Gallai rhagofalon syml leihau’r risg o E coli 0157 yn yr amgylchedd, yn ôl ymchwilwyr

 

Mae ymchwilwyr sy’n edrych ar risg E coli O157 yng nghefn gwlad fel rhan o Raglen cynghorau ymchwil y DU ar yr Economi Wledig a Defnydd Tir yn dweud y gallai camau syml a gweithredu cydlynedig gan yr awdurdodau perthnasol chwarae rhan bwysig o ran diogelu plant a grwpiau bregus eraill.

Bu academyddion o brifysgolion Aberdeen, Bangor a Manceinion a’r Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol yn Llundain yn ymchwilio i’r modd y mae’r bacteriwm yn ymddwyn yn yr amgylchedd gwledig, ac i’r rhan y gallai ffermwyr, lladd-dai a’r cyhoedd ei chwarae.

Er i rai o’r heintiadau amlycaf o E coli O157 ddeillio o fwyd halogedig, ers canol y 90au, mae’r bacteriwm hefyd â chysylltiad agos â ffynonellau amgylcheddol, yn cynnwys tom anifeiliaid fferm a chyflenwadau dŵr preifat.  Mae hyn wedi achosi pryderon cynyddol ynglŷn â’r risg mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig i blant ifainc.  Fodd bynnag, cafodd yr ymchwilwyr mai ychydig yn unig o ymwybyddiaeth oedd gan ymwelwyd â chefn gwlad, a all fod yn arbennig o agored i’r clefyd.

Mae hyn yn peri pryder, am y gall risgiau penodol fod yn gysylltiedig â rhai pethau, er enghraifft, gwersylla mewn caeau lle bu anifeiliaid yn pori’n ddiweddar.  Gall bacteria E coli aros hefyd ar gamfeydd a physt ffensys, lle gall ymwelwyr osod eu dwylo pan fyddant allan yn cerdded a chael picnic.

Ymddengys fod y bacteria yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd daearyddol na’i gilydd, efallai oherwydd amrywiaeth yn lefelau’r bacteria y mae anifeiliaid fferm yn eu cario.  Er enghraifft, bu’r ymchwilwyr yn cymharu’r Mynydd Bannog (Grampian) â Gogledd Cymru, a chael bod pobl yn ardal astudiaeth yr Alban bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn sâl. 

Ymddengys fod gweithwyr amaethyddol yn magu rhywfaint o imiwnedd, ond mae plant mewn mwy o berygl oherwydd eu systemau imiwnedd anaeddfed, felly mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc sy’n byw yn y wlad ac i ymwelwyr ifainc, fel ei gilydd, gymryd rhagofalon priodol. 

Meddai’r Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Roedd yn bleser gennym gyfrannu at y project arloesol hwn a fu’n edrych ar y modd y mae E coli O157 yn ymddwyn yn yr amgylchedd ac, yn unigryw, ar y modd y gall ymddygiad pobl ddylanwadu ar y risgiau sydd ynghlwm wrtho.”

Ar ben hynny, medd Dr Norval Strachan o Brifysgol Aberdeen, a arweiniodd yr ymchwil: “Mae golchi dwylo’n drylwyr yn ffordd effeithiol i unigolyn leihau ei risg ei hun ar ôl ymweld â chefn gwlad, yn enwedig lle mae anifeiliaid neu eu baw,  a chyn bwyta. Dylai trigolion cefn gwlad ac ymwelwyr bod yn ymwybodol o’r peryglon. 

 “Er enghraifft, rydym yn cynghori ffermwyr i edrych ar ba le a pha bryd y mae anifeiliaid yn pori os oes risgiau penodol i’r cyhoedd, ac yn argymell bod awdurdodau lleol a chenedlaethol yn gwneud mwy o waith ar y cyd i gofi ymwybyddiaeth. Gallai targedu gofalwyr dros blant ifainc a’r rheiny sy’n gyfrifol am gynnal grwpiau chwarae a gweithgareddau plant ifainc fod yn arbennig o fuddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2012