Ffilm fideo Prifysgol Bangor ar rhestr fer cystadleuaeth fideo THE World University Rankings

Mae ffilm fideo fer sy'n rhoi sylw i'r tri pheth gorau ynghylch Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer i'r gystadleuaeth fideo Times Higher Education (THE) World University Rankings.

Yn y gystadleuaeth fideo, gofynnir i unrhyw un sy'n gweithio neu'n astudio mewn addysg uwch i ddweud wrth THE am y pethau gorau am eu prifysgol mewn llai nag 20 eiliad.

Meddai Carys Wyn Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata: "Rwy'n hynod falch bod ein fideo byr wedi cael ei roi ar y rhestr fer am y wobr yma.  Mae'r fideo, a gafodd ei greu dan Dîm y We, yn dangos gymaint sydd gan Fangor i'w gynnig ac rydym yn edrych ymlaen at glywed y canlyniadau'n ddiweddarach eleni."

Gellir gweld y fideos sydd ar y rhestr fer yma http://www.timeshighereducation.co.uk/news/the-world-university-rankings-video-contest-2013/2007100.fullarticle

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013