Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd – ymchwil i wlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor

Yr Athro Chris FreemanYr Athro Chris FreemanMae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn astudio sut y gall gwlyptiroedd Cymru reoli llifogydd, dŵr yfed a hyd yn oed newid ein hinsawdd. Dan arweinyddiaeth Yr Athro  Chris Freeman mae ymchwil gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd yn cael ei gwneud yn Labordy Wolfson yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.   

Mae rhan fwyaf o waith y tîm yn ymwneud â mawndiroedd – math unigryw o wlyptir a geir yn helaeth ar draws Gogledd Cymru. 

“Planhigion wedi hanner pydru a geir mewn mawndiroedd ac felly maen nhw’n storio symiau enfawr o garbon,” eglurodd yr Athro Freeman.

“Yn wir, dim ond tua thri y cant o arwynebedd y ddaear sy’n fawndiroedd, eto maen nhw’n cynnwys mwy o garbon na’n holl goedwigoedd. Gwaetha’r modd mae llawer o’r mawndiroedd yn cael eu sychu a’u dinistrio, gan achosi i’r carbon sydd ynddynt gael ei ollwng i’r atmosffer fel nwyon tŷ gwydr niweidiol. Yng Nghymru, mae mawndiroedd hefyd yn helpu i reoli lefelau dŵr lleol, gan leihau perygl llifogydd a darparu llawer o’n dŵr yfed. Yn aml mae corsydd yn cael eu hystyried yn llefydd oer, agored ac annifyr ac felly mae pobl yn aml yn synnu pan maen nhw’n sylweddoli pa mor bwysig ydyn nhw i ni,” ychwanegodd yr Athro Freeman.

Mike PeacockMike PeacockMyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor yw Mike Peacock ac mae’n gweithio ar y cyd â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddo BSc mewn Sŵoleg a MSc mewn Ecoleg, y ddwy radd o Brifysgol Bangor.  

“Mae fy ngwaith i’n canolbwyntio ar adfer mawndiroedd, yn neilltuol corgorsydd (blanket bog). Ar y rhostir yma ceir llawer o rywogaethau o rug a mwsogl. Ar draws Prydain mae’r cynefin yma dan fygythiad o ganlyniad i agor ffosydd i sychu’r tir ar gyfer pori, plannu coed a saethu. O ganlyniad i hyn mae cydbwysedd carbon yr ecosystemau hyn wedi cael ei newid, gan achosi i fwy o garbon deuocsid gael i ollwng i’r atmosffer. Gan fod mawndiroedd yn storio traean holl garbon pridd y byd mae gan hyn oblygiadau dybryd o ran newid hinsawdd. Nawr, mewn cydweithrediad â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae rhwydwaith pedwar can milltir o ffosydd wedi cael eu cau ar gors y Migneint yn Eryri. Amcan hyn yw adfer y tirwedd a chodi’r lefel trwythiad dŵr yn ôl i’w lefelau naturiol er mwyn galluogi planhigion sy’n ffurfio mawn i ffynnu unwaith eto. Bydd ymchwil fanwl yn mesur y nwyon a ryddheir o’r mawn am nifer o flynyddoedd er mwyn darganfod a yw’r dull adfer hwn yn llwyddo i gadw mwy o garbon yn y ddaear. Yn ogystal, gobeithir y bydd blocio’r ffosydd yn gwella ansawdd y dŵr sy’n llifo o’r mawndir i ffrydiau ac afonydd.”

Mae Christian Dunn yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor gyda Labordy Wolfson. Mae ganddo BSc mewn Bioleg a MSc mewn Ecoleg. Dychwelodd i'r byd academaidd ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn gweithio fel newyddiadurwr. 

Christian DunnChristian Dunn“Rydw i’n edrych ar ddatblygu technegau geo-beirianneg i gynyddu maint y carbon sy’n cael ei storio ym mawndiroedd y byd. Os gwnawn ddarganfod ffordd ddiogel a chost effeithiol o wneud hyn, efallai y bydd yn bosibl amsugno peth o’r carbon deuocsid sylweddol sydd yna yn atmosffer y Ddaear. Gobeithir y gallai hynny ddechrau gwrthdroi effeithiau cynhesu byd-eang, gan arbed llawer o rywogaethau ac ecosystemau sydd mewn perygl o gael eu difodi, a hyd yn oed atal newidiadau enbyd ym mhatrymau ein tywydd a chynnydd yn lefelau’r moroedd. Mae manteision ariannol mwy uniongyrchol i’r gwaith hefyd, gan y gellir rhoi cyfrif am unrhyw garbon ychwanegol sy’n cael ei storio gan y mawndiroedd a’i werthu ar y marchnadoedd carbon sy’n dod i’r amlwg yn awr.           

Rydw i’n cael cyfle i edrych ar bob math o fawndiroedd, o orgorsydd ar garreg ein drws yma yn Eryri, i’r gwernydd mangrof yn Florida, ac o gorsydd rhew parhaol yr Arctig i wernydd trofannol.”

