nghorff y cwch.

Yr MTB 539Yr MTB 539Daeth y rhaff dynnu’n rhydd a suddodd y cwch yn gyflym ond diolch byth doedd neb ar fwrdd y cwch ac mae MTB 539 bellach yn gorwedd yn heddychlon oddi ar Drwyn Eilian ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr ynys mewn 120 troedfedd o ddŵr.

Archwiliwyd y llongddrylliad yn defnyddio sonar amlbaladr gan dîm o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor sy'n mapio gwely'r môr oddi ar arfordir Cymru fel rhan o broject arloesol O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru sy'n cynnwys nifer o safleoedd tanddwr o amgylch arfordir Cymru.

Dyluniwyd ac adeiladwyd MTB 539, un o nifer o longddrylliadau hanesyddol hyd arfordir Môn, gan Saunders Roe, arbenigwyr ar beirianneg yr awyr a’r môr, yn eu hiard ym Mae Llanfaes ar gyrion Beaumaris, a bu peiriannydd ifanc o’r enw Victor Mills yn gweithio ar y cwch yn fuan ar ôl ymuno â'r cwmni yn 1945.

Mae ei fab, yr hanesydd morwrol lleol Dave Mills, a ddilynodd ei dad i weithio yn Saunders Roe, wedi dwyn ynghyd hanes y cwch anlwcus a suddodd ym 1952.

Meddai: “Cwch arbrofol oedd hwn a phan gafodd fy nhad swydd yno roedd yn dipyn o syndod iddo cael ei roi i weithio arno bron yn syth.

“Roedd wedi ei adeiladu o alwminiwm ac roedd gan Saunders Roe brofiad o weithio gydag alwminiwm yn sgil eu gwaith ar gychod hedfan ac felly roedd yn ysgafn iawn gyda thair injan Packard enfawr, gyda marchnerth o 1500.

“Cafodd ei lansio tua 1948 ac aeth i lawr i Portsmouth i gael ei brofi ond datblygodd gryn dipyn o broblemau a bu’n rhaid ei dynnu yn ôl i Ynys Môn y tu ôl i dynfad.

“Roedden nhw wedi dod heibio i Drwyn Eilian oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Ynys Môn pan gawson nhw eu dal mewn storm fin nos a chafodd un o’r peiriannau ei ysgwyd yn rhydd nes gwneud twll yn y gragen alwminiwm denau a suddodd y cwch ar unwaith, heb i unrhyw un golli ei fywyd diolch byth.”

Ychwanegodd Dave fod MTB 539 yn eistedd ar wely tywodlyd ac na chafodd fawr o ddifrod: “Mae symudiad y llanw fel pe bai wedi rhoi polish i’r cwch nes ei fod yn sgleinio,” meddai.

Yr MTB 539 yn ei gorffwysfa olaf, naw milltir i'r gogledd-ddwyrain o Drwyn EilianYr MTB 539 yn ei gorffwysfa olaf, naw milltir i'r gogledd-ddwyrain o Drwyn EilianMae Dr Michael Roberts, o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, wedi chwarae rhan fawr ym mhroject SEACAMS2 ac wedi helpu i sefydlu’r fenter newydd ‘O Dan y Dŵr’ sy'n cynnwys casgliad unigryw o ddelweddau sonar a gwybodaeth am safleoedd tanddwr o amgylch arfordir Cymru.

Casglwyd llawer o'r data a'r delweddau oddi ar long ymchwil y brifysgol, y Prince Madog, sy’n cael ei hangori ym Mhorthaethwy, ac sy'n treulio oddeutu deugain niwrnod y flwyddyn yn teithio o amgylch arfordir Cymru yn mapio gwely'r môr.

Meddai Dr Roberts: “Rydym yn defnyddio system amlbaladr sy'n allyrru dros bum cant o belydr sonar ar unwaith bron, ac sy'n bownsio'n ôl oddi ar wely'r môr i ddarparu delwedd o'r hyn sydd i lawr yno.

“Mewn gwirionedd mae mwy o'n gwlad ni o dan y dŵr nag uwchben y dŵr a'n huchelgais ni yw mapio'r rhannau cudd hynny o Gymru mor fanwl â phosib.

“Rydym yn gwybod lle mae'r mwyafrif helaeth o’r llongddrylliadau - mae dros 300 ohonynt yn gorwedd oddi ar arfordir Cymru rhwng Sir Benfro a'r Gogarth - ond mae'r mwyafrif llethol naill ai'n anhysbys neu efallai wedi eu cam-adnabod.

“Mae'r MTB yn digwydd bod yn llongddrylliad a oedd wedi ei hadnabod o'r blaen ac oherwydd y dyfnder mae deifwyr wedi gallu ymweld â hi. 

“Mae pob llongddrylliad yn unigryw ac mae gan bob un ei stori ddiddorol ei hun, ond mae angen cynnal arolygon hyd yn oed o’r llongau corff dur a gollwyd dros y 100 mlynedd diwethaf, yn enwedig y rhai a gollwyd yn ystod y ddau ryfel byd, cyn iddynt ddirywio ymhellach yn sgil prosesau’r môr, nes na fydd modd eu hadnabod mwyach.

“Ar wahân i’r cysylltiad pwysig â’n treftadaeth forwrol, yn y llongddrylliadau hyn mae cargo y gallai fod yn werth ei achub ac mae llawer ohonynt yn cario arfau a thanwydd - mae’r llongau eu hunain hyd yn oed wedi’u gwneud o ddur sy’n rhagddyddio’r oes niwclear a gallai fod yn werthfawr wrth weithgynhyrchu offer meddygol sy'n sensitif i ymbelydredd.

“Mae hyn i gyd yn ddiystyr os na fyddwn yn adnabod y llongddrylliadau hyn yn y lle cyntaf ac felly trwy gynnal arolwg o bob safle llongddrylliad a gweithio'n agos gydag academyddion megis Dr Innes McCartney ym Mhrifysgol Bournemouth, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol agos."

Dechreuodd Ysgol Gwyddorau’r Eigion arolygu gwely'r môr yn 2012 ac ers hynny maent wedi mapio cannoedd o filltiroedd sgwâr oddi ar arfordir Cymru a channoedd o safleoedd llongddrylliadau.

Ychwanegodd Dr Roberts: “Mae gan y cyhoedd ddiddordeb enfawr yn y llongddrylliadau oddi ar ein harfordir a dyna pam rydyn ni'n postio’r rhai newydd ar ein gwefan mor aml â phosib.

“Yn seiliedig ar adborth a gawsom mewn dwsinau o ddarlithoedd cyhoeddus ac wrth gynnal arddangosfeydd ar ein hymchwil, mae'n amlwg bod awydd mawr i wybodaeth o’r fath gael ei rhannu'n ehangach ac mae ein menter ar-lein newydd yn ffordd o gefnogi hyn.

“Rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn ysgogi rhagor o ymwybyddiaeth a diddordeb yn amgylchedd tanddwr cuddiedig Cymru, yn tynnu sylw at yr ymchwil sy’n digwydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn helpu i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion.”

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol yr Athro John Turner: "Mae'r fenter gyffrous hon nid yn unig yn rhoi blas o'r ymchwil cyffrous sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol Bangor, ond mae'n rhoi cipolwg na fu modd ei gael cyn hyn o’r hyn sydd o dan y tonnau o amgylch arfordir Cymru."

I edrych ar ddyfroedd arfordirol cudd Cymru ewch i http://www.seacams.ac.uk/seacams2/ 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2020