Gorsaf Ymchwil Prifysgol yn cael ymweliad brenhinol

Croesawyd y Dywysoges Frenhinol i'r Brifysgol gan yr Athro John G Hughes.Croesawyd y Dywysoges Frenhinol i'r Brifysgol gan yr Athro John G Hughes.Daeth y Dywysoges Frenhinol i ymweld â gorsaf ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn heddiw (Gwener, 27 Chwefror 2015).

Yn cadw cwmni i'r Dywysoges Anne, y Dywysoges Frenhinol, ar yr ymweliad  oedd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund Seymour Bailey, a gwelodd nhw beth o'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud yn y ganolfan ymchwil.

Mae Gorsaf Ymchwil Henfaes wedi'i lleoli ar lefel y môr yn Abergwyngregyn ond mae ei thir yn mynd i fyny i fynyddoedd y Carneddau yn Eryri, gan alluogi staff, myfyrwyr a sefydliadau eraill i gynnal ystod eang o brojectau ymchwil ar wahanol fathau o dir. 

Gwelodd y Dywysoges Frenhinol enghreifftiau o'r mathau o ymchwil allweddol sy'n cael ei gwneud gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol, sy'n rheoli Gorsaf Ymchwil Henfaes.

Cafodd myfyrwyr lleol a rhyngwladol gyfle i gyflwyno'u gwiath yn ystod yr ymweliad.Cafodd myfyrwyr lleol a rhyngwladol gyfle i gyflwyno'u gwiath yn ystod yr ymweliad.Clywodd y Dywysoges Frenhinol am waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Henfaes i benderfynu sut i gynyddu cynhyrchiant systemau defaid ar yr ucheldir gan sicrhau manteision amgylcheddol, megis storio carbon a dŵr, yr un pryd.  Gwneir y gwaith hwn fel rhan o ymchwil a gyllidir gan 'raglen dwysau cynaliadwy' Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).  Mae'r Orsaf Ymchwil yn un o ddim ond pump o ffermydd astudio ym Mhrydain sy'n rhan o'r rhaglen, a hon yw'r ganolfan lle'r edrychir ar faterion yn ymwneud â thir uchel.  Caffodd y Dywysoges Frenhinol gyfle i weld ceffylau wedi'u cofrestru â'r enw 'Yr Wyddfa', a sefydlwyd gan y brifysgol yn 1918.  Defnyddir ceffylau'n gynyddol i reoli pori i ddibenion cadwraeth; felly, mae'n bwysig cynnal bridiau sy'n addas i ardaloedd arbennig. 

Mae gan y brifysgol record dda o ddatblygu cnydau newydd neu well ar gyfer amrywiol anghenion, boed yn ffermwyr tlawd yn is-gyfandir India neu ddatblygu cnydau o werth uchel ar gyfer marchnadoedd ym Mhrydain.  Mae un project o'r fath yn ymateb i'r galw sylweddol am haidd o safon uchel gan gwmnïau sydd eisiau manteisio ar y farchnad gynyddol am nwyddau grawn cyflawn. Profwyd bod gan haidd 'noeth' fanteision i iechyd ac mae Prifysgol Bangor wedi meithrin mathau wedi'u haddasu ar gyfer hinsawdd Prydain ac mae'r rhain yn cael eu datblygu'n gynhyrchion newydd ar hyn o bryd. 

Esboniodd Dr Katherine Steele am ei gwaith yn datblygu haidd noeth addas ar gyfer ei dyfu fel cnwd gwerth uchel gan ffermwyr ym Mhrydain.Esboniodd Dr Katherine Steele am ei gwaith yn datblygu haidd noeth addas ar gyfer ei dyfu fel cnwd gwerth uchel gan ffermwyr ym Mhrydain.Mae deunyddiau newydd yn cael eu datblygu o adnoddau adnewyddadwy, a gall y rhain gynnwys unrhyw beth o ddeunyddiau adeiladu i ddeunydd pecynnu ffrwythau a llysiau mewn archfarchnadoedd - deunydd y gellir ei gompostio wedyn.  Clywodd y Dywysoges Frenhinol glywed am broject pwysig i ddatblygu nwyddau newydd, megis y deunydd pecynnu bwyd bioddiraddadwy sy'n deillio o rygwellt, a'r cadwyni cyflenwi sy'n eu cefnogi.

Bu i'r Dywysoges glywed am waith allweddol y brifysgol yn helpu ffermwyr i adfer tir amaethyddol a ddifrodwyd yn dilyn digwyddiadau hinsawdd eithafol, megis y llifogydd a gafwyd yng Ngwastadeddau Gwlad yr Haf y gaeaf diwethaf.  Mae'r ymchwil hefyd yn rhoi gwybodaeth wyddonol i DEFRA y gellir sefydlu polisi yn y dyfodol arni. 

Meddai Is-ganghellor Bangor, yr Athro John G. Hughes: "Rydym yn hynod falch bod y Dywysoges Frenhinol wedi cymryd cymaint o ddiddordeb yn ein gwaith ymchwil amgylcheddol ac amaethyddol.  Ein cenhadaeth yn y maes hwn yw darparu sail wyddonol i amaethyddiaeth gynaliadwy, coedwigaeth a chadwraeth adnoddau naturiol."

Meddai'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:

"Yn ogystal ag addysgu cenedlaethau'r dyfodol o gadwraethwyr, gwyddonwyr amgylcheddol, coedwigwyr a daearyddwyr, ein nod yw darparu'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen gan ffermwyr, gwneuthurwyr polisi ac eraill i sicrhau byd mwy cynaliadwy.  Dros y blynyddoedd, mae Gorsaf Ymchwil Henfaes wedi cyfrannu at ymchwil bwysig sydd wedi cael ei mabwysiadu yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd."

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015