Gall datblygu ‘Gwytnwch Meddwl’ helpu pêl-droedwyr i ddelio â phwysau’r gic gosb sy’n penderfynu pwy sy’n ennill gêm

Mae’n bosibl mai cymryd y gic gosb sy’n pennu tynged y tîm mewn gêm Gynghrair yw’r sefyllfa fwyaf straenus y mae’n rhaid i bêl-droedwyr ei hwynebu. Mae angen iddynt ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg, fel na fydd y twrw nac unrhyw aflonyddwch arall o’r eisteddle yn effeithio arnynt.

Mae ymchwil ddiweddar yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn dangos y ffordd orau o hyfforddi pêl-droedwyr a chwaraewyr eraill i wrthsefyll y pwysau o saethu ciciau cosb ac adegau eraill pan fyddant dan lawer o bwysau.

Mae Seicolegwyr Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn datblygu a phrofi rhaglenni penodol i ddatblygu ‘gwytnwch meddwl’ ymysg chwaraewyr ifainc.

Fel rheol, mae hyfforddwyr chwaraeon yn defnyddio gwobrau i annog ac ysgogi timau ac athletwyr unigol. Fodd bynnag, mae’r ymchwil newydd wedi dangos mai’r athletwyr sy’n perfformio orau o dan bwysau, h.y. sy’n dangos y gwytnwch meddwl mwyaf, yw’r rhai sydd fwyaf ymwybodol o’r canlyniadau negyddol a all deillio o berfformiad gwael.

Esboniodd Stuart Beattie, o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff, Prifysgol Bangor, “Cawsom fod yr athletwyr a oedd, yn ôl eu hyfforddwyr, â gwytnwch meddwl, yn fwy ymwybodol o’r canlyniadau negyddol a all ddeillio o berfformiad gwael, ac yn tueddu i chwilio am y problemau a allai arwain at y rhain, a rhoi sylw iddynt yn llawer cynt na’u cyd-chwaraewyr llai gwydn.”

“Gallai pêl-droediwr adnabod y bygythiad o gymryd cic gosb o flaen torf o gefnogwyr uchel eu cloch ac ymarfer cau’r dorf allan, fel y gall ef/hi ymdopi â’r  bygythiad penodol hwnnw pan fydd yn codi’n wirioneddol. Felly, ymddengys mai magu sensitifrwydd tuag at ganlyniadau negyddol, neu addysgu athletwyr sut i ddelio â hwy, yn hytrach na chael eu hysgogi â gwobrau, sy’n meithrin lefelau uwch o wytnwch meddwl.”

Parhaodd Stuart Beattie i egluro, “Ym myd chwaraeon ar lefel ryngwladol, gall chwaraewyr ddioddef canlyniadau gwirioneddol o beidio â pherfformio ar y lefel uchaf – gall y rhain gynnwys unrhyw beth o gael eu gollwng o’r tîm i dderbyn gwatwar y cefnogwyr. Mae’r rhain yn bwysau anodd i athletwyr ifainc ymdopi â hwy. Yn ôl ein hymchwil, mae athletwyr ifainc â gwytnwch meddwl yn gallu perfformio o dan bwysau oherwydd eu bod yn adnabod bygythiadau i’w perfformiad yn fuan ac yn barod i ddelio â’r bygythiad yn ddiweddarach, pan fyddant dan bwysau.”

“I brofi’r canfyddiadau cychwynnol hyn, lansiodd y tîm ymchwil chwe mis o raglen ymyriad cymhwysol, lle dywedwyd wrth yr athletwyr a oedd dan oruchwyliaeth yr hyfforddwr y caent gosb am fethu â pherfformio; er enghraifft, canu cân o flaen y grŵp.  Pan roddwyd y cosbau, cawsant eu rhoi law yn llaw â strategaethau ar gyfer ymdopi â’r diffyg o ran perfformiad a oedd wedi arwain at y gosb. Cafodd yr athletwyr hefyd wybodaeth fanwl ynglŷn â’r rheswm iddynt gael eu cosbi. Ymhen chwe mis, dangosodd yr athletwyr ar y rhaglen gryn welliant yn eu sgorau gwytnwch meddwl, yn ôl barn eu hyfforddwyr, na’r rheiny na fuont trwy’r rhaglen ymyrryd.”

Bu’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit yn gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. Mae'r ymchwil hwn yn seiliedig ar waith parhaus ers 2008 sydd wedi cynnwys dros 400 o gricedwyr ifanc elitaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012