Mae David Hughes yn fyfyriwr PhD sy’n cael ei noddi’n rhannol gan Dŵr Cymru Welsh Water. Mae ganddo raddau BSc a MSc mewn Cemeg o Brifysgol Bangor. Mae’n gemegydd siartredig ac mae wedi gweithio fel cemegydd dadansoddol am 15 mlynedd.     

David HughesDavid Hughes“Mae moleciwlau Carbon Organig Hydawdd, a gaiff eu ffurfio wrth i blanhigion bydru, yn cael eu dal mewn dŵr mewn priddoedd a mawn. Mae maint y moleciwlau hyn sy’n symud o’n gwlyptiroedd i’n hafonydd a’n llynnoedd wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Er eu bod yn gwbl ddiniwed yn eu cyflwr naturiol, maent er hynny’n destun pryder. Pan maent yn dod i gysylltiad â phrosesau diheintio yn ein gweithfeydd trin dŵr maent yn ffurfio trihalomethanes (THM), ac mae’n hysbys iawn yr ystyrir y rhain yn bethau a all achosi canser. Fodd bynnag, mae yna reolaethau caeth ynglŷn â’r lefelau uchaf o THMs a ganiateir yn y cyflenwad dŵr. 

Rydw i’n cyfrannu at broject sy’n astudio sut mae THMs yn cael eu ffurfio o foleciwlau carbon organig hydawdd. Bydd y project hefyd yn creu pecyn gwybodaeth i’r diwydiant dŵr.” 

Mark CooperMark CooperAr hyn o bryd mae Mark Cooper yn ysgrifennu darganfyddiadau ei astudiaethau PhD. Mae ganddo radd mewn Ecoleg o Brifysgol Bangor.

“Mae fy ymchwil yn defnyddio ystod o dechnegau i ganolbwyntio ar y cyfnewid nwyon tŷ gwydr rhwng mawndiroedd a’r atmosffer. Cafwyd pryderon yn ddiweddar y gall y storfa garbon mewn mawndiroedd fod yn newid mewn rhai mannau i fod yn ffynhonnell garbon. Mae astudiaethau blynyddol mewn gwahanol leoliadau’n dweud wrthym faint o garbon sy’n cael ei storio neu ei ryddhau o’r mawndir ar hyn o bryd gan ein galluogi i ddarogan sut fydd yr ecosystemau hyn yn ymateb i newidiadau hinsawdd yn y dyfodol. Mae fy mhroject i’n rhan o broject cenedlaethol gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg wedi’i lleoli mewn gwahanol fannau. Cafodd fy holl waith PhD ei wneud ar safle yng Nghonwy. 

Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor yw Nina Menichino ac mae’n cael ei noddi’n rhannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’n ymchwilio i’r ffordd mae rhywogaethau planhigion yn ymateb i adfer corsydd diraddedig yng ngogledd orllewin Cymru. Mae ganddi raddau BSc a MSc mewn Ecoleg ar ôl dod i brifysgol fel myfyriwr hŷn. 

Nina MenichinoNina Menichino“Mae systemau corsydd, a geir mewn gwlyptiroedd ar lawr dyffrynnoedd, yn rhoi gwasanaeth ecosystem hanfodol ac mae’n allweddol i sicrhau lles a ffyniant dynol. Mae’r dalgylchoedd dŵr croyw hyn yn ffiltro llygryddion er mwyn darparu dŵr yfed i bobl, ac maent yn chwarae rhan sylfaenol mewn rheoli newid hinsawdd, gan fod carbon yn cael ei ddal yma. Er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae corsydd ym Mhrydain wedi dirywio, yn bennaf oherwydd lleihad yn y defnydd traddodiadol a wneid ohonynt a’u cynnal a’u cadw. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad yn eu bioamrywiaeth a’u heffeithiolrwydd fel hidlyddion a storfeydd carbon. Mae corsydd yn cynnal cymunedau arbenigol o blanhigion sydd angen eu gwarchod rhag cael eu goresgyn gan goed a llwyni, sy’n troi gwlyptiroedd yn dir sych. 

Felly, bwriedir ailsefydlu dulliau rheoli. Bydd y rhain yn cynnwys gweithgareddau fel strimio a thorri gwair â llaw er mwyn sicrhau bod y cynefinoedd hyn yn aros yn wlyb. Rhagwelir y bydd y dulliau rheoli hyn yn gwneud y cynefin yn fwy gweithredol a deniadol i fywyd gwyllt. Bydd yr ymchwil yma’n rhoi gwybodaeth newydd ynghylch sut y gallwn wella gallu’r gwlyptiroedd hyn i gynnal ansawdd dŵr yfed a rheoli rhyddhau nwyon tŷ gwydr er mwyn rheoli newid hinsawdd. Bydd hyn, ynghyd â chynnydd mewn amrywiaeth biolegol, yn cefnogi adferiad ecolegol y gwlyptiroedd pwysig hyn.” 

