Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Mae gwyddonwyr Bangor yn troi gwlyptiroedd a gafodd eu niweidio'n storfeydd carbon

Safle echdynnu mawn yng NghanadaSafle echdynnu mawn yng NghanadaMae tîm o wyddonwyr wedi datblygu dull newydd i helpu corsydd mawn a brofodd niwed ddal mwy o garbon, a rhyddhau llai o'r nwyon tŷ gwydr i'r awyr.

Dywed y grŵp, sydd o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y gogledd, y gallai eu gwaith arwain at ddatblygu arferion newydd lle mae adfer mawndiroedd yn y cwestiwn.

Mae corsydd mawn gyda'r storfeydd carbon pwysicaf ar y blaned, ond mae llawer ohonynt mewn cyflwr gwael, ac mae cloddio'n dal i fynd rhagddo ar rai am fawn i'r diwydiant garddwriaethol.

Yn aml mae ardaloedd o'r fath yn mynd trwy broses adfer ddwys, yn enwedig yng Nghanada, lle mae rhai o'r gwyddonwyr sy'n ymwneud â'r ymchwil arloesol hwn wrthi'n gweithio.

Trwy waith y tîm gwelwyd bod ychwanegu cynhyrchion gwastraff naturiol, fel rhai naddion pren neilltuol, at y safleoedd a oedd wedi profi niwed cyn gwneud y gwaith adfer arferol, yn fodd i ddal mwy o garbon nag erioed o'r blaen  yn y gwlyptiroedd.

Casglu data ar safle adfer gwlyptir yng NghanadaCasglu data ar safle adfer gwlyptir yng NghanadaWrth egluro'r canfyddiadau, dywedodd Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor: “Mi wnaeth y cynhyrchion naturiol a ychwanegwyd at y corsydd mawn a oedd wedi'u niweidio ryddhau cemegolion o'r enw ffenoligau.

“Mae ffenoligau'n effeithiol iawn o ran rhwystro pethau rhag dadelfennu, sy'n golygu nad yw'r mawn sy'n weddill nac unrhyw weddillion planhigion marw eraill, yn dadelfennu mwyach.

“Petai'r mandir yn dadelfennu byddai nwy tŷ gwydr, carbon diocsid, yn cael ei ryddhau i'r awyr.”

“Felly, o atal y nwy hwnnw rhag cael ei ryddhau cedwir llawer iawn o garbon dan glo yng nghorsydd mawn y gwlyptiroedd; ac yn y pen draw mae hynny'n helpu'r frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd,” ebe yntau'r Dr Dunn.

Dywedodd yr Athro Chris Freeman, cyfarwyddwr Grŵp Gwlyptiroedd Bangor yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol:

“Yn naturiol ddigon, mae'n bwysig cadw cymaint o fawn â phosib yn y ddaear, ond mae cloddio amdano am amryw o resymau - cynhyrchu compost i'r ardd, er enghraifft.

Gwlyptir yng NghanadaGwlyptir yng NghanadaYng Nghanada mae yna reoliadau llym ar gyfer adfer y mawndiroedd a ddefnyddir i'r perwyl hwnnw.”

“Rhyw newid bach y mae ein dulliau'n ei olygu i'r dull arferol o adfer llysdyfiant - ond mae iddynt fuddion enfawr o ran faint o garbon y gall mawndiroedd a niweidiwyd ei storio, a hynny mewn cyfnod cymharol fyr,” meddai’r Athro Freeman.

Mae gwaith diweddar gan ddarlithydd arall o Brifysgol Bangor, Dr Nathalie Fenner, yn ychwanegu lefel arall o gefnogaeth i bwysigrwydd mawndiroedd fel storfeydd carbon.

“Y newyddion da yw inni gyhoeddi papur fis yn ôl yn Nature Climate Change sy'n dangos y dylai’r holl garbon ychwanegol hwnnw sy'n cael ei storio hyd yn oed wrthsefyll dadelfennu mewn sychder, ac amddiffyn y mawndir ei hun,” meddai Dr Fenner.

Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw ar wyddor gwlyptiroedd ac mae cyfleoedd gwych i'r myfyrwyr ddysgu am y cynefinoedd hynny ac ymweld â safleoedd ledled y byd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil, gweler:

https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fenvs.2020.00048/full ac

www.nature.com/articles/s41558-020-0727-y?proof=trueSouthampton.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2020