Llwyfannau creigiog yn chwalu egni'r tonnau - dull newydd o amddiffyn arfordiroedd?

Mae cymunedau ar draws Cymru yn dod i delerau â'r peryg real iawn o lifogydd ar yr arfordiroedd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod cynifer â 48 o ardaloedd wedi eu nodi lle na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal a'u cadw yn y tymor hir.

Gan gadw'r ffaith galed honno mewn cof, mae gwyddonwyr yng Nghymru yn cyfrannu eu harbenigedd i gael darlun cliriach o'r tonnau a'r moroedd uchel sy'n taro ein harfordiroedd, fel y gallant ddeall yn well yr egni yn y tonnau a sut y gellir ysigo grym y tonnau.

Trwy gyfrwng project ymchwil rhyngwladol gydag arbenigwyr o Brifysgol Plymouth a chydweithwyr yn yr Iseldiroedd a Seland Newydd, mae arbenigwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn cyfrannu  galluoedd modelu eu cyfrifiaduron pwerus i broject ymchwil dan nawdd Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianneg a Ffisegol o'r enw WASP (Waves Across Shore Platforms).

Mae'r gwaith yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn mynd ymlaen dan arweiniad Dr Martin Austen, darlithydd yn nynameg yr arfordir ac arbenigwr mewn modelu rhifyddol.

Eglura Martin Austin:

"Yn draddodiadol rydym wedi ceisio amddiffyn yr arfordir trwy adeileddau fertigol solet, ond nid y rhain o anghenraid yw'r ffordd orau o wynebu neu sugno egni'r tonnau neu ymchwydd y môr.

"Gallwn weld ar hyd yr arfordir naturiol bod rhai ardaleodd yn llai tebygol o erydu, nid yn unig oherwydd eu gwneuthuriad daearegol ond oherwydd natur gwely'r môr o dan donnau'r llanw.  Mae cyfran uchel o'n harfordir yn greigiog, ac mae arwynebedd garw'r llwyfannau creigiog hyn o dan y dŵr yn sugno egni o'r tonnau wrth iddynt ddod i mewn cyn iddynt gyrraedd y clogwyni ac felly maent yn darparu rhyw fath o amddiffyniad naturiol i'r arfordir.

"Nid ydym yn deall y maes hwn yn iawn eto, ond mae'n faes astudio a allai ddatgelu mwy i ni ynghylch dulliau posib o wasgaru grym y tonnau cyn iddynt dorri yn erbyn yr arfordir. Gerwinder gwely creigiog y môr yw'r ffactor allweddol - po arwaf yw'r arwyneb, mwyaf o ynni sy'n cael ei dynnu o'r tonnau.

Bydd y modelau cyfrifiadurol sydd newydd eu creu yn ymgorffori data a gasglwyd  o'r synwyryddion tonnau diweddaraf,fideo digidol a sganwyr laser i fapio'r dirywiad yn egni'r tonnau ar draws arfordiroedd creigiog rhynglanwol.

Mae Dr Austin wedi gweithio gyda chydweithwyr yn yr Iseldiroedd ar fodelau cyfrifiadurol cynharach a bydd y project hwn yn hyrwyddo'r modelau hynny trwy eu cyfuno â'r data newydd i ragfynegi'n fwy cywir beth sy'n digwydd wrth i donnau dorri ar draws llwyfannau creigiog.

Ychwanegodd Dr Austin: "Efallai fod y gwaith hwn yn swnio'n ddamcaniaethol ond mae'n bosib y byddwn ni yn y dyfodol yn gallu datblygu dulliau newydd o amddiffyn rhannau o'n harfordir mewn ffordd wahanol, fwy cynaliadwy o bosib trwy leihau'r egni mewn ton cyn iddi gyrraedd y lan ddiamddiffyn. Er enghraifft, mae'n arbennig o berthnasol pan fyddwch yn ystyried lleoliadau posib datblygu gorsafoedd niwclear newydd megis Wylfa Newydd ar Ynys Môn, fydd ar yr arfordir. Gall helpu hefyd i ragfynegi ardaloedd lle mae clogwyni mewn peryg o chwalu."

Mae'r project wedi dewis modelu tonnau sy'n dod i mewn o Fôr yr Iwerydd i arfordir gogledd Dyfnaint a bydd yn gweithio ar safleoedd yn ne Cymru a gogledd Ynys Môn ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac mae'n gweithio gyda data a gasglwyd yn barod o Seland Newydd lle mae'r llwyfannau craig yn llyfnach ac ystodau'r llanw a thrai yn llai nag a geir o amgylch arfordir Prydain.

 Mae Martin Austin yn trafod ei waith at raglem PM Radio 4 yma (ar gael tan 14.12.14)

Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014