Dylai safbwyntiau diwylliannol ddylanwadu ar bolisïau cadwraeth

Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglŷn â gwerth gwahanol rywogaethau.

Casglu data ar barn pobol am fywyd morol Casglu data ar barn pobol am fywyd morol Pan gynhaliodd ymchwilwyr arolwg dros bobl ar draws Ewrop, daeth safbwyntiau tra gwahanol i’w amlwg ynglŷn â phwysigrwydd cymharol of rhywogaethau môr, o algâu hyd at famaliaid. Yn awr, bydd llunwyr polisïau ar draws Ewrop yn rhoi ystyriaeth i’r canlyniadau hyn, ar ôl iddynt gael eu cynnwys yng ngwasanaeth newyddion electronig y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer lunwyr polisïau. Bwriad y rhain yw helpu’r rheiny sydd wthi’n brysur yn llunio polisïau i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â chanfyddiadau ymchwil amgylcheddol, fel y gallant gynllunio, gweithredu a rheoleiddio polisïau effeithiol.

“Mae bioamrywiaeth yn ecosystemau’r môr yn lleihau ar raddfa ddychrynllyd,” eglura’r Athro Mike Kaiser o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, a arweiniodd yr ymchwil gyda’r diweddar Athro Gareth Edwards-Jones o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a chydweithwyr ym Mhrifysgol Ynysoedd yr Açores (Azores).

“Er mwyn pennu amcanion cadwraethol a blaenoriaethu ymdrechion i arafu dirywiad bioamrywiaeth, rhaid i wneuthurwyr polisïau benderfynu pa rywogaethau sydd fwyaf gwerthfawr, i ecosystemau ac i bobl, fel ei gilydd. Mae llwyddiant rhaglenni cadwraeth yn dibynnu nid yn unig ar ddealltwriaeth wyddonol o werth gwahanol rywogaethau môr, ond hefyd ar y gwerth y mae cymdeithas yn ei chrynswth yn ei roi ar y rhywogaethau hyn. Yn gyffredinol, credir bod y duedd tuag at rywogaethau adnabyddus a charismataidd, megis mamaliaid ac adar, yn gwneud rhywogaethau llai adnabyddus yn fregus.”

Gan weithio fel rhan o rwydwaith o fewn yr Undeb Ewropeaidd a gyllidwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, bu’r ymchwilwyr yn ceisio canfod a oedd aelodau’r cyhoedd yn rhoi gwerth cyfartal ar rywogaethau ar draws Ewrop. Dewisasant gynnal eu harolwg mewn tri lleoliad arfordirol, sef Ynysoedd yr Açores, Portiwgal, Ynysoedd Sili, DU a Gwlff Gdansk, Gwlad Pwyl.

Cynhaliwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb â chyfanswm o 1,502 o bobl. Cafodd pob cyfranogwr weld casgliad o ddelweddau yn cynrychioli pob grŵp o rywogaethau, a oedd yn cynnwys rhywogaethau a oedd yn lleol yn eu rhanbarth. Gofynnwyd iddynt pa mor fodlon oeddent i dalu am gadwraeth ar gyfer gwahanol rywogaethau, ar sail taliad unigryw damcaniaethol i ‘ymddiriedolaeth gadwraeth’. Bu’r ymchwilwyr hefyd yn asesu lefel cyffredinol dealltwriaeth y cyfranogwyr o fioamrywiaeth.  

O’r cyfweliadau hyn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu canfod gwahaniaethau eithaf arwyddocaol yn y modd yr oedd pobl o’r gwledydd hyn yn gwerthfawrogi mamaliaid, pysgod, adar, algâu ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores yn prisio pysgod yn uwch na chyfranogwyr o Ynysoedd Sili, tra oedd y rheiny r Ynysoedd Sili yn rhoi pris uwch ar algâu na’r cyfranogwyr yn Ynysoedd yr Açores. Yng Ngwlff Gdansk, roedd dewisiadau’n fwy amlwg wrth ochr y gwledydd eraill, a mamaliaid yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf, ac yna pysgod, adar, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac, yn olaf, algâu.

Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ymwybodol o faterion cysylltiedig â bioamrywiaeth ac yn fodlon talu i warchod bioamrywiaeth. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaethau a gafwyd rhwng y gwledydd yn awgrymu bod cysylltiadau pobl â rhywogaethau penodol yn eu rhanbarthau eu hunain yn dylanwadu ar eu dewisiadau cadwraethol. Er enghraifft, yn Ynysoedd yr Açores, mae sgwba-blymio a physgota yn weithgareddau pwysig, o safbwynt economaidd a diwylliannol, fel ei gilydd. Gallai hyn beri i drigolion lleol osod gwerth uwch ar bysgod.

Meddai’r Athro Kaiser: “Yn ôl ein hymchwil, ceir tystiolaeth glir o alw cymdeithasol am warchod bioamrywiaeth y môr yn Ewrop. Er bod gwerth uchel bob amser yn cael ei roi ar famaliaid y môr, nid oeddent yn cael eu prisio gymaint yn uwch na rhywogaethau eraill ag yr oeddem wedi disgwyl. Rydym yn awgrymu bod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol o’r angen i warchod bioamrywiaeth ar draws amrywiaeth eang o rywogaethau. Fodd bynnag, dylai polisïau cadwraethol effeithiol fod yn gyson â daliadau a gwerthoedd cymdeithasol, sy’n amrywio o wlad i wlad.   

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012