Math newydd o reis, Ashoka, yn dod â diogelwch bwyd i filiynau

Mae rhyw filiwn o dyddynwyr a’u teuluoedd yn nwyrain a gorllewin India yn mwynhau gwell sicrwydd bwyd, diolch i ymchwilwyr Prifysgol Bangor yng Nghymru.

Mae sicrwydd bwyd yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn aml. Y gwir yw y gall sicrwydd bwyd gael effaith sylweddol ar fywydau pobl, a gellir ei wireddu drwy wahanol ffyrdd.

Yn yr achos hwn, mae’r newid ym mywydau pobl wedi digwydd wrth i fath newydd o reis gael ei greu – math sy’n addas i’w dyfu gan ffermwyr ymgynhaliol sy’n byw yn yr ucheldiroedd, ac nad yw chwyldro amaethyddol ‘gwyrdd’ India ond prin wedi cyffwrdd â hwy.

Y rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu’r straen newydd o reis yw’r Athro John Witcombe a Dr Daljit Singh Virk o Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor. Maent wedi bod yn cydweithio â phartneriaid Ymddiriedolaeth Gramin Vikas (GVT) KRIBHCO Bhavan, NOIDA, Delhi Newydd a Phrifysgol Amaethyddol Birsa yn Ranchi, Jharkand, India.

Mae’r math newydd wedi prysur ennill poblogrwydd i’r fath raddau fel mai hwn, bellach, yw’r dewis mwyaf poblogaidd i’w dyfu yn yr ucheldiroedd. Y rheswm pennaf dros hyn yw na all y ffermwyr yno fanteisio ar y rhywogaethau newydd o reis a ddatblygwyd ar gyfer iseldiroedd ffrwythlon dyfredig. Buddiannau’r math newydd yw ei fod yn gwrthsefyll sychder a’i fod yn cynhyrchu cnwd da o dan amgylchiadau da.

Datblygwyd y reis, Ashoka 200F, yn arbennig ar gyfer ffermwyr ymgynhaliol. Yn lle bridio confensiynol, lle mae miloedd o blanhigion yn cael eu croesi yn y gobaith o ganfod nodweddion buddiol, mae llai o blanhigion yn cael eu croesi, ond yn cael eu dethol yn ofalus am y nodweddion hynny sydd eu hangen, fel y gallu i wrthsefyll sychder a chynhyrchu cnwd da. Mae’r drefn fridio arloesol, sef bridio planhigion dethol ar gyfer cleientiaid penodol, yn wahanol i ddatblygiad masnachol arferol hefyd, gan ei fod yn cynnwys y tyfwyr yn y broses dethol. Mae hyn yn eu galluogi i ddewis nodweddion sy’n bwysig iddynt hwy, fel blas da, grawn sydd yn coginio’n sydyn, neu sy’n gadael gwellt da ar gyfer porthiant.

“Mae’r canlyniadau yn hollol syfrdanol,” meddai’r Athro Witcombe. “Rydym yn amcangyfrif bod tua miliwn o dyddynwyr yn tyfu Ashoka, gan ddefnyddia hadau sydd wedi eu rhyddhau’n swyddogol, ac chan ddod ag elw o £12 miliwn y flwyddyn i’w cartrefi. Ar ben hynny, mae nifer o ffermwyr yn safio ac yn rhannu eu hadau eu hunain.”

“Mae ein tystiolaeth yn dangos bod mwy na 80% o ffermwyr a holwyd yn dweud bod y reis y maent yn ei dyfu yn parhau am fis yn hwy na chynt – gan arbed mis o wariant ar reis o’r farchnad iddynt. Mae cnwd cynnar a mawr Ashoka yn darparu bwyd ar gyfer y tymor newynog – yn ogystal â darparu porthiant i’r anifeiliaid. Roedd ffermwyr â grawn ar werth hefyd yn gallu gwerthu 45% yn fwy o rawn. Roeddynt hefyd yn ennill pris uwch oherwydd ansawdd uchel y grawn.”

Meddai Mr Dalip Pani o Orissa, India:

“Mae rhywogaethau Ashoka wedi fy nhrawsnewid o fod yn ffermwr ymgynhaliol i un sydd â chynnyrch dros ben. Gyda’r cynnydd yn fy incwm o werthu hadau Ashoka, rwyf wedi prynu tractor a phympiau dyfrhau. Rwyf bellach yn tyfu sawl cnwd yn y ddau dymor. Mae fy statws cymdeithasol wedi codi ac rwyf yn gyswllt ar gyfer sawl asiantaeth lywodraethol estynnol.”

Meddai Mr Rajinder Dhan, ffermwr o Jarkhand, India, sydd hefyd yn  cymryd rhan yn y bridio:

“Mae ffermwyr sy’n defnyddio mathau Ashoka yn parhau i’w tyfu am eu bod yn aeddfedu’n gynnar, oherwydd eu gallu arbennig i wrthsefyll sychder yn yr ucheldir ac oherwydd ansawdd uchel y grawn. Oherwydd ei ansawdd coginio da, rwyf yn dewis reis Ashoka ar gyfer digwyddiadau arbennig.”

Mae Cyngor India dros Ymchwil Amaethyddol wedi dewis y math hwn o fridio fel prif ddull o fridio mathau o reis ar gyfer ardaloedd sy’n dioddef o sychder, neu pan nad yw ymdriniaethau traddodiadol wedi llwyddo. Yn ogystal â hyn, mae nifer o wyddonwyr wedi dewis y dull o ganlyniad i ddwsinau o gyhoeddiadau a rhaglenni hyfforddi a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor yn ne Affrica ac Asia.

Meddai’r Athro Witcombe:

“Mae straeon y ffermwyr unigol mor real, ac yn ei gwneud yn hawdd iawn i ni werthfawrogi’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Mae hefyd yn dda gweld ein rhywogaethau’n cael eu lle yn y gadwyn cynhyrchu hadau.”

“Dechreuom ar y Rhaglen bridio tua 1995, sy’n amser byr iawn yn nhermau bridio planhigion. Pe baem wedi cadw at ddulliau confensiynol, ni fuasai modd inni gael yr effaith a gawsom.”

“Mae’n wych gweld bridwyr eraill yn dewis ein dull ni, a dylai hyn gael mwy o effaith yn y tymor hir. Rwy’n bersonol yn adnabod amryw o fridwyr planhigion y mae ein dull ni wedi dylanwadu ar eu dulliau hwy. Y broblem yw ei bod yn amhosib mesur faint y mae’r dylanwad hwn wedi’u helpu i gael llwyddiant yn eu rhaglenni bridio. Faint sydd i’w briodoli i’w sgiliau eu hunain a faint i’r dulliau y maent wedi’u dysgu gennym ni? Mae’r dull hwn yn athroniaeth – rhaid cadw yn y cof yr hyn y mae’r ffermwyr eu hangen, a chadw’ch dulliau bridio mor syml â phosib er mwyn cyflawni hyn – fel bod modd eu defnyddio mewn sawl ffordd.”

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015