Mae treillio’n gwneud lledod yn denau

Nid yn unig y mae treillio gwely’r môr yn codi rhai o’r pysgod sy’n byw yno; mae hefyd yn gwneud rhai o’r rheiny sy’n goroesi yn deneuach ac yn llai iach trwy eu gorfodi i ddefnyddio mwy o egni i gael hyd i fwyd llai maethlon.

Dyma gasgliad papur a gyhoeddwyd mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the Royal Society of London B, ar sail gwaith a gyflawnwyd gan Dr Andrew Frederick Johnson tra oedd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. “Roeddem eisoes yn gwybod bod rhai rhywogaethau o bysgod gwely’r môr yn deneuach mewn mannau a dreillir nag mewn mannau eraill, ar sail gwaith cynharach gan Dr Jan Geert Hiddink (2011, Journal of Applied Ecology), ond hyd yma, cymerwyd mai’r rheswm oedd eu bod yn methu â chael hyd i ddigon o fwyd ac yn newynu trwy hynny.”

Dengys gwaith Johnson yn samplo pysgod ym Môr Iwerddon ar long ymchwil Prifysgol Bangor University, y ‘Prince Madog’, nad yw hynny’n wir; mae stumogau pysgod mewn mannau a dreillir yr un mor llawn ag mewn mannau eraill, ond maent yn bwyta ysglyfaeth wahanol a llai maethlon, ac yn gorfod defnyddio mwy o egni i gael hyd iddi. Er enghraifft, gall pysgodyn â llond bola o bysgod cregyn deimlo’n llawn, ond mae llawer o’u pryd yn gregyn heb unrhyw werth maethol. Byddai’n well ciniawa ar fwydod llawn sudd – ond mae’r rhain yn dioddef mwy gan effeithiau treillio.

“Nid yw hyn yn union am fod y pysgod yn newynog – mae’n digwydd am fod yn rhaid iddynt dreulio mwy o egni, wedi’r treillio, ar ddod o hyd i ysglyfaeth sy’n cynnwys llawer llai o egni,” medd Johnson, sydd bellach yn Sefydliad Eigioneg Scripps, San Diego. Oherwydd bod y pysgod yn gymharol denau, a llai o egni ganddynt wrth gefn, mae’n fwy anodd iddynt ymdopi â sefyllfaoedd straenus neu epilio, a gall hynny gael effaith dymor hir ar boblogaethau.

Y dystiolaeth ddiweddaraf yn unig yw hon o’r effeithiau andwyol a gaiff treillio ar ecosystemau’r môr. Mae’r dull dadleuol o bysgota yn golygu llusgo rhwyd ger gwely’r môr, gyda chadwyni ynghlwm wrth ei gwaelod sy’n corddi gwely’r môr, gan aflonyddu ar bysgod sy’n byw ar y gwaelod fel eu bod yn nofio i fyny i gael eu dal.

Mae treillio’n ei gwneud yn llawer haws dal pysgod megis lleden frech neu leden y llaid sy’n byw ar wely’r môr. Ar yr un pryd, mae’n niweidio ecosystemau gwely’r môr yn ddifrifol a gall ladd rhyw draean o’r infertebratau sy’n byw ar lwybr y treillio; mewn rhai mannau, gall gymryd blynyddoedd iddynt wella o hyn. Ar ben hynny, dengys yr astudiaeth ddiweddaraf hon nad lledod yn unig sy’n dioddef yn uniongyrchol o’r arfer hwn trwy gael eu dal; lleddir hefyd gyfran helaeth o’r infertebratau bach y maent yn eu bwyta, a hynny’n cael effaith anuniongyrchol ar iechyd rhai o’r pysgod sy’n parhau yn yr ardal.

Mae’r effaith yn amrywio o rywogaeth i rywogaeth. Cafodd Johnson fod poblogaethau lledod â diet arbenigol sy’n byw ar y gwaelod, megis y lleden frech, yn dioddef yn waeth, tra oedd rhywogaethau â diet mwy cyffredinol, megis lleden y llaid, heb ddioddef o gwbl.

