Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael gwobr yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd

Gwladys Lambert sydd wedi cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.Gwladys Lambert sydd wedi cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.

Mae Cyngres Pysgodfeydd y Byd yn ddigwyddiad o bwys, a drefnir bob 4 blynedd gan Gyngor Cymdeithasau Pysgodfeydd y Byd. Mae’r Gyngres yn casglu gwyddonwyr, rheolwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr o’r diwydiant er mwyn trafod y gwaith o hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol mewn gwyddor pysgodfeydd, cadwraeth a rheolaeth, er mwyn gweithio tuag at ddefnydd cynaliadwy ar adnoddau morol ar draws y byd. Wrth fod mwy na 1,000 o gynrychiolwyr yn bresennol o fwy na 65 o wledydd, bu’r cynhadledd bedwar-diwrnod yn ymdrin ag amrywiaeth o themâu, yn cynnwys effeithiau pysgota, newid hinsawdd a mannau morol a warchodir.

Gwladys yn rhoi sgwrs yng Nghyngres Pysgodfeydd y Byd.Gwladys yn rhoi sgwrs yng Nghyngres Pysgodfeydd y Byd.Rhoddwyd mwy na 300 o gyflwyniadau gan fyfyrwyr yn y Gyngres, a Gwladys yn rhoi sgwrs yn y sesiwn oedd yn trafod effeithiau pysgota. Cyflwynodd rywfaint o ymchwil yr oedd hi wedi’i gwneud yn ystod ei PhD, dan oruchwyliaeth yr Athro Michel Kaiser, Dr Jan Hiddink a’r Athro Simon Jennings (CEFAS).  Y syniad y tu ôl i’r gwaith oedd ceisio amcangyfrif faint o amser a gymer i gymunedau milodol gwely’r môr ymadfer ar ôl i offer pysgota, megis llusgrwydi cregyn bylchog, aflonyddu arnynt.  Eglurodd Gwladys:

“Gall offer pysgota a lusgir ddifrodi, dileu neu ladd rhywogaethau nad yw’r bysgodfa, o reidrwydd, yn eu targedu. Mae’n bwysig iawn astudio’r effaith a gaiff pysgota ar organebau gwely’r môr, am eu bod yn rhan o ecosystemau’r môr. Mae’r organebau hyn yn hanfodol yn y gadwyn fwyd, ac yn darparu cynefin i rywogaethau eraill. Os ydym yn gwybod pa organebau ar wely’r môr sy’n dioddef fwyaf, sut y mae hyn yn digwydd, a pha mor hir y mae’n cymryd iddynt ymadfer, ac a oes unrhyw leoedd y byddant yn ymadfer yn gynt oherwydd amodau amgylcheddol da, mae’n fwy na thebyg y gallwn wella strategaethau rheoli pysgodfeydd, ac yna weithio tuag at ddefnyddio ein hadnodd mewn modd cynaliadwy.”

“Y prif bwynt yr oeddwn yn ei drafod yn ystod fy anerchiad oedd sut i wybod lle a phryd y mae pysgota’n digwydd. Yn gyffredinol, nid oes gan wyddonwyr data cywir iawn, a rhaid iddynt amcangyfrif/ darogan. Gallwn gyrchu rhywfaint o ddata ar bysgota, ond mae mynediad yn cael ei gyfyngu at ddibenion preifatrwydd, a gall hyn fod yn rhwystr mawr rhag i wyddor pysgodfeydd symud ymlaen. Yn ei dro, gall hyn effeithio’n uniongyrchol ar gyngor gan reolwyr, gan effeithio, trwy hynny, ar y diwydiant pysgota yn y tymor hir.

 “Mwynheais wneud yr ymchwil hon yn fawr, a hefyd ei chyflwyno i arbenigwyr, cydweithwyr a ffrindiau yn ystod y Gyngres. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw wobr amdani, ond mae’n amlwg fod hyn yn galonogol ac ysgogol iawn!”

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2012