Rachel GoughRachel GoughMae Rachel Gough yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan Rachel radd BA mewn Astudiaethau Cyfun ac, ar ôl cyfnod byr ym maes ymgynghori ar yr amgylchedd, dychwelodd i fyd addysg i gwblhau MRes mewn Cemeg Dadansoddol a dechrau ei PhD, a noddir gan  Dŵr Cymru Welsh Water.

“Mae rhan o fy mhroject yn ymwneud ag effaith ail-wlychu rhan o fawndir a sychwyd ger llyn Alwen, ger Corwen, ar ansawdd a swm carbon organig hydawdd (dissolved organic carbon - DOC) a gaiff ei ryddhau. Nid yn unig mae DOC yn niweidio blas dŵr yfed, mae hefyd yn adweithio â chlorin yn ystod y broses ddiheintio i ffurfio THMs. Prif  ddiben yr ymchwil yma yw hyrwyddo dulliau o dynnu DOC wrth drin dŵr, a deall effaith penderfyniadau’n ymwneud â rheoli tir, megis ail-wlychu, ar ansawdd dŵr crai. Mae ail-wlychu mawn yn cael effaith sylweddol ar gemeg dŵr sydd mewn pridd ac, yn pen draw, ar ansawdd dŵr sy’n llifo i’n cronfeydd dŵr yn y bryniau. Felly, rydym wedi cynllunio arbrawf lle rydym yn addasu lefel y dŵr mewn creiddiau mawn a godwyd o’r safle. Caiff samplau o ddŵr pridd eu tynnu o’r creiddiau hyn dros amser er mwyn monitro newidiadau yng nghemeg dŵr. Mae ailwlychu mawn yn digwydd yn gynyddol wrth sylweddoli swyddogaeth bwysig mawndiroedd cyfan fel sinciau carbon. Mae lleihau THMs i’r eithaf mewn dŵr yfed wedi dod yn flaenoriaeth i’r diwydiant trin dŵr ers i wyddonwyr ddarganfod bod amlyncu lefelau uchel o’r cyfansoddion hyn yn gysylltiedig â niweidiau i iechyd.” 

Mae’r gwyddonydd ymchwil ôl-ddoethurol Tim Jones  wedi bod yn ymwneud â gwyddor gwlyptiroedd ers 10 mlynedd. Ar ôl cael gradd mewn Gwyddor yr Amgylchedd ym Mangor, cwblhaodd Tim radd PHD yn 2006 gan ymchwilio i effeithiau gwlyptiroedd ar ansawdd dŵr yfed. Ers hynny mae wedi bod yn gweithio ar nifer o brojectau ymchwil ôl-ddoethurol, pob un â thema’n ymwneud â gwlyptir. 

Tim JonesTim Jones“Rwy’n ymchwilio i rôl ecosystemau gwlyptir ar gylchoedd biogeogemegol byd-eang a’u dylanwad ar lynnoedd dŵr croyw ac afonydd. Y prif fath o wlyptir rwy’n ei astudio yw mawndiroedd; yn fyd-eang, y rhain yw’r gwlyptiroedd mwyaf cyffredin a’r pwysicaf oherwydd eu gallu i ddal carbon a fyddai, fel arall, yn gorffen fel carbon deuocsid yn ein hatmosffer. Mae cyfran fawr o’m harbrofion ymchwil wedi’u seilio ar ffenomenon sydd wedi digwydd mewn afonydd a llynnoedd yn llawer o wledydd hemisffer y gogledd yn y ddau ddegawd diwethaf – sef cynnydd mawr mewn DOC, yn arbennig mewn afonydd sy’n tarddu o fawndiroedd. Y gred i ddechrau oedd y gallai’r mawndiroedd fod yn dadsefydlogi oherwydd newid hinsawdd, ond mae ein gwaith arbrofol wedi dangos bod hyn wedi digwydd efallai oherwydd y gostyngiad mawr mewn glaw asid sydd wedi digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a bod y mawndiroedd yn syml yn dychwelyd i gyflwr ‘cyn-ddiwydiannol’ mwy naturiol. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brojectau a gyllidir gan DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd, gan ymchwilio i effeithiau DOC ar ansawdd dŵr yfed a sut y gall trosglwyddo DOC o fawndiroedd i ddyfroedd croyw fod â goblygiadau i newid hinsawdd. Rwy’n cydweithio hefyd ar brojectau sy’n ymchwilio i effeithiau defnydd dir ar ollyngiadau carbon o fawndiroedd trofannol a manteision posibl dal carbon mewn morfeydd heli.” 

Mae Mike Peacock, Nina Menichino, Christian Dunn a Rachel Gough i gyd wedi derbyn Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), bydd KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Bydd KESS yn parhau o 2009 tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr.

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012