Felly, os bydd treillio yn parhau heb unrhyw gyfyngiadau nac ymdrechion i liniaru’r effeithiau, bydd poblogaeth y rhywogaethau â diet cyffredinol yn cynyddu mewn mannau a dreillir yn drwm, a hynny ar draul y rhai â diet arbenigol. Mae hyn yn debyg iawn i’r hyn sydd wedi digwydd – prinhau wnaeth stociau’r lleden frech am lawer o flynyddoedd (hyd nes y cafwyd lleihad sylweddol mewn treillio), tra parhaodd poblogaeth lleden y llaid yn ddigonol, p’un a oedd hynny mewn mannau a dreillid yn drwm neu’n ysgafn.

“Mae lleden y llaid yn well wrth ddal ysglyfaeth sy’n gyfoethog o ran egni, fel y gall fyw’n rhwydd mewn mannau a dreillir, tra bo’r lleden frech yn dibynnu ar ddiet mwy penodol, fel y caiff lawer mwy o drafferth i ymaddasu i sefyllfaoedd lle mae’r ysglyfaeth yn newid,” medd Johnson. “Hwn yw’r tro cyntaf i neb lwyddo i ddefnyddio ecoleg fwydo gwahanol rywogaethau o bysgod i egluro’r effaith y gaiff treillio ar eu cyflwr.” Er mai ar ddwy rywogaeth yn unig yr edrychodd yr astudiaeth, mae ei chasgliadau’n debygol o fod yn berthnasol i unrhyw bysgod sy’n treulio’r cyfan neu ran o’u bywydau ar wely’r môr.

I sicrhau cynaladwyedd stociau o ledod, efallai y bydd arnom angen rheolau newydd i orfodi pysgotwyr i ddefnyddio offer sy’n llai niweidiol, neu i dreillio dros un rhan yn unig o wely’r môr.

Mae Johnson yn awgrymu y gallai llongau pysgota leihau effaith treillio wrth ddefnyddio cyfarpar newydd ac arloesol sy’n lleihau’r effaith a gaiff treillio ar yr infertebratau sy’n byw ar wely’r môr. Bu treillwyr yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wrthi’n datblygu treillrwydi trydanol yn lle’r cadwyni trwm, lle defnyddir pylsiau trydanol i yrru’r pysgod oddi ar y gwaelod ac i mewn i’r rhwydi. Yn ôl astudiaethau rhagarweiniol, efallai y caiff y treillrwydi hyn lai o effaith ar fwydydd lledod, ond mae angen mwy o waith yn y maes o hyd.

Mae hefyd yn dweud y gallai ‘lonydd treillio’ helpu – trwy hyn, ni châi llongau pysgota dreillio ond mewn ardaloedd penodol yn y môr. Byddai hyn yn golygu bod y niwed a achosid i wely’r môr gan dreillio yn gyfyngedig i’r mannau hynny, ond y gallai’r llongau ddal i obeithio dal pysgod yno, gan y byddent yn symud yno o fannau cyfagos oedd heb eu cyffwrdd. Fodd bynnag, mae’n cydnabod y byddai’n her gweithredu’r camau hyn ac y byddent yn gofyn am ddewis lonydd yn ofalus, gan gydweithredu â’r pysgotwyr, gan y gallai’r dull hwn brofi’n wrthgynhyrchiol pe dewisid lonydd treillio lle na cheir llawer o bysgod yn y lle cyntaf.

Meddai’r ecolegydd môr a’r Darlithydd, Dr Jan Hiddink, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:

“Mae’r gwaith hwn yn dangos bod pysgod yn ysglyfaethwyr hyblyg iawn. Er gwaetha’r ffaith fod deg gwaith yn llai o ysglyfaeth ar gael mewn ardaloedd a dreillid yn aml, roedd y pysgod yn dal i lwyddo i lenwi eu stumogau, er bod yr ysglyfaeth o ansawdd is. Felly, mae’n werth archwilio a yw’n fuddiol rhannu meysydd pysgota yn ardaloedd lle gall pysgod fwyta bwyd o ansawdd uchel yn rhwydd, ac agor meysydd treillio lle gellid dal pysgod.”

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2014