Lansio Addysg Dinasyddiaeth yng Nghymru

Senedd, Cynulliad Cymru, Bae Caerdydd: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd, 1230

“Thank the Lord I’m Welsh!”, meddai Cerys Matthews. Ond beth, bellach , yw ystyr bod yn Gymro neu’n Gymraes? Beth yw bod yn ddinesydd o Gymru? A yw datblygiad y Cynulliad wedi hyrwyddo’r ymdeimlad o fod yn ddinesydd Cymreig?

 A oes gennym gyfrifoldebau arbennig fel dinasyddion Cymreig? Sut y mae cysoni hynny gyda’n cyfrifoldebau fel dinasyddion byd?

 A oes gan ein hysgolion gyfrifoldeb i baratoi disgyblion i wynebu’r cwestiynau hyn? A oes ganddynt hefyd y cyfrifoldeb ehangach o gynorthwyo plant sy’n dod i Gymru o bedwar ban byd i ddod i delerau gyda bod yn ddinasyddion Cymreig?

 Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu trin yn y cyhoeddiad newydd Addysg Dinasyddiaeth yng Nghymru gan ddarlithwyr ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â’u cyd-weithwyr ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

 “Mae’r dulliau o addysgu dinasyddiaeth yng Nghymru yn wahanol i’r dulliau sydd ar waith yn Lloegr”, eglura Dr David Sullivan o Brifysgol Bangor, sydd wedi dod â’r gyfrol at ei gilydd, “Mae’r gwahaniaeth yn codi yn sgil y ffaith fod y Cynulliad wedi creu polisïau sy’n wahanol i’r rhai y mae’r llywodraeth yn Lloegr wedi’u mabwysiadu. Mae addysg dinasyddiaeth yng Nghymru yn rhoi mwy o bwyslais ar faterion byd-eang ac amgylcheddol. Mae’n paratoi disgyblion i ymgymryd â’u cyfrifoldebau fel dinasyddion yn ystyr ehangaf y gair.”

Lansir y llyfr yn y Cynulliad – prif symbol y broses ddemocrataidd yng Nghymru – gan Lywydd Prifysgol Bangor, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2011